Cofnodi 379 achos o gamymddwyn rhywiol o fewn y GIG

  • Cyhoeddwyd
Meddyg ar ward ysbytyFfynhonnell y llun, Johner Images/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd un gyn-nyrs ei bod yn teimlo bod camymddwyn rhywiol yn rhywbeth yr oedd rhaid iddi hi ei dderbyn

Cafodd o leiaf 379 achos o gamymddwyn rhywiol eu cofnodi o fewn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn y pedair blynedd ddiwethaf, yn ôl ffigyrau sydd wedi dod i law BBC Cymru.

Mae'r ystadegau wedi eu darparu gan gyrff iechyd ac yn rhoi awgrym pellach o ba mor gyffredin yw digwyddiadau o'r fath.

Yn ôl rhai arweinwyr meddygol, fe allai'r gwir nifer fod yn uwch gan nad yw llawer o ddioddefwyr yn rhannu eu profiadau.

Dywedodd Llywodraeth Cymru a'r sefydliadau iechyd nad oes unrhyw le i gamymddwyn rhywiol.

Mae BBC Cymru wedi siarad â chyn-nyrs fu'n hyfforddi yn ysbytai de Cymru dros 20 mlynedd yn ôl ac sy'n dymuno aros yn ddienw.

Mae'n dweud bod camymddwyn rhywiol yn rhywbeth roedd hi a'i chydweithwyr yn teimlo roedd rhaid ei dderbyn.

'Dim byd yn cael ei wneud'

Wrth ddisgrifio gweithio shifft nos penwythnos ar uned frys, bu'n sôn am ymddygiad cleifion meddw.

"O'n nhw'n meddwl bod hawl 'da nhw jyst i deimlo ni lan - dwylo nhw dros bronnau ni, trio mynd lan sgertiau - ac o'dd pobl jyst yn meddwl bod e'n iawn i 'neud e.

"Pob wythnos neu bob shifft roedd rhywbeth yn digwydd, nid jyst i fi ond lot o nyrsys eraill, a doedd dim byd yn cael ei wneud.

"Nes i fynd mewn a gweld prif chwaer y ward, ac esbonio beth ddigwyddodd, a dywedodd hi fydden nhw ddim yn cefnogi fi, ac i beidio gwneud unrhyw beth na reporto fe i'r heddlu."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Aelod o staff oedd y dioddefwr yn 93% o'r achosion a gafodd eu cofnodi

Fe ofynnodd rhaglen Wales Live BBC Cymru i bob un o gyrff iechyd Cymru trwy Gais Rhyddid Gwybodaeth am nifer yr achosion o gamymddwyn rhywiol a gafodd eu cofnodi rhwng Ionawr 2020 a Rhagfyr 2023.

Ymysg y chwe sefydliad wnaeth ymateb, roedd cyfanswm o 379 achos wedi eu cofnodi - gan gynnwys achosion honedig o aflonyddu rhywiol, ymosodiad rhyw a threisio.

Mewn 93% o'r achosion, aelod o staff oedd y dioddefwr.

Cafodd achosion eu cofnodi ar wardiau i gleifion bregus, yn cynnwys ysbyty plant, ac achosion o dreisio ar wardiau iechyd meddwl.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Dr Olwen Williams, mae nifer yn poeni am effaith rhannu unrhyw brofiadau ar eu gyrfaoedd

Yn ôl cadeirydd Academi Colegau Brenhinol Meddygol Cymru, Dr Olwen Williams, mae gwir nifer yr achosion yn debygol o fod yn uwch.

"Un o'r issues 'dan ni'n gweld yn y gweithle ydy mai mater o bŵer ydy hwn, rhwng falle ymgynghorydd a rhywun o dan hyfforddiant.

"Ac felly mae'n anodd iawn iddyn nhw ddod ymlaen a siarad am y ffaith bod nhw'n teimlo eu bod nhw'n cael eu harasio.

"Maen nhw'n ofnus, yn ofnus am eu gyrfa. Ond y peth mwyaf ydy, efo pwy maen nhw'n mynd i siarad? Ydyn nhw'n mynd i gael eu coelio?

"Dyna ydy'r peth mawr - ofn - yn atal pobl rhag dod ymlaen."

Ymddygiad 'wedi newid' dros y blynyddoedd

Fe arwyddodd Dr Williams lythyr agored y llynedd yn galw am wneud rhagor i atal rhywiaeth a chamymddwyn rhywiol o fewn y gwasanaeth iechyd.

Mae'n dweud ei fod yn digwydd mewn ffordd wahanol bellach.

"Pan o'n i'n 'neud fy hyfforddiant oedd o'n reit amlwg 'O, nes di basio dy exams achos bod gen ti fronnau mawr'."

"Rŵan mae o'n lot mwy subtle ac yn newid, diwylliant social media a bob man arall, mae'r misogyny wedi dod yn fwy amlwg yno."

Cafodd yr ystadegau eu darparu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, Bwrdd Iechyd Aneirin Bevan, Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, Bwrdd Iechyd Powys a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

Doedd dim ymateb gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Bae Abertawe, Ymddiriedolaeth GIG Felindre, ac fe wrthododd Bwrdd Iechyd Hywel Dda ddarparu'r wybodaeth.

Dangosodd ffigyrau'r llynedd bod 152 o ymosodiadau rhyw honedig a 26 achos honedig o dreisio ar dir ysbytai wedi eu hadrodd i'r heddlu rhwng 2019 a 2022.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na bryder y gallai achosion o aflonyddu effeithio ar y nifer fydd eisiau gweithio i'r GIG

Mae Coleg Brenhinol y Nyrsys yn credu bod yr achosion yn mynd yn fwy cyffredin, yn ôl eu llefarydd, Nicola Davis-Job.

"Ni wedi gweld y broblem yma yn mynd lan ac mae llawer o resymau ni'n meddwl - stress i gleifion, alcohol, cyffuriau - ac mae sympathy gyda'r nyrsys.

"Mae'n anodd. Mae gyda'r nyrsys therapeutic relationship gyda'r clefion a pan mae hwnna'n torri lawr, mae'r nyrsys yn drist, yn mynd yn sâl neu ddim moyn mynd i'r gwaith."

Mae Ms Davis-Job yn poeni am yr effaith ar adeg pan mae nyrsys yn brin.

"Bydd dim student nurses moyn dod i mewn i'r proffesiwn os maen nhw'n gweld bod neb yn gwneud dim pan mae nyrsys yn dioddef camdriniaeth.

"Mae'n rhaid i bawb wybod bod hyn ddim yn mynd i gael ei goddef. Mae'n rhaid i ni gadw'r staff, y cleifion a phawb yn saff."

Aflonyddu a thrais rhyw yn 'atgas'

Dywedodd y gyn-nyrs wrth BBC Cymru bod arweinwyr yn gyndyn o weithredu.

"Dwi'n credu bod nhw'n ymwybodol, ond sai'n credu bod nhw'n barod i 'neud dim am y peth.

"Os does neb yn sôn amdano fe, dyw e ddim yn broblem, a dwi'n credu bod hwnna'n haws i'r byrddau iechyd a'r llywodraeth."

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Llywodraeth Cymru a holl sefydliadau'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru bod aflonyddu a thrais rhyw yn "atgas" ac nad oes lle iddo yn y gwasanaeth iechyd.

"Rydym yn cytuno'n llwyr y dylid tynnu sylw at bob gweithred o aflonyddu rhywiol a mynd i'r afael ag o.

"Rydym yn annog y GIG i gefnogi erlyniadau troseddol yn erbyn unrhyw un sy'n ymosod ar staff, ymwelwyr neu gleifion.

"Rydym eisiau i unrhyw un sydd â phryderon neu sydd wedi profi aflonyddu neu drais rhyw wybod y bydd rhywun yn gwrando arnyn nhw.

"Rydym wedi cyflwyno mesurau i wneud hynny'n haws, yn cynnwys Fframwaith GIG Cymru Codi Llais Heb Ofn a pholisïau Diogelwch Rhyw, fydd yn cryfhau prosesau a rhoi sicrwydd y bydd pryderon yn cael eu cymryd o ddifrif, yn cael gwrandawiad teg, cefnogaeth ac na fydd goblygiadau i'r unigolion."