Llywodraeth Cymru 'yn gwrando' ar ffermwyr
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod "yn gwrando" ar bryderon ffermwyr ac y bydd newidiadau i gynlluniau amaeth yn sgil barn y rhai yn y diwydiant.
Daw sylwadau'r gweinidog materion gwledig Lesley Griffiths yn dilyn cyfres o brotestiadau gan ffermwyr yn gwrthwynebu cynlluniau amaeth newydd Llywodraeth Cymru.
Roedd pobl wedi ymgynnull i brotestio yng Nghaerfyrddin, Hen Golwyn ac Aberystwyth ddydd Iau, a hynny'n dilyn digwyddiad tebyg yn Y Rhyl ddydd Mercher.
Mae'r gweinidog wedi dweud bod y llywodraeth yn "gwrando, a byddwn yn ystyried yr holl ymatebion".
Ychwanegodd Ms Griffiths y byddai "pob ymateb unigol i'r ymgynghoriad yn cael ei ystyried", ac na fyddai penderfyniad terfynol nes bod yr holl ymatebion wedi eu hystyried.
Dywedodd bod rhai newidiadau eisoes wedi eu cyflwyno, gan gynnwys bod y cynllun ar agor i bob ffermwr o 2025 ymlaen, ac addasiad i'r gofyniad am 10% o goetir i gynnwys coed presennol.
Ychwanegodd bod addasiadau i ffermwyr tenant, ac na fyddai'r gofyniad yn dod i rym nes 2030 er mwyn rhoi mwy o amser i weithredu.
"Rwyf am i'n ffermwyr barhau i gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy," meddai.
"Dyna pam rydyn ni wedi cynnwys y diwydiant bob cam o'r ffordd, ac mae'n hanfodol bwysig bod pobl yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad.
"Dydyn ni erioed wedi cynnal proses ymgysylltu mor drylwyr â'n ffermwyr a'n rhanddeiliaid."
'Digon yw digon'
Yn Aberystwyth roedd dros 800 o bobl wedi ymgynnull mewn protest dydd Iau.
Roedd dros 200 o gerbydau wedi parcio ar y ffordd wrth ymyl adeilad Llywodraeth Cymru yn y dref.
Cafodd gweithwyr Llywodraeth Cymru yn Aberystwyth gais i osgoi'r swyddfa ddydd Iau - cam sydd, yn ôl ffermwyr, yn enghraifft arall o'r llywodraeth yn anwybyddu eu lleisiau.
Draw yng Nghaerfyrddin roedd dros 50 o dractorau a thua 100 o bobl yn y brotest i wrthwynebu cynlluniau amaethyddol Llywodraeth Cymru.
Fe wnaeth tractorau rwystro'r ffordd y tu allan i swyddfa Llywodraeth Cymru ger Parc Pensarn.
Dywedodd arwyddion ar flaen rhai tractorau "Digon yw digon", gydag eraill yn darllen "mae moch daear yn lledaenu TB".
'Dy'n nhw heb wrando arnom ni'
Er bod Lesley Griffiths yn dweud bod y llywodraeth yn cydnabod y protestiadau ac yn gwrando, mae un o'r ffermwyr oedd yn bresennol ym mhrotest Caerfyrddin yn anghytuno.
Dywedodd Gwyndaf Thomas, 46, sy'n ffermio ym Meidrim fod ffermwyr "wedi cael digon".
Fe ddisgrifiodd y sefyllfa fel un "dorcalonnus" gan ddweud bydd y "cynlluniau yn mynd i 'bennu ein busnesau".
"Rydyn ni wir yn poeni y bydd ymgynghoriad yr SFS [cynllun ariannol y llywodraeth] yn mynd yr un ffordd â'r ymgynghoriad TB ac ni fydd Llywodraeth Cymru yn gwrando un tamaid arnom ni.
"Ni'n poeni y bydd hynny'n digwydd eto.
"Maen nhw'n clymu ein dwylo ac yn disgwyl i ni barhau i weithio fel yr ydyn ni nawr."
'Wedi cael llond bola'
Gyda chyfres o brotestiadau eisoes wedi eu cynnal dros yr wythnosau diwethaf, dywedodd Mr Thomas ei fod yn "dibynnu ar y ffordd mae Llywodraeth Cymru yn newid eu hymateb ac yn newid y ffordd maen nhw'n trafod" wrth ystyried mwy o brotestio yn y dyfodol agos.
Fe ychwanegodd: "Mae lan iddyn nhw i wrando ac mae lan iddyn nhw gymryd sylw o beth s'da ni ddweud a gweithio gyda ni, ni just wedi cael llond bola."
Dywedodd Keith Jones o Lanarthne ei fod yn "fed up o bopeth sy'n digwydd i ffarmo... so nhw'n gwrando ar neb."
Ychwanegodd Daniel a Dafydd o Faes-y-bont: "Ni'n credu bod e'n bwysig sticko gyda'n gilydd a bo' ni gyda'n gilydd yn protestio."
"So Drakeford yn gwrando lot odyw e, ma' fe'n mynd yn erbyn ffermwyr. 'Na pam ni still yn protestio - ma' fe'n erbyn y ffermwyr."
'Gwleidyddion yn gwneud dim byd'
Dywedodd Steffan Griffiths, 19 oed o Crwbin ei fod yn "supportio pawb arall, so'r gwleidyddion yn gwneud dim byd amdano fe."
Fe ychwanegodd ei fod yn "gobeithio deith rhywbeth o hwn. I fod yn onest, sai'n gwybod pryd fydd e'n 'bennu."
Roedd tua 20 tractor wedi ymgynnull hefyd yn Hen Golwyn ddydd Iau, lle'r oedd disgwyl i'r prif weinidog ymweld ag ysgol.
Yn gynharach yn yr wythnos, fe ddywedodd y prif weinidog Mark Drakeford fod cynlluniau amaeth newydd Llywodraeth Cymru yn cael eu cyflwyno oherwydd bod ffermwyr wedi pleidleisio o blaid Brexit.
Mewn ymateb i'r protestiadau, dywedodd llywydd NFU Cymru, Aled Jones fod ffermwyr Cymru "o dan bwysau".
Aeth ymlaen i ddweud bod y pwysau gwahanol yn rhoi "straeon enfawr ar fusnesau ffermio a'u teuluoedd".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror
- Cyhoeddwyd21 Chwefror
- Cyhoeddwyd20 Chwefror
- Cyhoeddwyd16 Chwefror
- Cyhoeddwyd14 Mai