Llys Apêl: Dim modd i Lywodraeth Cymru atal ehangu glofa
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr amgylcheddol wedi methu yn eu hymdrech i brofi y byddai gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi gallu ymyrryd i atal estyniad i bwll glo Aberpergwm ger Glyn-nedd.
Y llynedd fe ddyfarnodd yr Uchel Lys nad oedd gan Lywodraeth Cymru'r hawl i wrthdroi trwydded a gafodd ei chaniatáu gan yr Awdurdod Glo yn 1996.
Er i ymgyrchwyr golli eu her gyfreithiol wreiddiol, cawson nhw ganiatâd i apelio.
Ond daeth barnwyr yn y Llys Apêl yng Nghaerdydd i'r casgliad bod dyfarniad gwreiddiol yr Uchel Lys yn gywir, ac nad oedd pwerau Lywodraeth Cymru yn berthnasol i drwyddedau a gafodd eu cyflwyno cyn 2018.
Mae 'na fwriad i gloddio am 42 miliwn tunnell ymhellach o lo yn Aberpergwm, gyda'r gweithredwyr Energybuild Mining Ltd wedi sicrhau trwydded i wneud estyniad tanddaearol i'r safle, sy'n ddilys tan 2039.
Ond cafodd y drwydded ei chyflwyno cyn i'r llywodraeth ym Mae Caerdydd dderbyn grymoedd dros byllau glo fel rhan o Ddeddf Cymru 2017.
Fe aeth grŵp ymgyrchu Coal Action Network i'r Llys Apêl er mwyn herio'r dehongliad o'r ddeddfwriaeth ar ôl iddyn nhw fethu yn eu hymdrech i sicrhau adolygiad barnwrol.
Dadl cyfreithwyr ar ran y grŵp oedd y gallai gweinidogion fod wedi camu mewn ac atal mwy o gloddio yn Aberpergwm, a bod yn rhaid iddyn nhw roi caniatâd i'r Awdurdod Glo am unrhyw gloddio pellach.
Mae'r Coal Action Network wedi annog Llywodraeth Cymru i ymyrryd er mwyn atal rhagor o dyllu ar y safle.
Ond mynnu mae cyfreithwyr Llywodraeth Cymru nad oedd ganddyn nhw unrhyw awdurdod dros sut y cafodd cynlluniau'r lofa eu caniatáu, ac nad oes modd cyflwyno ôl-ddeddfwriaeth i atal y drwydded.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Chwefror
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2022