Ymchwiliad Covid: 'Sa i'n licio'r normal newydd'
- Cyhoeddwyd
Yr wythnos hon, mewn gwrandawiad yng Nghaerdydd, fe fydd fe fydd Ymchwiliad Covid-19 y DU yn dechrau clywed tystiolaeth yng Nghymru.
Rhwng 27 Chwefror a 14 Mawrth fe fydd arbenigwyr, swyddogion a gwleidyddion yn cael eu holi am benderfyniadau a gafodd eu gwneud mewn ymateb i'r pandemig, gyda'r gobaith o ddysgu gwersi at y dyfodol.
Bydd yn gyfle hefyd i deuluoedd a gollodd anwyliaid rannu eu profiadau.
Un a fu'n trafod yr argyfwng gyda BBC Cymru yn ystod blwyddyn anodd gyntaf y pandemig yw'r Dr Bethan Gibson, Meddyg Ymgynghorol Gofal Dwys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant.
Wrth edrych yn ôl ar yr argyfwng a ddaeth â bywyd arferol pawb i stop ym Mawrth 2020, mae'r "holl amser yn teimlo fel breuddwyd", meddai Dr Bethan Gibson, a rhai pethau hyd yn oed wedi mynd yn angof.
Ond mae pethau eraill wedyn sydd wedi eu serio ar y cof, gan gynnwys y ffordd y gwnaeth staff yr ysbyty "ddod at ei gilydd" dan amgylchiadau eithriadol i ofalu am gleifion oedd angen gofal dwys.
"Dwi'n teimlo'n eitha clos nawr at y bobol yna, naeth fyw'r profiad yna," dywedodd.
Roedd yr ysbyty dan ei sang a llawer o'r shifftiau, ddydd a nos, yn heriol.
"O'dd e mor brysur a mor gymhleth. O'dd un claf yn sâl, trin y claf yna, yr un nesaf, yr un nesaf. Dwi'n cofio un noson nes i ddim stopio am un diod, bwyd, tŷ bach am tua 10 awr.
"O'n ni'n gorfod rhedeg o gwmpas dros fwy o ardal hefyd. Ac wrth gwrs ro'n ni'n gorfod gwisgo'r PPE drwy'r amser ac roedd hynna'n gwneud popeth yn reallygymhleth o ran os ti'n gorfod gwneud procedures o'dd e'n fwy cymhleth.
"O'dd e fel bod ar adrenaline rush trwy'n amser, i fod yn onest. Ond o'dd e fel bod angen, bod rhaid i ni wneud e.
"O'dd dim meddwl dim byd negyddol amdano fe. O'dd rhaid i ni edrych ar ôl y cleifion yma ac o'dd rhaid i ni wneud y gore drostyn nhw."
Anodd gweld mwy nag arfer yn marw
Un o'r pethau anoddaf, meddai, yn enwedig tua dechrau'r pandemig, oedd gweld pobl gymharol iach ac ifanc yn dioddef ac yn marw.
Her arall i'r staff oed gweld "mwy o bobol yn marw, lot mwy na be 'dyn ni 'di arfer".
"O'dd hwnna'n eitha' anodd pan ti 'di trio dy ore i trio neud nhw'n well," meddai.
Ac "erchyll" oedd gorfod torri'r newyddion gwaethaf posib i berthnasau dros y ffôn tra bod cyfyngiadau Covid yn rhwystro ymweliadau ysbyty.
"Fel yr ymgynghorydd, fel arfer o'dd e'n cwympo arna i i siarad â'r teuluoedd a thorri'r newyddion drwg, ac o'dd hwnna dros y ffôn.
"I feddwl bod tro dwetha o'n nhw 'di gweld y claf o'dd pan naethon nhw ddod mewn yn yr ambiwlans."
Roedd yn destun pryder yn ystod y pandemig bod y cyflwr yn cael effaith waeth ar bobl mewn ardaloedd cymharol ddifreintiedig, fel yr ardal y mae'r ysbyty'n ei gwasanaethau.
Un peth a darodd Dr Gibson oedd achosion ble roedd mwy nag un aelod o'r teulu angen gofal ar yr un pryd - rhywbeth fyddai ond yn digwydd fel arfer yn dilyn rhyw fath o ddamwain neu drychineb.
"Dwi'n cofio edrych ar ôl fatha mam a merch a'r ddwy yn sâl yr un adeg yn yr uned gofal ddwys. A naethon ni edrych ar ôl brawd a chwaer.
"O'dd hynna'n really anodd, yn enwedig pan 'dych chi'n trio siarad â'r teulu adre."
Bydd gofyn i'r ymchwiliad ystyried lefelau staffio, ym marn Dr Gibson, a sut mae parhau i gynnig yr holl wasanaethau iechyd arferol yn ystod pandemig arall.
"Nethon ni adael popeth a nawr ni'n delio 'da'r aftermath o ddim gwasanaethau neu bron dim am flynyddoedd... ni'n delio 'da hwnna nawr," meddai.
"So ni'n ôl i normal cyn Covid. Ni mewn normal newydd. A sa i'n meddwl sa i'n lico'r normal yma, os fi'n onest.
'Ma' pawb 'di blino'
"Dwi'n meddwl ma' gwahaniaeth yn y staff. Naethon ni golli eitha' lot o'r staff i adrannau eraill ond tu fas i'r NHS a dwi'n meddwl mae'r staff sydd ar ôl yn teimlo effaith Covid ac mae morâl yn weddol isel.
"[Mae] pawb 'di blino, a fatha ddim awydd i fynd trwy'r holl waith eto... ma' lot o bobol yn sâl ar y foment.
"Mae'n teimlo fel pob diwrnod 'dyn ni'n gwastraffu oriau yn trio ffeindio staff i cyfro shifts. Cyn Covid doedd hynna ddim mor aml. Mae'n teimlo'n aml iawn nawr."
Ar lefel fwy unigol, un o'r gwersi at y dyfodol yw'r angen "i fi yn bersonol fod yn gryf a pharatoi ac edrych ar ôl y teulu a gwneud yn siŵr bod adre yn saff".
"Ma' hynna'n bwysig iawn achos yn y dechre o'dd pawb yn meddwl bod y pandemig yn mynd i fod yn fyr iawn ond o'dd e'n hir, actually. Felly ma' raid i chi baratoi am amser hir."
Yn yr ysbyty, gwaith tîm cryf wnaeth helpu pawb i ddod trwy'r pandemig, meddai.
Roedd yn help hefyd bod "llai o bureaucracy ar y tro, so o'n ni'n gallu gwneud lot o newidiadau'n eitha' cyflym achos do'n ni ddim yn gwybod sut i ddelio 'da'r cleifion".
"O ran y system, ma' hwnna'n fwy cymhleth. Ar y foment, sa i'n credu bod dim byd 'di newid, ac os byse pandemig eto bysen ni mewn sefyllfa waeth i ddelio 'da fe...
"Ni'n delio 'da staffing llai a morâl llai a cleifion lot mwy sâl gan bo nhw 'di bod yn aros [am driniaeth] ac ma' fwy o salwch yn y cleifion."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y bydd swyddogion yn rhoi tystiolaeth fanwl dros yr wythnosau i ddod.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2023