Pwllheli: Hanner criw bad achub yn ôl wedi 'anghydweld llwyr'

  • Cyhoeddwyd
RNLI PWllheliFfynhonnell y llun, Don Jackson-Wyatt

Mae hanner gwirfoddolwyr bad achub Pwllheli yn fodlon dychwelyd i'r orsaf, meddai'r RNLI, a hynny yn dilyn "anghydweld llwyr" rhwng y criw.

Bythefnos yn ôl, cyhoeddodd yr RNLI nad oedd bad achub Pwllheli yn medru gweithredu oherwydd "methiant difrifol" yn y berthynas rhwng aelodau o'r criw yno.

Nodwyd ar y pryd bod aelodau allweddol o staff yr orsaf wedi ymddiswyddo, a'u bod wedi gwneud y "penderfyniad anodd" i orfod diweddu trefniadau gwirfoddoli gyda'r holl staff gweithredol.

Mewn datganiad ddydd Mawrth, dywed yr RNLI bod gobeithion y bydd gan Bwllheli orsaf gynaliadwy am flynyddoedd i ddod wedi i rai gwirfoddolwyr ddweud eu bod yn awyddus i ddychwelyd i'r gwaith.

Bellach mae 19 o'r criw, sef hanner y gwirfoddolwyr, wedi dweud eu bod am fynd yn ôl at y gwaith, ac mae gan yr RNLI hefyd ymgyrch i ddenu mwy o wirfoddolwyr yn y gymuned leol.

Ddechrau Chwefror, dywedodd yr RNLI nad oedd modd gweithredu'r bad achub oherwydd y "diffyg ymddiriedaeth ac anghytgord" ymysg y criw.

Ond yn dilyn trafodaethau, dywedodd yr elusen eu bod yn falch o groesawu "y rhai sy'n cefnogi ein gwerthoedd" yn ôl.

Disgrifiad o’r llun,

Cartref Bad Achub Pwllheli, agorwyd ar ei newydd wedd yn 2020

Ddydd Mawrth, dywedodd Ryan Jennings, Arweinydd Achub Bywyd Rhanbarthol yr RNLI: "Mae'r trafodaethau gyda chyn-aelodau o'r criw wedi bod yn hynod o bositif ac ry'n yn hynod o falch o groesawu yn ôl y rhai sy'n cefnogi ein gwerthoedd ac sydd wedi ymrwymo i symud ymlaen wedi'r trafferthion diweddar.

"Rwy'n hyderus y byddwn yn gallu symud ymlaen i ddarparu gorsaf bad achub gynhwysol a chynaliadwy ym Mhwllheli am flynyddoedd lawer."

Ychwanegodd bod y cyfnod diweddar ym Mhwllheli wedi bod yn heriol a'i fod am ddiolch i'r rhai sydd wedi siarad â'r RNLI am eu pryderon a'u hawydd i ddychwelyd i arbed bywydau ar y môr.

"Mae'r criw rŵan yn awyddus i edrych tua'r dyfodol ac am ail-ganolbwyntio ar eu hymdrechion i ailgychwyn y gwasanaeth bad achub," meddai.

"Fe fyddwn yn sicrhau bod y criw yn dychwelyd i hyfforddi yn fuan ac ry'n am sicrhau y bydd y bad achub dosbarth-D yn weithredol mor fuan ag sy'n bosib.

"Ry'n yn galw ar y gymuned i gefnogi'r orsaf bad achub ac i'n helpu i symud ymlaen.

"Mae nifer o gyfleoedd i wirfoddoli yng Ngorsaf Bad Achub Pwllheli ac fe fydd hyfforddiant a chefnogaeth lawn yn cael eu rhoi i'r sawl sy'n dymuno bod yn rhan o'r criw."

Pynciau cysylltiedig