Cadarnhad fod Coleg Sir Gâr yn bwriadu cau campws Rhydaman
- Cyhoeddwyd

Mae'r coleg wedi disgrifio'r penderfyniad fel "cam ymlaen wrth geisio cynnig yr addysg a hyfforddiant orau phosib"
Mae'r Gweinidog Addysg wedi cadarnhau bod Coleg Sir Gâr yn bwriadu cau eu campws yn Rhydaman er mwyn datblygu cyfleusterau newydd ar safle yng Nghaerfyrddin.
Bwriad y coleg yw buddsoddi yng nghampws Pibwrlwyd er mwyn "diogelu dyfodol ariannol hirdymor y coleg" a "darparu cyfleusterau gwell i staff a dysgwyr".
Ond yn ôl Adam Price, yr aelod o'r senedd dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, fod y penderfyniad yn "ergyd ofnadwy i Rydaman a'r ardal gyfan".
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai "colegau sy'n gyfrifol am reolaeth strategol eu hystâd, a phenderfyniad lleol yw cau unrhyw gampws neu gyfleusterau".

Bwriad y coleg yw datblygu cyfleusterau ar eu campws ym Mhibwrlwyd
Mewn trafodaeth yn y Senedd ddydd Mercher, ychwanegodd Mr Price ei fod yn "gresynu bod y llywodraeth Lafur yn cefnogi'r bwriad yma".
Yn ôl Laura Jones AS mae'r penderfyniad yn ganlyniad i'r ffaith bod y "gyllideb addysg wedi ei thorri nôl" mewn ffordd mor llym, tra bod y Gweinidog Addysg Jeremy Miles yn mynnu mai penderfyniad i'r coleg oedd hwn ac nid Llywodraeth Cymru.
Mewn datganiad, dywedodd y coleg y bydd y cynlluniau yn eu galluogi i fynd i'r afael â heriau adeiladau sy'n heneiddio, gan ychwanegu eu bod hefyd yn gam ymlaen wrth iddyn nhw geisio cynnig yr addysg a hyfforddiant orau phosib.
"Mae'r coleg yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru wrth gynllunio datblygiad o'r safon uchaf, fydd yn gwella profiad y dysgwyr, yn cynnig sefydlogrwydd ariannol ar gyfer y dyfodol ac yn cyfrannu at ffyniant economaidd Sir Gaerfyrddin."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2024