Abertawe: Dyn yn pledio'n euog i achosi marwolaeth dau o bobl
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 19 oed o Abertawe wedi pledio'n euog i achosi marwolaeth dau o bobl yn eu harddegau drwy yrru'n beryglus.
Mae Owain Hammet-George hefyd wedi cyfaddef achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus, yn dilyn gwrthdrawiad yn Abertawe ym mis Mai 2022.
Yn flaenorol, roedd wedi gwadu achosi marwolaethau Ben Rogers a Kaitlyn Davies, oedd yn 19 oed.
Cafodd teithiwr arall 17 oed hefyd ei gludo i'r ysbyty gydag anaf i'w ymennydd, a'i wddf wedi torri, yn dilyn y digwyddiad ar y B4436 yn Llandeilo Ferwallt.
Fe ymddangosodd Hammet-George yn Llys y Goron Abertawe i bledio'n euog i'r cyhuddiadau, a bydd yn cael ei ddedfrydu ar 28 Mawrth.
Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth amodol tan hynny.
Tad wedi cymryd pwyntiau ar ei ran
Dri mis cyn y ddamwain, fe dderbyniodd tad Owain Hammett-George, Dewi George, bwyntiau ar ran ei fab am oryrru.
Roedd camera cyflymder yr heddlu wedi dal delweddau o gar Alfa Romeo yn goryrru yn Abertawe ar 28 Chwefror 2022.
Fe gyfaddefodd Dewi George, 44, i'r drosedd er ei fod yn gweithio yng Nghaerdydd pan ddigwyddodd y drosedd.
Ym mis Gorffennaf 2023, fe blediodd Dewi George yn euog i wyrdroi cwrs cyfiawnder ac fe gafodd ei garcharu am bedwar mis.
Wrth gael ei ddedfrydu, clywodd y llys bod Dewi George wedi mynd ar gwrs ymwybyddiaeth cyflymder bythefnos ar ôl y ddamwain, pan gafodd Ben Rogers a Kaitlyn Davies eu lladd.
Clywodd y llys ym mis Gorffennaf 2023 bod Dewi George wedi dweud wrth swyddogion mai "dim ond newydd basio ei brawf yr oedd ei fab" ac felly ei fod "yn poeni y byddai ei fab yn cael ei wahardd rhag gyrru".
Ar y pryd, dywedodd y barnwr fod hyn yn golygu nad oedd ei fab "wedi ei gosbi mewn unrhyw ffordd".
Ychydig fisoedd yn ddiweddarach ar 31 Mai, 2022, meddai'r barnwr, "roedd gan eich mab dri teithiwr rhwng 16 ac 17 oed yn ei gar" pan fuodd y car hwnnw mewn gwrthdrawiad ger gorsaf betrol yn Llandeilo Ferwallt.
"Yn drasig bu farw dau berson ifanc ac anafwyd trydydd un yn ddifrifol," meddai'r barnwr.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2022