Dathlu'r 100: Eisteddfod Marian-glas 'yn ffynnu'
- Cyhoeddwyd
Sefydlu Eisteddfod leol ar Ynys Môn er mwyn dathlu a datblygu talentau'r ardal ac i godi arian i Gapel Seion, Llanfair Mathafarn Eithaf oedd bwriad gwreiddiol Eisteddfod Marian-glas yn 1924.
Ond ganrif yn ddiweddarach, mae'r eisteddfod yn mynd o nerth i nerth ac yn cynnig llwyfan i bobl ifanc yr ardal arddangos eu doniau yn flynyddol.
Gydag eisteddfodau lleol yn wynebu heriau cyson, mae'r eisteddfod hon "wedi parhau er gwaethaf yr Ail Ryfel Byd, heriau ariannol, a'r cyfnodau clo".
Wrth longyfarch criw Marian-glas, dywedodd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru "nid ar chwarae bach mae cadw eisteddfod i fynd am gan mlynedd".
Cafodd yr eisteddfod gyntaf ei chynnal yng Nghapel Seion Marian-glas, Ynys Môn, ar 1 Mawrth 1924.
Wrth drafod hanes yr Eisteddfod, dywedodd yr hanesydd a'r gwyddonydd Iwan Kellet nad oedd "neb yn disgwyl i'r 'steddfod fod yn gymaint o lwyddiant" ar y noson honno.
Aeth ymlaen i ddweud bod "yr hen ysgol yn orlawn" a bod y Parchedig William Price o gapel Seion wedi cyhoeddi mai Eisteddfod Gadeiriol fyddai hi, ac felly y bu.
Erbyn heddiw, mae'r eisteddfod yn cael ei chynnal fis Ebrill ac yn eisteddfod i bobl ifanc dan 25 oed.
Ond gyda'r canmlwyddiant eleni, mae ambell gystadleuaeth newydd wedi eu hychwanegu, a hynny i bobl o bob oed.
'Rhan annatod o hunaniaeth yr ardal'
Un sydd wedi bod rhan o'r gwaith o drefnu'r eisteddfod yw Gareth Evans-Jones.
Dywedodd fod "steddfod Marian yn rhan annatod o hunaniaeth yr ardal" ac yn "clymu'r ardal ynghyd".
"Mae'r ffaith fod y Steddfod yn cyrraedd ei chanmlwydd yn adlewyrchu'r awydd sy'n bod am y ffasiwn beth ag eisteddfod, a'r fath ymroddiad mae cenedlaethau o bobl wedi ei ddangos i gefnogi prifwyl plwyf Llaneugrad," meddai.
Aeth ymlaen i ddweud fod tri pheth yn benodol wedi sicrhau parhad yr Eisteddfod sef "ei chefnogwyr, ei phwyllgor a'i pharodrwydd i addasu".
Gyda sawl her wedi wynebu eisteddfodau lleol yn y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys y cyfnod clo, ychwanegodd Gareth ei fod yn "gobeithio y bydd y Steddfod yn parhau - ac am ganrif arall os rhywbeth."
Dywedodd Fiona Hughes sy'n gadeirydd ar yr Eisteddfod ei bod yn "andros o falch fod Eisteddfod Marian-glas yn parhau, yn steddfod lwyddiannus ac yn parhau i ffynnu".
Aeth ymlaen i ddweud bod cael pwyllgor "hwyliog, gweithgar sy'n cydweithio efo'i gilydd yn sylfaen i sicrhau llwyddiant a pharad i'r steddfod".
Gyda channoedd o bobl ifanc yr ardal wedi cystadlu ar hyd y blynyddoedd, i Deio Jones, mae'r eisteddfod wedi bod yn "ddylanwad mawr" arno.
Dywedodd ei fod yn cofio "cystadlu hefo llefaru pan oeddwn i tua 6 oed, ar ôl hyfforddiant brwd gan fy nhaid, Dewi Jones".
"Roedd Taid a Mam-gu (Dewi a Magdalen Jones) yn falch iawn o gael bod yn aelodau o bwyllgor Eisteddfod Marian-glas am nifer o flynyddoedd, ac felly mae hi'n fraint gweld bod yr eisteddfod yn dal i ffynnu ac yn dal i fod mor brysur ag erioed!" meddai.
Fel person ifanc, dywedodd fod eisteddfodau lleol "yn holl bwysig" i'r garfan hynny o bobl "gan mai dyma'r stablau gorau i feithrin hyder a disgyblaeth, a dysgu sgiliau wneith aros hefo chi am byth".
Un arall fu'n cystadlu am gyfnod o 15 mlynedd yw Teleri Haf Jones.
Dywedodd: "Rydym yn hynod o ffodus o'n heisteddfod fach gartrefol ni sy'n rhoi llwyfan i dalentau lleol."
Wrth ddiolch i bwyllgor yr eisteddfod, aeth ymlaen i sôn bod ei mab bellach yn cystadlu yn yr eisteddfod.
"Mae hi mor braf rŵan gweld fy mab, pump oed, yn sefyll ar yr union yr un llwyfan, yn cael ei lapio yn niwylliant cynnes y Marian."
Cyfrol newydd i nodi'r canmlwyddiant
I ddathlu'r canmlwyddiant, bydd cyfrol yn cael ei chyhoeddi'n fuan, Mwynder y Marian, a fydd yn cynnwys darnau o lenyddiaeth gan feirdd, awduron a dramodwyr sydd â chysylltiadau â Marian-glas a'r cyffiniau.
Y gwyddonydd a'r hanesydd, Iwan Kellet, sydd wedi bod yn casglu at y gyfrol, ag yntau ond yn 21 oed.
Fe ddisgrifodd Gareth Evans-Jones y gyfrol fel un "eithriadol o bwysig i bobl leol, cefnogwyr a chystadleuwyr Steddfod Marian ar draws y blynyddoedd, ond hefyd i gynulleidfaoedd yn ehangach."
Dywedodd Lois Williams o Gymdeithas Eisteddfodau Cymru: "Rydym ni fel Cymdeithas yn ymhyfrydu yng ngwaith arbennig ein heisteddfodau lleol, ac yn ddiolchgar tu hwnt i'r gwirfoddolwyr gweithgar sy'n ymwneud â hwy.
Llongyfarchiadau enfawr i Eisteddfod Marian-glas - nid ar chwarae bach mae cadw eisteddfod i fynd am gan mlynedd!"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Awst 2023
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd8 Mai 2023