O ffoi Pinochet i fod yn Gomisiynydd Plant Cymru

  • Cyhoeddwyd
rocio

Yn 2001 cafodd y swydd Comisiynydd Plant Cymru ei chreu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, fel yr oedd ar y pryd.

Mae gan y swydd y cyfrifoldeb o sicrhau hawliau plant a phobl ifanc Cymru yn unol a Chytundeb ar Hawliau'r Plentyn - cytundeb rhyngwladol sy'n cydnabod hawliau sifil, economaidd, gwleidyddol, iechyd a diwylliannol plant. Y llynedd cafodd y pedwerydd comisiynydd ei apwyntio, Rocío Cifuentes.

Siaradodd Cymru Fyw gyda Ms Cifuentes am ei chefndir a heriau ei swydd:

Dywedodd: "Ges i fy ngeni yn Chile yn ystod unbennaeth (Augusto) Pinochet, ac roedd fy rhieni'n gweithio gyda ymgyrchwyr hawliau dynol. Roedd pethau'n gwaethygu o dan Pinochet ac fe gafodd fy nhad i ei garcharu a'i arteithio."

Yn ystod llywodraeth adain chwith Salvador Allende, roedd tad Ms Cifuentes a'i mam, Maria Cristina, yn ymgyrchwyr yn y brifysgol, yn canolbwyntio ar helpu'r tlawd yn Chile.

Ond pan ddaeth coup treisgar Pinochet yn 1973 cafodd Allende a'i lywodraeth ei ddymchwel. Yn dilyn hyn daeth cyfnod o erlyn yr adain chwith yn Chile, gyda nifer yn cael eu lladd.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Augusto Pinochet yn rheoli Chile o 1973 i 1990

"Roedd fy mywyd i mewn peryg hefyd achos roedd y gyfundrefn yn dwyn plant ifanc gan eu gwrthwynebwyr ac yn eu lladd nhw," meddai Ms Cifuentes.

Ffoi i Gymru

"Pan o'n i'n 13 mis fe benderfynodd fy rieni bod yr amodau'n rhy beryg ac fe benderfynon nhw adael a dod i fyw i Gymru.

"Roedden nhw yn fyfyrwyr ar adeg y coup hefyd, yn astudio gwaith cymdeithasol, ond fe gafodd nhw eu diarddel o'r brifysgol, a benderfynodd i gael gwared ar bawb oedd yn ymchwilio i faterion fel yna, gan ddweud eu bod nhw'n 'eithafwyr' ac yn y blaen.

"Roedd fy rhieni'n gymwys i gael cymorth gan Wasanaeth Prifysgolion y Byd, a oedd yn elusen a oedd yn helpu pobl astudio dramor. 'Nath Llywodraeth Prydain hefyd gynnig lloches i rai o Chile, a dyna sut wnaethon ni ddod i Abertawe i fyw. Mae gen i frawd iau a gafodd ei eni yn Abertawe wedi i ni gyrraedd yma."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Lluniau yng ngerddi Palacio de La Moneda, Satniago, eleni o rhai o ddinasyddion Chile a laddwyd gan Pinochet rhwng 1973 ac 1990. Amcangyfrif bod dros 8,000 o bobl wedi eu lladd neu wedi 'diflannu' yn Chile yn y blynyddoedd hyn

Wedi i'r teulu Cifuentes gyrraedd de Cymru daeth hi'n amlwg mai nid nhw oedd yr unig rai o'r cefndir yna a oedd wedi ymgartrefu yn yr ardal.

"Yn Abertawe ar y pryd roedd dipyn o deuluoedd a oedd wedi cyrraedd mewn amodau digon tebyg i ni, gyda phlant tua yr un oed a fi - dwi'n meddwl oedd 'na rhyw 30 o deuluoedd i gyd. Roedden nhw fel teulu estynedig i mi i ddweud gwir, a roedden ni'n cwrdd yn aml a chael sleepovers ag ati. Roedden nhw fel yncyls ac antis a chefndryd i fi, felly 'nath hynny ei wneud o'n brofiad llai unig.

"Roedd 'na deuluoedd o'r Ariannin hefyd, ac o'n i'n ffrindiau mawr efo merch ddaeth o Batagonia ac yn siarad Cymraeg a Sbaeneg - mae hi dal yn un o fy ffrindiau gorau."

"'Nath fy rieni siarad Sbaeneg gyda fi a fy mrawd, ac roedd y gymuned o bobl o Chile yma yn trefnu bod 'na rhyw ysgol dydd Sadwrn i ni wario amser gyda'n gilydd. Bydden ni'n cwrdd mewn ystafell ym Mhrifysgol Abertawe, a bydde rhai o'r rhieni'n gwirfoddoli i ddysgu Sbaeneg i ni neu dawnsio Chileaidd traddodiadol.

"Roedden ni hefyd yn dysgu am sefyllfa wleidyddol Chile, ac i ddweud gwir drwy gydol fy mhlentyndod roedd 'na drafodaethau yn y tŷ, ac o fewn y gymuned o Chile yn gyffredinol, ynglŷn â beth oedd yn mynd 'mlaen adref."

Daeth yr unbennaeth i ben ym mis Mawrth 1990 ac aeth Chile ar y llwybr tuag at democratiaeth. Bu farw Pinochet ym mis Rhagfyr 2006.

Disgrifiad o’r llun,

Astudiodd Ms Cifuentes ym Mhrifysgol Caergrawnt, cyn mynd nôl i Abertawe i wneud gradd Meistr

Felly beth oedd siwrne Ms Cifuentes i gyrraedd y swydd mae hi ynddo ar hyn o bryd?

"Roedd y jobsus ges i yn dilyn fy nyddiau yn y brifysgol i gyd yn debyg yn yr ystyr roedden nhw i gyd yn ffocysu ar blant a phobl ifanc."

Gweithio gyda'r ifanc

"I ddechrau ro'n i'n gweithio efo elusen yn gwarchod iechyd rhyw bobl ifanc yn Llundain. Ond do'n i ddim yn rhy hoff o Lundain i fod onest felly 'nes i benderfynu dod nôl i Gymru. Yna 'nes i ddysgu yng ngholeg chweched dosbarth yn y Gŵyr yn dysgu cymdeithaseg, a gweithio i elusen digartrefedd ymysg pobl ifanc yn Abertawe.

"'Nes i weithio mewn ysgol gyda phlant ag anghenion arbennig, ac yna 'nes i bach o ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe yn edrych ar ethnigrwydd a hil - ac yn deillio o hwnna 'nes i ddechrau gweithio'n y trydydd sector i ddechrau'r gangen Gymreig o'r Council of Ethnic Minority Voluntary Organisations.

"Drwy hyn 'nes i gwrdd â grŵp o bobl ifanc o gefndir lleiafrifoedd yn Abertawe a helpu nhw i gael arian, a dyna beth dyfodd i fod yr elusen o'n i'n gweithio efo am 17 mlynedd - Ethnic Minorities and Youth Support Team (EYST). Hefyd mi 'nes i sefydlu elusen ar gyfer pobl ifanc ag anableddau."

Ffynhonnell y llun, Comisiynydd Plant Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ms Cifuentes ei phenodi i'w rôl yn dilyn cyfnod Sally Holland wrth y llyw o 2015 i 2022

Rôl y Comisiynydd

Mae Ms Cifuentes yn dweud ei bod yn mwynhau ei swydd bresennol fel y Comisiynydd Plant, er ei fod yn heriol: "Mae'n eang iawn, yn yr ystyr mae gymaint o faterion a heriau gwahanol yn enfawr - yr holl faterion sy'n effeithio ar fywydau pobl ifanc.

"Dwi'n meddwl mai beth sydd mwya' diddorol amdano yw'r cymysgedd 'na o ddelio â phlant a phobl ifanc mewn gwahanol sefyllfaoedd, ac yna mynd a llais y bobl ifanc yna i bobl mewn awdurdod - gweinidogion yn y llywodraeth a phrif weithredwyr awdurdodau lleol a byrddau iechyd ac yn y blaen. Felly dwi'n trio bod y bont yna yn y cyfathrebu - dyna sydd fwyaf diddorol ac hefyd yn gwneud y mwyaf o effaith yn fy rôl."

Ffynhonnell y llun, Comisiynydd Plant Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Derbyniodd Ms Cifnuentes MBE yn 2022 am ei gwaith gyda phobl ifanc

Oes yna heriau sy'n benodol i Gymru? "Mae'n teimlo fel bo'r (diffyg) cyfleoedd sydd ar gael i blant a phobl ifanc dyddiau 'ma ddim yn deg - mae 'na lot o bethau yn eu herbyn nhw" meddai Ms Cifuentes.

"Mae 'na gymaint o doom and gloom yn yr hyn mae gwleidyddion yn ei ddweud am y dyfodol, a'r sefyllfa ariannol.

"Mae hyn yn realiti, ond mae hefyd fyny i ni i roi sylfaen i ddatrys rhai o'r problemau a gwneud e'n glir i nhw bod ganddyn nhw ddyfodol."

"Mae 'na hefyd argyfwng hinsawdd, ac yn anffodus mae yna ryfeloedd yn mynd mlaen ledled y byd. Felly mae'n gyfnod a all fod yn llawn ofn a phryder, ac mae plant a phobl ifanc yn sicr yn teimlo hyn. Ac wrth gwrs fe gafodd y pandemig effaith fawr ar bawb, ond yn enwedig ar blant a phobl ifanc sy'n ffeindio'i traed wrth dyfu fyny.

"Mae 'na gyfrifoldeb moesol a dyletswydd i gydnabod hynny ac hefyd gwneud yn siŵr bod bobl ifanc yn cael y profiadau 'na cawson ni sy'n hŷn, ac efallai'n ei gymryd yn ganiataol.

'Rhwystredigaeth'

"Mae'n gallu bod yn rhwystredig. Byswn i'n hoffi os fysa'r Llywodraeth, a'r rhai sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau mawr, yn meddwl nol i sut wnaeth bethau weithio yn ystod y pandemig - gweithredu'n gyflym ac yn hyblyg, gan newid popeth i achub bywydau ac amddiffyn y rhai mwyaf bregus. Felly, pam dydyn ni ddim gwneud hynny nawr?"

Ffynhonnell y llun, Comisiynydd Plant Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyfnod Ms Cifuentes fel y Comisiynydd Plant yn ymestyn tan 2029

Yn ôl ffigyrau diweddara' Llywodraeth Cymru mae 31% o blant Cymru'n byw mewn tlodi, ac mae Ms Cifuentes yn credu fod hyn yn gywilyddus.

"Mae 'na blant a phobl ifanc ofnadwy o fregus yn ein cymdeithas ar hyn o bryd, lefelau tlodi ar gynnydd.

"Mae 'na blant sy'n mynd heb fwyd yn ddyddiol yng Nghymru yn 2023, a rhywsut mae hynny wedi ei normaleiddio ac mae'n rhaid i ni ei dderbyn.

"Y lein 'na 'da ni'n gael gan lawer yw bod rhaid i ni gyd fyw'n gynnil, ond dydy'r cynilo 'ma ddim yn cael ei deimlo gan bawb yn yr un ffordd. Mae'n annerbyniol yn foesol ac yn gwbl warthus."

Mae rôl Comisiynydd Plant Cymru yn rhedeg am saith mlynedd, a bydd Ms Cifuentes yn gobeithio gweld gwelliannau yn y cyfleoedd a'r gwasanaethau i blant a phobl ifanc Cymru yn y cyfnod yma.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig