Prinder meddygon: 'Allwn ni ddim gadael i bethau wywo'
- Cyhoeddwyd
Mae recriwtio meddygon teulu yn broblem genedlaethol, ac mae angen edrych ar ffyrdd arloesol i ddarparu gofal sylfaenol, yn ôl un bwrdd iechyd.
Mae llawer o feddygon teulu yn awyddus i weithio’n rhan amser, meddygon ifanc yn llai awyddus i fod yn bartner mewn practis, ac yn ffafrio gweithio mewn canolfan fawr sydd â mwy o gefnogaeth, meddai Dr Sion James, Dirprwy Gyfarwyddwr Meddygol Gofal Sylfaenol Bwrdd Iechyd Hywel Dda.
“Mae’n anodd recriwtio i feddygfeydd sy’n fwy anghysbell”, meddai Dr James.
“Falle bydd yn rhaid i’r claf i deithio i’r feddygfa tamaid bach yn bellach, a fydd rhaid i ni falle dderbyn hynny achos allwn ni ddim 'neud dim amdano fe ar hyn o bryd.”
Agor rhan amser yn arwydd i'r dyfodol?
Daw sylwadau’r bwrdd iechyd law yn llaw â dau achos yn Sir Gaerfyrddin lle mae trafferthion recriwtio wedi arwain at bryder mawr fod gwasanaethau am gael eu colli’n lleol.
Tra bod Meddygfa Sanclêr wedi cyflwyno cais i gau eu meddygfa cangen yn Nhalacharn, mae’r bartneriaeth bresennol o feddygon teulu wedi ildio eu cytundeb draw yn Cross Hands a’r Tymbl.
Yn Nhalacharn, mae rhai cannoedd o bobl wedi dod ynghyd mewn pwyllgorau cyhoeddus dros yr wythnos ddiwethaf, gydag unigolion yn lleisio dicter ynglŷn ag unrhyw bosibilrwydd o weld y feddygfa'n cau.
“Ers Covid, dyw’r feddygfa heb agor yn iawn. Mae nhw’n rhedeg clinics ond dyw hwnna ddim yr un peth a chael meddyg ‘ma bob dydd”, meddai Pam Jones, Maer Talacharn.
Mae Ms Jones yn ofni bod llai o wasanaethau wedi eu cynnig dros gyfnod, gyda bwriad penodol i gau’r drysau.
“Fel cyngor lleol, ni wedi ysgrifennu atyn nhw sawl tro dros y blynyddau, yn gofyn pryd o’ nhw’n mynd i fynd nôl i’r arfer o gael meddyg yma.
"A dy’ nhw byth wedi sôn am broblem staffio.
“Dyw hen bobl ddim yn gallu teithio i Sanclêr”, ychwanegodd Ms Jones.
“Mae’r bwrdd iechyd yn dweud bod cynnig gwasanaeth lleol yn flaenoriaeth, a nawr mae nhw’n cau’r syrjeri."
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2023
'Pobl yn cael cam'
"Mae’r feddygfa yn Sanclêr yn rhy brysur yn barod, ac mae’n anodd gweld doctor.
"Maen nhw hefyd yn achosi rhagor o draffig wrth i ni deithio nôl ag ymlaen, a ma hwn nid yn unig yn effeithio arno ni yn ‘Lacharn, ond hefyd yn Llanmiloe a Phentywyn.”
Wrth i’r bwrdd iechyd ystyried cais y feddygfa yn Sanclêr i gau’r feddygfa yn Nhalacharn, mae swyddogion wedi ymestyn y cyfnod ymgysylltu â’r cyhoedd tan 8 Rhagfyr.
Maen nhw’n awyddus i gynifer o bobl â phosibl ymuno yn y drafodaeth.
Mewn cyfarfod yn Neuadd y Pentref, roedd y cynghorydd lleol, Donald Avery ymhlith nifer i danlinellu bod gofyn i bobl deithio i Sanclêr wedi cythruddo.
“Os chi moyn tacsi i fynd i St Clears, gewch chi dalu biti £15 just un ffordd.
"A dyw senior citizens ddim yn gallu fforddio hwnna.”
Ychwanegodd Aldyth Smith: “Wy’n credu bod pobl yn cael cam.
“Maen nhw’n cael niwed a dy’ nhw ddim yn cael eu hedrych ar eu hôl.”
Opsiynau'r bwrdd iechyd
Mae ’na gannoedd hefyd wedi bod yn bresennol mewn nosweithiau agored yn ardal Cross Hands a’r Tymbl, gyda phobl leol yn awyddus i gael gwybodaeth ynglŷn â dyfodol meddygfeydd y pentref.
Dywedodd Jill Paterson, Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol, Cymunedol a Gofal Hirdymor ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’r partneriaid wedi ceisio’n aflwyddiannus i recriwtio Meddyg Teulu neu Uwch Ymarferydd ychwanegol i ymuno â’u practis prysur, ond nid ydynt wedi gallu gwneud hynny.”
Yno, mae’r bwrdd yn ystyried dau opsiwn - ail-dendro'r cytundeb i geisio canfod meddygon, neu cleifion yn cael eu rhannu ymysg meddygfeydd eraill yr ardal.
Mae hynny’n achosi gofid mawr i Meryl Evans sydd wedi byw yn yr ardal erioed.
“Mae’n swnio fel jôc. Shwt allwch chi wasgaru 7,500 o bobl o bob oedran ar hyd lle?
"Pan bo’ chi’n gwybod bod y llefydd eraill - pob syrjeri arall siŵr a fod yn llawn i’r ymylon?”
Mae’r bwrdd yn tanlinellu y bydd gofal yn parhau i gael ei ddarparu fel arfer gan yr un tîm yn y practis tan ddiwedd mis Mawrth 2024, ac y dylai cleifion barhau i fod wedi'u cofrestru gyda'r feddygfa tra bod cynlluniau tymor hir yn cael eu datblygu.
Yn ôl Dr Ian Harris sy’n llefarydd ar ran Cymdeithas Feddygol Prydain, y BMA, mae meddygfeydd yn gwywo yng Nghymru ar hyn o bryd, a’r pwysau gwaith ar feddygon teulu yn golygu bod nifer yn gadael eu swyddi.
“Mae pawb yn gweithio’n galed ac yn fwy caled nag erioed."
Llwyth gwaith cynyddol
Mae rhyw 30% yn fwy o gleifion gyda phob meddyg teulu llawn amser nawr nag oedd 10 mlynedd yn ôl.
A thra bod y gwaith yn cynyddu a’r adnoddau’n lleihau, mae pobl yn dweud bod nhw’n cael digon.
Ychwanegodd Dr Harris: “Ry’ ni wedi galw ein hymgyrch achubwch ein meddygfeydd ni am adnoddau. Dyna’r peth mwyaf pwysig.
"Mae’n rhaid bod ‘na ryw ffordd i ddatrys y broblem yn genedlaethol fan hyn.
"Ni’n ffaelu gadael pethau i wywo fel mae nhw ar y funud.”
Dangosodd holiadur Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu bod chwarter y rhai ymatebodd yn dweud nad ydynt yn disgwyl bod yn gweithio yn y swydd ymhen pum mlynedd.
Pwysau ac oriau gwaith oedd y ddau brif reswm.
'Dirywiad pellach' gwasanaethau cefn gwald
Wrth wrando ar bryderon cleifion mewn cyfarfod agored yn Nhalacharn, dywedodd Cefin Campbell, AS Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, bod angen strategaeth fwriadol er mwyn cynyddu nifer y meddygon yn ei ranbarth.
"Mae ymchwil yn dangos, unwaith mae meddygon a deintyddion a nyrsys ac yn y blaen yn dod i hyfforddi mewn ardal, maen nhw’n tueddu i aros yn yr ardal honno.
"Felly mae angen strategaeth ar Lywodraeth Cymru yn fwriadol i recriwtio meddygon yn arbennig, a deintyddion i gefn gwlad Cymru."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod “rhaglen hyfforddiant arbenigol meddygon teulu wedi cael ei hehangu'n sylweddol dros y tair blynedd diwethaf, ac ers lansio'r ymgyrch Hyfforddi Gweithio Byw, bu cynnydd sylweddol yng nghyfradd llenwi cyrsiau hyfforddiant meddygon teulu".
"Mae'r targed recriwtio presennol o 160 o feddygon teulu newydd dan hyfforddiant bob blwyddyn yn cael ei gyflawni'n gyson, ac mae cyllid wedi’i drefnu i recriwtio hyd at 200 o hyfforddeion os bydd ymgeiswyr addas ar gael.”