Meddygon iau: 'Ni ffili cario 'mlaen fel ydyn ni'

  • Cyhoeddwyd
Mair Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mair Lewis, sy'n feddyg iau, yn gorfod talu am ofal i dri phlentyn

Mewn rali y tu allan i'r Senedd brynhawn Mawrth bu nifer o feddygon iau sydd ar streic dridiau yn dweud pa mor bwysig yw gweithredu'n ddiwydiannol iddyn nhw gan nad yw'n "bosib iddyn nhw gario 'mlaen" os yw'r sefyllfa bresennol yn parhau.

Mae Mair Lewis, 38, yn hyfforddi i fod yn feddyg teulu ym Mhen-y-bont ar Ogwr a dywed bod yr esgid ariannol yn gwasgu yn sgil cynnydd mewn costau byw.

"Mae wastad yn benderfyniad anodd achos rydyn ni'n gwybod bod ni'n gadael yr ysbytai a GPs yn brin ond mae'n bwysig bod ni yma. Ni ffili cario 'mlaen fel ydyn ni," meddai.

"Mae yn anodd. Rydyn ni i gyd wedi sylwi bod costau wedi mynd lan. Dwi'n gorfod talu am dri phlentyn mewn gofal so ni gyd wedi teimlo'r squeeze."

'Meddygon Cymraeg yn brin'

Ychwanegodd Elen Puw, 28, sy'n feddyg pobl hŷn yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont bod hi'n bwysig peidio colli meddygon da o Gymru.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae morál ar y llawr a bob dydd dwi'n mynd i weithio," medd Elen Puw

"Dwi ar gontract byr ar hyn o bryd. Dwi wedi gwneud y penderfyniad i beidio mynd yn syth i raglen hyfforddi. Y rheswm 'nes i hyn oedd am fod y tâl ddim digon da pe bawn i ar gontract hir.

"Mae fy ffrindiau wedi gwneud yr un peth hefyd oherwydd bod gyda nhw'r rhyddid wedyn i fynd dramor i weithio ac maen nhw yn Awstralia. Aethon nhw am chwe mis ac maen nhw dal yna tair blynedd wedyn.

"Rydyn ni'n colli meddygon da, talentog i wledydd eraill sydd yn fodlon talu ni'n deg am y job rydyn ni'n gwneud.

"Rydyn ni mor desperate am feddygon Cymreig, meddygon sy'n siarad Cymraeg i allu darparu beth rydw i'n gwneud trwy gyfrwng y Gymraeg. Dyna beth dwi'n gwneud, dyna beth rydw i eisiau gwneud.

"Mae'n fater pwysig iawn i fi a dyna un rheswm pam dwi heb symud.

"Mae morál ar y llawr a bob dydd dwi'n mynd i weithio mae'r pwysau yn fwy ac yn fwy yn ystod y gaeaf a dwi'n meddwl ei fod yn ofnadwy bod cymaint o bobl yn gadael."

'GIG wedi ymdopi ddydd Llun'

Cafodd 6,500 o apwyntiadau cleifion allanol a 400 o lawdriniaethau eu gohirio yng Nghymru ddydd Llun o ganlyniad i streic gan feddygon iau.

Roedd mwyafrif ysbytai Cymru hefyd dan bwysau sylweddol o ran gofal brys, gyda 13 o'r 19 ar lefel goch.

Ond dywedodd pennaeth y gwasanaeth iechyd, Judith Paget bod y gwasanaeth yn ymdopi.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd nifer o feddygon iau yn bresennol mewn rali y tu allan i'r Senedd ddydd Mawrth

Mae'r meddygon yn streicio am yr ail ddiwrnod yn olynol ac yn bwriadu streicio am dri diwrnod i gyd.

Mae cymdeithas feddygol y BMA yn dadlau bod y 5% o godiad cyflog gafodd meddygon iau yng Nghymru eleni yn annigonol.

Mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Mawrth, eglurodd Judith Paget bod ysbytai'n blaenoriaethu gofal brys a gwasanaethau canser a mamolaeth.

Ychwanegodd y gweinidog iechyd, Eluned Morgan bod y sefyllfa'n parhau'n "ddwys" ac y byddai'n amharu ar wasanaethau dros y dyddiau nesaf.

Meddygon ymgynghorol sy'n ymgymryd â chyfrifoldebau meddygon iau tra bod y streic yn parhau - yn cynnwys gweithio shifftiau ychwanegol.

Mae'r BMA yn dweud bod eu haelodau wedi cael eu gorfodi i wneud y "penderfyniad anodd" i streicio ar ôl gweld eu cyflogau'n gostwng bron i draean dros y 15 mlynedd diwethaf.

Gadael Cymru

Mae Owain Williams, 24, yn feddyg iau yn yr adran blant.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Owain Williams yn bwriadu gadael Cymru ymhen rhyw ddwy flynedd gan nad "yw ei dâl yn adlewyrchu'r gwaith"

"Ar ddiwedd y dydd dyma'r peth olaf rydyn ni eisiau gwneud. Dwi'n falch bod ni yma achos mae'n gorfod digwydd," meddai yn y rali y tu allan i'r Senedd.

"Dwi mor ddiolchgar i'r ymgynghorwyr ac i bawb sy'n cymryd yr awenau a'r baich i ni ar hyn o bryd.

"Dwi'n meddwl y peth mwyaf yw'r ffaith bod yr arian 'da ni arno lot yn llai nag oedd e 10 i 15 mlynedd yn ôl. 'Dan ni ddim gwerth 30% yn llai nag oedden ni.

"Mae'r ffaith bo' ni'n graddio ar £13.65 yr awr yn warthus i fod yn gwbl onest. Dydi o ddim yn hawdd weithiau.

"Yn sicr, dim blwyddyn nesaf ond y flwyddyn wedyn byddai'n mynd i Awstralia neu Seland Newydd a dyna fydd rhai o'n ffrindiau yn gwneud hefyd.

"Mae'n warthus bo' ni'n gorfod gadael Cymru i wneud yr un swydd ond mewn gwlad bell i ffwrdd, yn bell i ffwrdd o'n teulu a ffrindiau i gael tâl sy'n adlewyrchu'r gwaith 'da ni'n ei wneud."

Disgrifiad,

Dr Lowri Thomas ym mis Ionawr: 'Streicio er mwyn y cleifion'

Dywedodd y Gweinidog Iechyd bod nifer o apwyntiadau a llawdriniaethau heb gael eu trefnu ar gyfer diwrnodau'r streic.

"Yn gyffredinol mae tua 14,000 o apwyntiadau allanol yn cael eu gwneud yn ddyddiol," meddai. "O'r rheiny mae 6,500 wedi cael apwyntiad allanol [ddydd Llun].

"Fel arfer mae tua 1,300 o lawdriniaethau yn cael eu gwneud yn ddyddiol yn yr NHS. 400 oedd wedi cael eu gwneud ddoe. Felly roedd hwnna'n lot yn llai na'r arfer.

"Dwi'n meddwl bod lot o baratoadau wedi cael eu gwneud, lot o bobl heb gael eu hapwyntiadau nhw yn y lle cyntaf.

"Unwaith o'n ni'n gwybod bod y streic yn mynd i ddigwydd doedd rheiny ddim wedi cael eu rhoi mewn lle."

Ffynhonnell y llun, ADAM VAUGHAN/EPA-EFE/REX/Shutterstock
Disgrifiad o’r llun,

Meddygon iau yn picedu y tu allan i Ysbyty Maelor, Wrecsam ddydd Llun

Tra'n cydymdeimlo â'r meddygon, beio'r sefyllfa ar setliad ariannol Cymru wnaeth Eluned Morgan.

"Dwi'n deall yn iawn cryfder y teimladau tu ôl i weithred y streic yma ond nid yw ein setliad cyllido sy'n dod yn bennaf o Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar ffurf grant bloc yn ddigon i gydnabod y gofynion y mae meddygon iau yn ei wneud.

"Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi methu ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn iawn."

Dywedodd bod Llywodraeth y DU wedi methu rhoi gwybodaeth i Lywodraeth Cymru ar oblygiadau codiadau cyflog y gwasanaeth iechyd yn Lloegr ar wasanaeth Cymru ac felly ei bod hi'n amhosib i'w hadran hi gynllunio a chynnig mwy o gyflog i weithwyr yng Nghymru.

"Yn amlwg 'sdim un ohonon ni ishe bod mewn sefyllfa lle ry'n ni'n gweld y math o weithredu ni'n gweld ar hyn o bryd," ychwanegodd Ms Morgan.

"Mi gwrddes i gyda'r BMA dydd Iau d'wetha. Yn amlwg ni wastad yn agored i drafodaethau pellach a dwi'n meddwl bod 'na sefyllfa lle gallwn ni weithio mewn partneriaeth i edrych ar gytundeb newydd ac mi ethon ni'n bell iawn i lawr y trywydd yna gyda nhw cyn i ni fod yn y sefyllfa yma lle yn ni wedi derbyn bod yna broblem ariannol yn wynebu ni."