Bod yn gadeirydd dros dro y BBC yn 'brofiad anhygoel'
- Cyhoeddwyd
Wrth i Elan Closs Stephens ddod i ddiwedd ei chyfnod fel cadeirydd dros dro'r BBC, mae hi wedi disgrifio'r cyfnod fel "profiad anhygoel" lle bu'n rhaid iddi ddelio â "mwy na fy siâr o stormydd".
Cafodd y Gymraes ei phenodi fis Mehefin 2023 ar ôl i Richard Sharp ymddiswyddo, yn dilyn beirniadaeth o'i gysylltiad â threfnu benthyciad ariannol i'r cyn-Brif Weinidog, Boris Johnson.
Mewn cyfweliad â rhaglen Bore Sul ar BBC Radio Cymru, dywedodd mai ei nod wrth ymgymryd â'r swydd oedd i "roi eich breichiau rownd y bwrdd a chael nhw nôl i fod yn unol, ac yn bositif ac yn heriol ac yn uchelgeisiol dros y gorfforaeth"
O fewn wythnosau iddi ymgymryd â'r gwaith, fe ymddangosodd straeon yn y wasg ynglŷn â'r cyflwynydd Huw Edwards
Yr wythnos ddiwethaf fe ymddiheurodd y BBC am y ffordd y gwnaethon nhw ddelio â chwyn amdano.
Ymhlith yr heriau eraill mae Elan Closs Stephens yn cyfeirio atyn nhw mae'r ymchwiliad gan Channel 4 a'r Sunday Times oedd yn honni bod Russell Brand wedi ymosod yn rhywiol ar pedair menyw. Mae e'n gwadu'r honiadau.
Mae'n sôn hefyd am yr ymateb i adroddiadau'r BBC o ymosodiadau Hamas ar Israel ar 7 Hydref 2023, a'r rhyfel yn Gaza.
"Yr her fwyaf ydy dal i geisio cadw fynd, dal i gael dwy linell baralel os liciwch chi, sydd yn galluogi chi i gynnal y trywydd da chi fod i'w gynnal er mwyn arwain y gorfforaeth, ac ar yr un pryd, ceisio delio gyda'r heriau eraill."
Yn ôl y Fonesig Elan, mae trafodaethau gyda llywodraeth y DU wedi bod yn "galed" ar brydiau, ond ei bod hi'n bwysig bod y gorfforaeth yn cadw ei hannibyniaeth.
"Dwi'n grediniol bod hawl ganddyn nhw i bwyso, mae ganddyn nhw eu barn, maen nhw eisiau dylanwadu arnoch chi," meddai.
"Fyswn i'n fodlon deud nad yw hwn hyd yn oed yn unigryw i'r llywodraeth yma - roedd cyfnod Blair a rhyfel Irac wedi bod yn gyfnod poenus iawn rhwng y llywodraeth a'r darlledwr - mae'n anochel.
"Er bod gan bobl hawl i geisio ymyrryd a gwthio nôl, mae gen i'r hawl i wrthsefyll hynny."
Dywedodd llefarydd ar ran yr adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon bod y BBC yn weithredol ac olygyddol annibynnol o'r llywodraeth, ond fel darlledwr cyhoeddus sy'n cael ei ariannu gan bobl sy'n talu'r drwydded, mae'n iawn ein bod yn cysylltu yn adeiladol â'r Gorfforaeth i sicrhau ei bod yn cadw'r safonau uchel mae'r cyhoedd yn eu disgwyl.
'Mi gollon ni £90m eleni'
Yn ystod cyfnod Elan Closs Stephens yn gadeirydd, cyhoeddodd llywodraeth y DU y bydd y ffi drwydded yn cynyddu £10.50 fis Ebrill.
Roedd y cynnydd yn seiliedig ar chwyddiant ym mis Medi 2023, yn hytrach na'r cyfartaledd ar draws y flwyddyn.
"O'dd y gwahaniaeth rhwng y ddau bris yn £90m," meddai.
"Felly mi gollon ni £90m eleni, ac mae hynny'n dolc nid yn unig i'r BBC, ond i'r diwydiannau creadigol, ac i'r cwmnïau annibynnol a phawb sy'n dibynnu ar waith."
Ei holynydd fel cadeirydd, Samir Shah, fydd yn arwain y trafodaethau ar gyfer adnewyddu Siarter y BBC a dyfodol y ffi drwydded ar gyfer 2028.
Yn ôl y Fonesig Elan dylai'r BBC fod yn pwysleisio'r gwerth am arian o'r ffi drwydded: "Un o'r problemau dwi'n meddwl ydy bo' chi'n gweld y drwydded fel trwydded deledu, achos mae'n deud trwydded deledu arno fo.
"Ond wrth gwrs 'da chi'n cael yr holl wasanaethau radio, yn cynnwys Radio Cymru, Radio Cymru 2, Radio Wales, y gerddorfa yng Nghymru, y Proms, Bitesize - y cwricwlwm Cymreig.
"Mae'r pethau 'ma i gyd gymaint mwy na sy'n cael ei ddweud ar eich trwydded. Dwi'n meddwl weithiau bod ni ddim yn dda iawn am atgoffa pobl beth ydy'r cyfoeth sydd yn cael ei roi."
Byw yn Aberystwyth 'yn help mawr'
Mae hi hefyd yn cydnabod y sylw cyhoeddus mae wedi'i gael ers bod yn gadeirydd y Gorfforaeth a delio'r gyda'r heriau cyson: "Wnaeth dim byd fy mharatoi i am y ffocws.
"Yr unig beth allai ddeud ydy dwi'n berson eithaf rhesymol, a dwi 'di bod trwy bethau eithaf mawr yn fy mywyd personol, felly weithiau mae pethau corfforaethol yn edrych - nid yn eilradd - ond mae rhywun yn eu rhoi nhw mewn cyd-destun."
Cafodd ei chefndir fel Cymraes Gymraeg wedi'i magu yn Nyffryn Nantlle sylw pan gafodd ei phenodi, gyda'r Telegraph yn ei disgrifio fel 'state educated Welsh speaker'.
"Mi wnaethon nhw gymwynas fawr â mi achos mi wnaeth gymaint o bobl o'r byd Cymraeg deimlo bod hwnna yn rhyw fath o feirniadaeth, nad o'n i'n berson o sylwedd i gymharu efo'r grandees Llundeinig y maen nhw wedi arfer efo nhw.
"Ond i fi roedd o'n rhyw fath o fathodyn - o'n i'n teimlo mai dyma fy ngwerth i, dwi'n dod i mewn fel rhywun sydd ddim yn grandee Llundain a dwi'n gallu rhoi fy mhersbectif fy hun.
"Fel dwi wedi deud sawl gwaith mae byw yn Aberystwyth fel byw yn un o'r llefydd pellaf oddi wrth y gymdeithas Lundeinig y gallech chi fod - i ddechrau mae'r trên yn cymryd gymaint o amser, ond hefyd mae'n gymdeithas gwbl wahanol ac mae hwnna jyst yn rhoi persbectif - mae o'n help mewn gwirionedd i ddelio efo'r stormydd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd29 Chwefror