S4C yn penodi Sioned Wiliam yn brif weithredwr dros dro
- Cyhoeddwyd
Mae Bwrdd S4C wedi cyhoeddi eu bod wedi penodi prif weithredwr dros dro newydd.
Daw Sioned Wiliam i'r rôl yn dilyn cyfnodau fel comisiynydd comedi BBC Radio 4 ac fel pennaeth comedi ITV.
Cafodd y cyn-brif weithredwr, Siân Doyle, ei diswyddo o'r rôl ym mis Tachwedd y llynedd yn sgil honiadau o fwlio ac ymddygiad anaddas.
Dywedodd Cadeirydd y sianel, Rhodri Williams, ei fod yn "edrych ymlaen at groesawu Sioned i S4C yn dilyn cyfnod digynsail o anodd i'n gweithlu".
Bydd Sioned Wiliam yn dechrau ar ei gwaith yn rhan amser ym mis Mawrth cyn ymuno yn llawn amser ym mis Ebrill.
Dywedodd y sianel mewn datganiad mai ei phrif gyfrifoldeb fydd arwain Cynllun Gweithredu S4C - sy'n nodi rhaglen waith i fynd i'r afael yn llawn â'r materion mae S4C wedi'u hwynebu ers 2022.
Y bwriad, meddai'r datganiad, yw adfer ymddiriedaeth staff S4C a'r sector creadigol drwy edrych ar arweinyddiaeth, diwylliant, polisïau a gweithdrefnau Adnoddau Dynol, a llywodraethiant y sefydliad.
Ym mis Mai y llynedd fe gafodd cwmni cyfreithiol annibynnol ei benodi i ymchwilio i honiadau o fwlio a "diwylliant o ofn" o fewn S4C.
Cafodd y prif weithredwr, Siân Doyle, ei diswyddo gan awdurdod y sianel ym mis Tachwedd oherwydd "natur a difrifoldeb y dystiolaeth" yn ei herbyn - cyhuddiadau mae hi'n eu gwadu.
Cafodd Llinos Griffin-Williams ei diswyddo o'i rôl fel prif swyddog cynnwys y sianel hefyd wedi honiadau o "gamymddwyn difrifol" mewn bariau yn Ffrainc yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd.
Mae cadeirydd S4C, Rhodri Williams, hefyd wedi gofyn i beidio cael ei ystyried ar gyfer ail dymor yn y swydd.
Daeth cadarnhad y bydd Geraint Evans yn parhau yn ei rôl fel Prif Swyddog Cynnwys dros dro a bydd Elin Morris yn parhau fel Prif Swyddog Gweithredu S4C.
Mae disgwyl hefyd y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yn penodi Cadeirydd dros dro yn fuan i arwain Bwrdd Unedol S4C.
'Sicrhau fod S4C yn le da i weithio'
Dywedodd Sioned Wiliam ei bod hi'n "hynod ddiolchgar" am y cyfle i fod yn rhan o stori S4C.
"Mae'r sianel wedi bod yn rhan annatod o'm mywyd ers iddo gychwyn - fel gwyliwr, cynhyrchydd, cyflwynydd ac fel mam ddiolchgar," meddai
"Mae arlwy S4C yn arbennig iawn ac mae'r berthynas rhwng y sianel a'r gynulleidfa yn hollbwysig - edrychaf ymlaen at wneud bob dim y medraf i hwyluso hyn.
"Dwi am sicrhau fod S4C yn le da i weithio, lle mae'r staff yn cael eu parchu a'u cefnogi. Mae'n rhaid i bawb sydd yn gysylltiedig â'r sianel fod yn medru ymddiried ynddo gan wybod y bydd yn gweithio er budd y gweithlu, y rhanddeiliaid a'r gynulleidfa."
Dywedodd Rhodri Williams, Cadeirydd Bwrdd Unedol S4C, y bydd profiad arweinyddiaeth Ms Wiliam a'i chefndir yn y diwydiant yn "chwa o awyr iach".
"Ei blaenoriaeth bydd sicrhau bod y Cynllun Gweithredu yn ysbrydoli newid ar draws y sefydliad - er budd ein pobl, y sector creadigol ac wrth gwrs ein cynulleidfaoedd.
"Rwy'n gwybod bod Sioned yn awyddus i fynd i'r afael â'r gwaith o adfer hyder ac ymddiriedaeth yn S4C, gan sicrhau bod S4C unwaith eto yn le hapus i weithio, a phobl yn teimlo eu bod yn gallu bod ar eu gorau, a gwneud eu gorau i S4C a'r iaith Gymraeg.
"Ar ran Cyfarwyddwyr Anweithredol y Bwrdd hoffwn ddiolch i holl staff a Thîm Rheoli S4C am eu hymroddiad a'u proffesiynoldeb dros y misoedd diwethaf, gan wybod y byddant yn rhoi pob cefnogaeth i Sioned wireddu'r Cynllun Gweithredu ac adfer ffydd yn S4C."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Chwefror
- Cyhoeddwyd17 Ionawr
- Cyhoeddwyd11 Ionawr