'Effaith cau'r pyllau glo wedi streic 1984/85 yn parhau'
- Cyhoeddwyd
Mae un o bob chwech o bobl rhwng 16-64 oed yn hen feysydd glo Prydain yn hawlio budd-daliadau allan o waith, ac mae effaith cau'r pyllau ar ôl streic 1984/85 yn parhau, yn ôl adroddiad newydd.
Mae Dr Steve Fothergill o Brifysgol Sheffield Hallam - awdur yr adroddiad sydd ar fin cael ei gyhoeddi - yn dweud bod "twf sylweddol wedi bod mewn swyddi yn yr hen feysydd glo" ond bod yna "fynydd i'w ddringo i 'neud yn iawn am y swyddi a gollwyd pan gaeodd y pyllau glo".
A chyn y 10 mlynedd diwethaf, nododd fod "dros hanner y swyddi wedi eu llenwi gan weithwyr o'r tu fas i'r Deyrnas gyfunol".
Fe ddechreuodd streic y glowyr - oedd yn frwydr ddiwydiannol chwerw wnaeth barhau am flwyddyn gyfan - 40 mlynedd yn ôl i fis Mawrth eleni.
Dwy ardal a gafodd eu taro yn galed pan gaeodd y pyllau ar ôl streic 84/85 oedd Maerdy yn y Rhondda a Grimethorpe ym maes glo de Swydd Efrog.
Y diwydiant glo oedd y prif gyflogwr yn y ddau le.
Daeth y diwydiant glo i ben ym Maerdy ym 1990 pan gaeodd y pwll.
Hwn oedd y pwll dwfn olaf i gau ym maes glo hanesyddol a byd enwog y Rhondda.
Caeodd pwll Grimethorpe ym 1993, ac mae problemau tebyg yn bodoli yn y ddwy ardal.
Un o'r problemau amlycaf yw nifer y bobl sy'n 'economaidd anweithgar' - sef pobl sydd heb swydd a heb chwilio am waith yn ystod y pedair wythnos ddiwethaf, neu sydd ddim yn gallu dechrau'r gwaith o fewn y pythefnos nesaf.
Ond wrth gymharu'r ddwy ardal, mae'n amlwg hefyd fod lefelau buddsoddiad yn Grimethorpe yn wahanol iawn i'r hyn sydd wedi digwydd ym Maerdy.
Ym 1994, cafodd Grimethopre ei disgrifio fel yr ardal dlotaf ym Mhrydain.
Ond fe newidiodd pethau ar ôl i dros £100m gael ei fuddsoddi yn y pentref rhwng 1996 a 2008.
Talodd yr arian am glirio 100,000 tunnell o dir oedd wedi ei lygru, adeiladu ffordd newydd a chodi stad ddiwydiannol.
Bu hyn yn hwb anferth i'r economi leol gan greu swyddi a chyfleoedd, gyda busnesau mawr fel cwmni ffasiwn ASOS yn symud i'r ardal.
Yn ôl y newyddiadurwr Leigh Jones - sy'n gweithio i'r Yorkshire Post ac yn adnabod yr ardal yn dda - roedd yn "haws cyfiawnhau'r buddsoddiad yn y meysydd glo i adfer cymunedau, i ddod â busnesau newydd ac i atynnu mwy o fuddsoddiad" oherwydd lleoliad Grimethorpe ger Barnsley, Sheffield.
Ym Maerdy mae pobl leol yn dweud eu bod nhw wedi cael addewidion am swyddi a ffordd newydd, ond bod yr addewidion yna heb eu cadw.
Yn yr ysgol gynradd leol yn y pentre' yng Nghwm Rhondda mae'r plant yn dal i gofio am hanes y pwll a'r streic, ac ar hyn o bryd yn cyflwyno drama gerdd am yr hanes.
Ond wrth edrych i'r gorffennol, mae'r ysgol hefyd yn trafod y dyfodol.
'Ysbryd arbennig'
Un o athrawon yr ysgol yw Sian Chislett ac mae'n esbonio fod y brif stryd yn dawelach ers cau'r pwll glo.
"Doedd neb yn gweithio mewn gwirionedd, wel doedd neb yn gweithio yn fan hyn yn hytrach," meddai.
"Roedd pobl yn gadael y pentre' i fynd i'w gwaith yng Nghaerdydd neu Aberdâr dros y mynydd neu i Bontypridd efallai.
"Does dim digon o waith ym Maerdy. Na, does neb rili yn gweithio ym Maerdy dim ond yn yr ysgol."
Mae Ms Chislett yn poeni am swyddi lleol, ond ar yr un pryd yn dweud bod ysbryd arbennig ymhlith pobl y pentre', a'i fod yn le braf i blant.
Meddai: "Os ti'n edrych o gwmpas ti'n gallu gweld bod popeth yma i'r plant... maen nhw'n gallu dod mas lan y mynydd, mae'n wyrdd ac yn hardd ac mae'r ysbryd yma hefyd yn arbennig o dda."
Mae 30% o boblogaeth Cymru yn byw yn ardaloedd yr hen feysydd glo.
Yn ôl arolwg gan y BBC, roedd 60% o bobl yn yr hen feysydd glo ar draws Cymru, Lloegr a'r Alban yn dweud fod cau'r pyllau wedi cael effaith negyddol ar eu hardaloedd.
Dim ond 5% oedd yn dweud bod llawer o gyfleoedd gwaith yn eu hardal erbyn hyn, tra bod 49% yn poeni a fyddai eu plant yn cael swydd yn lleol.
Ym mhentre' Glynrhedynog ger y Maerdy, mae Hugh Morgans yn athro yn Ysgol Gymraeg Llyn y Forwyn, ac mae e'n cofio'r orymdaith fawr ar y diwrnod yr aeth y glowyr yn ôl i'r gwaith ar ddiwedd y streic.
"Dwi'n cofio'n glir, roedd hi'n fore oer iawn, ond roedd hanner Maerdy wedi troi allan i ddilyn y band pres ac fe 'naethon ni gerdded i fyny yn gwylio'r glowyr tu ôl i'w baner yn cerdded i mewn yn ôl at y gwaith."
'Newid yr ardal yn gyfan gwbl'
Ond fuodd y glowyr ddim yn y gwaith yn hir, a chau fu hanes Pwll y Maerdy. Yn ôl Hugh Morgans fe wnaeth hynny newid yr ardal yn llwyr.
"Prin bum mlynedd ar ôl y streic buodd y pwll gau yn anffodus ac mae hynny wedi newid yr ardal yn gyfan gwbl.
"Dwi wedi bod yn dysgu yn yr ardal ers sawl blynedd erbyn hyn a dwi wedi gweld y newidiadau.
"Mae gwaith a swyddi wedi bod yn anodd i'w cael... mae mwy o gyfleoedd y dyddiau yma, ond y gwir yw, ar y cychwyn roedd nifer fawr o blant yr ysgol yn derbyn cinio yn rhad ac am ddim oherwydd yr amodau yn yr ardal.
"Ym Maerdy, mae pobl rwy'n cwrdd â nhw ar y stryd yn dal i sôn am ysbryd cymunedol y pentre' ac maen nhw'n gweithio'n galed i gynnal gweithgareddau ac ysbryd y gymuned.
"Mae yma glwb sgwrsio, grŵp dysgu Cymraeg, clybiau chwaraeon a grŵp hanes."
Ond mae pobl sydd yn byw yma hefyd yn cyfaddef eu bod nhw'n poeni mai symud i ffwrdd fydd hanes nifer o'u pobl ifanc wrth chwilio am swyddi.
Mae Bailey yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Llyn y Forwyn ac yn byw ym Maerdy, sy'n amlwg yn agos at ei chalon.
"Mae'n lle ardderchog i fynd allan i chwarae gyda ffrindiau ac mae'n bert iawn," meddai.
"Mae llwyth o bethe i neud lan fan 'na."
Wrth i fi drafod swyddi gyda hi, mae Bailey yn sôn am weithio mewn siopau lleol fel Spar a'r fferyllfa, ond wrth i mi ei holi am ei gobeithion hi i'r dyfodol ac a fyddai hi yn dymuno aros yn y pentre' mae'n dweud ei bod "eisiau mynd i rywle arall lle mae'r tywydd yn neis, a ddim cymaint o law".
Yn hen faes glo Rhondda, mae pryder am ddiffyg buddsoddi a phrinder swyddi ers cau'r pyllau glo, ac mae'r un pryderon i'w clywed yn hen faes glo Sir Durham.
Fe deithiais i bentre' glan môr Easington Colliery i gwrdd â'r newyddiadurwr o Gymru Leigh Jones, sydd bellach yn gweithio i'r Yorkshire Post.
"Mae hanner y dre' wedi cael ei dymchwel ers cau'r lofa," meddai.
"Maen nhw'n llefydd anghysbell a dim cysylltiadau gyda lot o lefydd eraill felly oeddan nhw'n ddibynnol iawn ar lofeydd i'w cynnal nhw.
"Yma yn Easington roedd 'na lot o ddadboblogeiddio felly roedd hanner y strydoedd yn cael eu dymchwel erbyn troad y ganrif ddiwetha'."
Wrth i fi ymweld â safle'r hen waith glo yn Easington sydd nawr yn barc ac ardal hamdden, rwy'n cychwyn sgwrs gydag Alan Cummings, sydd allan am dro.
Mae e'n gyn-ysgrifennydd cyfrinfa'r glowyr yn y pentref ac ysgrifennydd cyffredinol Cymdeithas Glowyr Durham.
'Mae'n dorcalonnus'
Roedd yn bendant mai'r unig ateb i'r ardal yw "buddsoddiad enfawr" i daclo problemau sydd wedi codi ers cau'r pwll oedd yn cyflogi bron i 2,500 o lowyr yn ei anterth.
"Mae gyda ni broblemau cymdeithasol difrifol fan hyn," meddai.
"Mae'r stryd fawr wedi marw... mae shutters ar draws ffenestri y rhan fwyaf o'r siopau.
"Does dim gwaith i bobl... mae'n dorcalonnus."
Mewn pentrefi fel Maerdy, Easington Colliery a Grimethorpe mae'r stori yn debyg iawn.
Mae colli'r diwydiant glo wedi gadael creithiau dwfn ac ansicrwydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2024