Taith i ddiolch am gefnogaeth Wcráin adeg Streic y Glowyr

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
GlowyrFfynhonnell y llun, BBC Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae grŵp o gyn-lowyr wedi teithio i Wcráin i ddanfon cymorth meddygol i'r teuluoedd wnaeth eu helpu nhw yn ystod y streic fawr

Ddeugain mlynedd ers streic fawr y glowyr mae cymunedau o Gymru'n cofio'r help a'r gefnogaeth gawson nhw gan lowyr Wcráin yn 1984-85.

Ddwy flynedd ers dechrau ymosodiad Rwsia ar y wlad, mae grŵp o gyn-lowyr ac Aelod o'r Senedd wedi teithio i Wcráin gyda chymorth meddygol ar gyfer teuluoedd glowyr sy'n rhan o'r brwydro.

Fe wnaeth glowyr o ar draws y byd, gan gynnwys Wcráin, deithio i Brydain 40 mlynedd yn ôl er mwyn cefnogi streicwyr, gyda rhai'n ymweld â chymunedau yng Nghymru.

Mae yna gred bod miloedd o lowyr nawr ar y rheng flaen yn ymladd yn y rhyfel.

Fe deithiodd Mick Antoniw, AS Pontypridd a dau gyn-löwr - Wayne Thomas,Ysgrifennydd Cyffredinol NUM Cymru, a Carwyn Donovan, gweithredydd negodi gydag undeb BECTU - i ddinas Kyiv gyda chymorth meddygol o dde Cymru ar gyfer teuluoedd glowyr yn Wcráin.

Ffynhonnell y llun, BBC Cyrmru
Disgrifiad o’r llun,

Y grŵp cyn cychwyn eu taith o Bontypridd i Kyiv

Maen nhw hefyd wedi rhoi cerbyd er mwyn cludo cymorth i filwyr ar y rheng flaen .

Adeg y streic roedd awgrym fod glowyr ardal y Donbas - prif ardal lofaol Wcráin - wedi codi hyd at filiwn o bunnau i helpu glowyr ym Mhrydain, ac mae'r cysylltiad a'r cyfeillgarwch rhwng maes glo'r de a glowyr Wcráin wedi parhau ers hynny.

Un o'r cyntaf i groesawu'r criw o Gymru oedd un o arweinwyr amlycaf yr undebau llafur yn Wcráin, Mikhailo Volynets - Llywydd y KVPU, undeb annibynnol glowyr y wlad.

Ffynhonnell y llun, BBC Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Mikhailo Volynets mai ei brofiad gyda glowyr o Brydain oedd sbardun ei waith ymgyrchu dros hawliau gweithwyr yn Wcráin

Dywedodd: "Ym 1985 fe ges i fy ethol i arwain pwyllgor undeb llafur y gwaith glo mwyaf yn yr Undeb Sofietaidd ac Ewrop, ac fe wnaethom ni drefnu i godi arian i'r glowyr oedd yn streicio a'u teuluoedd oherwydd yr oeddem ni yn gwybod fod ganddyn nhw broblemau ariannol mawr."

Dywed mai'r profiad hwnnw oedd sbardun ei ymgyrch hir dros ddemocratiaeth a hawliau gweithwyr yn ei wlad ei hun.

Ar ôl ymweld â Phrydain yn 1987, mae'n dweud iddo arwain dros filiwn o lowyr mewn streic enfawr yn yr Undeb Sofietaidd ym 1989.

Roedd y brotest yn garreg filltir allweddol ym mhroses Perestroika, lle'r oedd yr Arlywydd Gorbachov ar y pryd yn ceisio aildrefnu polisïau gwleidyddol ac economaidd Sofietaidd.

Ffynhonnell y llun, BBC Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Y grŵp o Gymru'n cwrdd â Mikhailo Volynets

Y gred yw fod streic fawr y glowyr wedi cyfrannu at gwymp yr Undeb Sofietaidd wrth i'r glowyr gefnogi Boris Yeltsin, Llywydd y Ffederasiwn Rwsiaidd ar y pryd, a mynnu ymddiswyddiad Gorbachev a'i lywodraeth.

Ychydig flynyddoedd wedi hynny fe wnaeth Mr Volynets arwain grŵp mawr o lowyr i sgwâr Kyiv yn 2004 i gefnogi Viktor Yushchenko a sicrhau democratiaeth ar ôl protestiadau enfawr ar draws Wcráin yn ystod yr hyn sy'n cael ei nabod fel y Chwyldro Oren.

Bellach mae'r glowyr ymhlith y milwyr ym myddin Wcráin sy'n ymladd yn y rhyfel gyda Rwsia, ac mae'r rheiny a gafodd gymorth ganddyn nhw yn ystod streic '84 wedi teithio i'r wlad i ddangos eu gwerthfawrogiad a chynnig help yn ôl.

Ffynhonnell y llun, BBC Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Wayne Thomas yn emosiynol wrth gyflwyno rhodd o gerflun i bobl Wcráin

Yn ogystal â chymorth dyngarol roedd y Cymry wedi cludo cerflun bach o lo o lofa'r Tŵr i bobl Wcráin.

Wrth gyflwyno'r rhodd roedd Wayne Thomas yn amlwg dan emosiwn.

"Roeddwn i yn un o'r dynion oedd ar streic 40 mlynedd yn ôl," dywedodd. "Dyn ifanc oeddwn i bryd hynny, gyda gwraig a phlentyn.

"Rwy' nawr yn falch iawn i gael cyfle i ddangos pa mor ddiolchgar ydw i am y gefnogaeth y cawson ni bryd hynny gan lowyr Wcráin.

"Ry'n ni byth wedi anghofio hynny, a dyna pam ein bod ni yn dal i gefnogi'r glowyr yn fan hyn.

"Felly yn ogystal â'r cerbyd yma a'r cymorth meddygol, rwy am gyflwyno y rhodd yma i chi i gydnabod nid yn unig eich brwydr ar hyn o bryd ond hefyd yr hyn wnaethoch i helpu ni 40 mlynedd yn ôl."

Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Mick Antoniw, Aelod o'r Senedd dros Bontypridd, deulu yn Wcráin

Nôl yng Nghymru, mae cyn-lowyr fel Ceri Thompson, oedd ar streic yn 1984 ac sydd erbyn hyn yn guradur yn Amgueddfa Lofaol Big Pit, yn cofio help yn dod o Rwsia i'r glowyr yng Nghymru.

Roedd e'n gweithio ym mhwll glo'r Cwm, Beddau ar y pryd.

Mae'n cofio casglu pecynnau bwyd o ganolfan ddosbarthu lle'r oedd menywod a theuluoedd y glowyr yn derbyn a rhannu'r bwyd i bobl leol oedd yn cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd wrth i'r streic ddwysáu.

Mae'n gwenu wrth sôn am becynnau bwyd yn cyrraedd o Rwsia, a dim syniad yn ardal Beddau sut oedd coginio ambell rodd.

Ffynhonnell y llun, BBC Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ceri Thompson yn cofio casglu pecynnau bwyd yn ystod cyfnod y streic

"Yn y food parcel fel arfer bydde steak pudding, tatws, torth o fara ac yn y blaen. Ond ar un achlysur roedd bag papur llawn powdwr piws yn y cwdyn.

"Mae yn debyg bod lot o drums cardbord 'di dod mewn o Rwsia yn cynnwys y powdwr yma a dim cyfarwyddiadau ynglŷn â sut i ddefnyddio fe, na beth i neud â fe.

"Roedd merched y women's support groups oedd yn trefnu y pecynnau bwyd... wedi mesur y powdwr mas a dodi fe mewn bags papur a dosbarthu nhw rownd y bois a'r teuluoedd.

"Pan es i a fe nôl i'r tŷ doedden ni ddim yn gw'bod be i neud â fe, felly nes i ddodi fe ar yr ardd. A dim ond eleni nes i ffindo mas taw powdwr beetroot oedd e i neud Borscht, rhyw fath o gawl Rwsiaidd!"

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cymro sefydlodd dinas Donetsk yn ardal Donbas, Wcráin

Mae ganddo ddiddordeb mawr hefyd yn hanes lleol ac mae'n sôn am y cysylltiad rhwng y cymoedd a'r Donbas yn Wcráin.

Cymro o Ferthyr Tudful, John James Hughes, sefydlodd dinas Donetsk. Cafodd Yuzovka, neu Hughesovka, ei enwi ar ei ôl.

Pan ddaeth Stalin i rym cafodd enw'r ddinas ei newid i Stalino, ac yna i Donetsk yn 1961.

"Roedd y Tsar o Rwsia yn headhunto un o'r meistri haearn o Ferthyr, sef John Hughes.

"Fe gafodd e yr her o greu complex diwydiannol trwy y Donbas. Roedd llawer o weithwyr yn dod drosodd gyda John Hughes... S'neb yn cofio lot am y stori nawr."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ann Soroka wedi codi arian i bobl Wcráin er cof am ei gŵr, Max

Mae Ann Soroka o bentref Ystradgynlais ym mhen uchaf Cwm Tawe hefyd yn cydnabod ymdrech pobl Wcráin ac yn codi arian ar gyfer nwyddau i bobl Wcráin ers cychwyn y rhyfel.

Roedd ei gŵr Max yn un o gannoedd o fechgyn ifanc a gafodd eu cipio o ysgolion yn Wcráin gan y Natsïaid ym 1941.

Llwyddodd i ddianc a chyrraedd Cymru lle wnaeth o gyfarfod ac Ann mewn dawns yn Abertawe.

Ar ôl priodi fe symudodd i Ystradgynlais a chael swydd ym mhwll glo Blaenant, gan ymuno â streic y glowyr yn 1984.

"Oedd e ddim mo'yn streic, oherwydd oedd e yn gwybod ei bod hi yn dynn yn ariannol arnom ni fel teulu," meddai.

"Ond bydde fe byth yn torri streic, ac oedd e yn gw'bod hefyd bydden ni ddim yn hapus i dorri streic."

Er bod 40 mlynedd ers streic 1984 mae cyn-lowyr Cymru'n cofio cefnogaeth eu cydweithwyr yn Wcráin. Mae'r daith hon yn un ffordd o ddweud diolch.

Pynciau cysylltiedig