Senedd: Drakeford yn gwrthod ateb cwestiynau am WhatsApp

  • Cyhoeddwyd
WhatsAppFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Mark Drakeford wedi gwrthod ag ateb cwestiynau ar lawr y Senedd am ei ddefnydd o WhatsApp yn ystod pandemig Covid.

Dywedodd y prif weinidog na fyddai'n cynnig "rhagolwg" o'r hyn y bydd yn ei ddweud wrth yr Ymchwiliad Covid yr wythnos nesaf.

Mae'r ymchwiliad eisoes wedi clywed honiadau fod Mr Drakeford wedi defnyddio'r system negeseuon testun yn rheolaidd.

Yn ystod sesiwn gwestiynau i'r prif weinidog fe gafodd ei gyhuddo o osgoi craffu gan arweinwyr y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru.

Roedd Mr Drakeford wedi dweud yn flaenorol mai dim ond "ychydig iawn" o ddefnydd yr oedd yn ei wneud o'r ap.

Bu'n rhaid i Mr Drakeford gywiro record y Senedd y llynedd ar ôl iddo ddweud nad oedd yn defnyddio WhatsApp.

Fe gyfaddefodd yn ddiweddarach iddo gael ei osod ar ei ffôn Seneddol.

Rhybudd

Ddydd Llun fe wnaeth yr ymchwiliad Covid glywed bod staff Llywodraeth Cymru wedi cael rhybudd i beidio â defnyddio WhatsApp ar gyfer busnes y llywodraeth.

Honnwyd bod Mr Drakeford yn defnyddio WhatsApp yn rheolaidd i drafod cyhoeddiadau polisi ac i gael eglurhad ar y rheolau.

Yn ystod y sesiwn gwestiynau i'r prif weinidog ddydd Mawrth, gofynnodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies, i Mr Drakeford gadarnhau a oedd yn defnyddio WhatsApp "fel yn y dystiolaeth a gyflwynwyd i'r ymchwiliad Covid, yn benodol o ran penderfyniadau polisi a rheolau?"

"Byddaf yn talu'r parch dyledus i'r ymchwiliad, a byddaf yn rhoi fy atebion iddynt fel tyst," atebodd Mr Drakeford.

Fe brotestiodd Mr Davies ei bod hi'n "gwbl gyfreithlon i ddod i'r senedd hon i geisio cael eglurhad gan bennaeth y llywodraeth, pan fo'r wybodaeth eisoes yn gyhoeddus".

Gofynnodd yr un cwestiwn eto, ond dywedodd Mr Drakeford nad oedd ganddo "ddim byd i'w ychwanegu" i'r eglurhad blaenorol a roddwyd i'r Senedd fis Tachwedd diwethaf.

Gofynnodd Mr Davies am gefnogaeth gan y Llywydd i gael ateb gan Mr Drakeford, ond dywedodd Elin Jones nad oedd cynnwys atebion Mr Drakeford "yn fater i mi".

Fe wnaeth Mr Davies sylw na chafodd ei ddal yn glir gan feicroffonau'r Senedd - ond mae ffynonellau wedi dweud wrth y BBC ei fod wedi awgrymu bod gan Mr Drakeford broblem gyda'r gwir.

'Dirmyg'

Dywedodd y prif weinidog wrth Mr Davies "na allaf ddweud wrtho'r dirmyg rwy'n ei deimlo tuag at berson sy'n eistedd yno ac sy'n defnyddio geiriau fel yna.

"Rwy'n ateb ei gwestiynau'n onest bob wythnos, a byddaf yn ateb y cwestiynau yn onest o flaen yr ymchwiliad."

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, ei bod yn "ddyletswydd i ni fel seneddwyr i ddwyn y llywodraeth a'r prif weinidog i gyfrif".

Dywedodd fod yr ymchwiliad wedi clywed bod prif ymgynghorydd arbennig y prif weinidog wedi dweud wrth weinidogion am glirio negeseuon WhatsApp unwaith yr wythnos, saith mis ar ôl i e-bost gael ei anfon yn atgoffa staff i gadw cofnodion ar gyfer unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol.

Gofynnodd a fyddai Mr Drakeford yn cyfaddef bod dileu negeseuon yn torri rheolau'r llywodraeth ei hun - ond gwrthododd y prif weinidog unwaith eto. "Dydw i ddim yn mynd i gynnig rhagolwg o'r cwestiynau fydd yn cael eu gofyn i mi fel tyst i'r ymchwiliad."

Wrth siarad wedi'r sesiwn dywedodd Mr ap Iorwerth bod "llywodraeth Lafur Cymru yn datblygu enw drwg am redeg i ffwrdd o scriwtini".

Pynciau cysylltiedig