Rhys ab Owen AS yn wynebu gwaharddiad 42 diwrnod

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Rhys ab Owen, sy'n cynrychioli rhanbarth Canol De Cymru, yn wynebu gwaharddiad o 42 diwrnod o'r Senedd

Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru yn dweud y dylai cyn-aelod o'r Blaid fod wedi wynebu colli ei sedd am gyffwrdd yn amhriodol a rhegi ar ddwy ddynes pan oedd yn feddw ar noson allan.

Mae Rhys ab Owen, sy'n cynrychioli rhanbarth Canol De Cymru, yn wynebu gwaharddiad o 42 diwrnod o'r Senedd ym Mae Caerdydd.

Yn ôl Ben Lake, dyw e ddim yn iawn nad yw'r gosb yn arwain at ddeiseb adalw - sydd os yw'n pasio yn gorfodi is-etholiad - fel yn San Steffan.

Dywedodd Mr Lake, sy'n cynrychioli Ceredigion yn San Steffan, bod ymddygiad Rhys ab Owen yn "annerbyniol".

Mae adroddiad Pwyllgor Safonau'r Senedd yn dweud nad oedd o wedi dangos unrhyw edifeirwch am y digwyddiad ar 30 Mehefin 2021.

Mae Mr ab Owen wedi gwadu unrhyw "ymddygiad amhriodol" tuag at y ddwy fenyw, meddai'r pwyllgor.

Mae hefyd yn dweud ei fod wedi ymddiheuro i'r unigolyn wnaeth gwyno ers yr achos.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Rhys ab Owen, sy'n cynrychioli rhanbarth Canol De Cymru, ei ethol i'r Senedd am y tro cyntaf yn 2021

Dyma'r gosb fwyaf i unrhyw Aelod o'r Senedd ei hwynebu, ac fe fydd Aelodau'r Senedd yn pleidleisio ar weithredu'r argymhelliad ar 13 Mawrth.

Yn ôl yr adroddiad, roedd Mr ab Owen ymhlith nifer o aelodau o'r Senedd a aeth i dafarn Wetherspoons ym Mae Caerdydd ar 30 Mehefin 2021, ac yno fe ymunon nhw â sawl aelod o staff Plaid Cymru.

Noda'r ddogfen bod Mr ab Owen wedi yfed "swm sylweddol o win", gydag awgrym gan rai ei fod yn fwy meddw na'r gweddill oedd yn bresennol.

Dywedodd y ddynes a wnaeth gwyn i'r comisiynydd bod Mr ab Owen wedi rhegi arni ddwywaith mewn stryd ger y dafarn.

Mae'r adroddiad yn nodi bod Mr ab Owen wedi ei chyffwrdd mewn modd amhriodol drwy roi ei fraich o gwmpas ei chanol a'i thynnu tuag ato.

Ychwanegodd y ddynes bod Mr ab Owen wedi gwasgu ei chlun "yn galed" mewn tacsi yn hwyrach yn y noson.

Disgrifiad o’r llun,

Daeth y pwyllgor i'r casgliad fod prosesau Plaid Cymru yn "annigonol ac yn aneffeithiol"

Mae dynes arall, sy'n cael ei chyfeirio ato yn yr adroddiad fel "tyst A" yn dweud bod Mr ab Owen wedi rhegi arni ar ôl iddi herio'r gwleidydd am ei ymddygiad.

Daeth yr adroddiad i'r casgliad fod Mr ab Owen wedi cyffwrdd tyst A yn amhriodol yn y dafarn drwy afael yn ei chanol.

Mae'n nodi hefyd ei fod wedi gwneud sylwadau amhriodol iddi mewn tafarn arall yng nghanol y ddinas.

Nododd yr achwynydd fod Mr ab Owen wedi ymddiheuro ar sawl achlysur am ei ymddygiad.

'Ddim yn iawn'

Wrth siarad ar Wales Live BBC Cymru, dywedodd Mr Lake "nad oedd yn iawn bod aelodau benywaidd o staff yn gorfod wynebu ymddygiad o'r fath".

Bu'n beirniadu'r modd mae'r Senedd yn delio ag aelodau sydd wedi eu gwahardd.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ben Lake y dylai'r Senedd gael system debyg i San Steffan sydd yn gallu gorfodi is-etholiad

"Yn San Steffan mi fyddai gwaharddiad o'r fath yn arwain at ddeiseb adalw, sy'n gorfodi is-etholiad... dwi'n credu y dylai'r Senedd edrych ar y posibilrwydd o fedru gwneud hynny.

"Dyw e ddim yn iawn bod aelod etholedig yn gallu ymddwyn fel hyn a pharhau yn ei swydd."

Ymddiheuro 'yn ddiamod'

Cafodd Rhys ab Owen, sy'n cynrychioli rhanbarth Canol De Cymru, ei ethol i'r Senedd am y tro cyntaf yn 2021.

Fe gafodd ei wahardd o grŵp y blaid ym Mae Caerdydd ym mis Tachwedd 2022, tra'n aros am gasgliad ymchwiliad y Comisiynydd Safonau.

Mae hyn yn golygu ei fod yn eistedd fel aelod annibynnol, ond mae Mr ab Owen wedi parhau yn aelod o Blaid Cymru.

Ond yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd Plaid Cymru bod Mr ab Owen bellach wedi ei wahardd fel aelod o'r blaid wrth iddyn nhw gynnal "proses fewnol" ynghylch y mater.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rhys ab Owen ei fod bellach "yn berson ac yn gynrychiolydd gwell"

Mewn datganiad, dywedodd Mr ab Owen ei fod yn ymddiheuro "yn ddiamod" i'r rhai gafodd eu heffeithio gan ei ymddygiad ar y noson dan sylw, gan gydnabod nad oedd "yn cyrraedd y safon y mae'r cyhoedd yn ei ddisgwyl gan aelod o'r Senedd".

"Mae'r modd yr wyf yn herio manylion y gŵyn, neu'r ffordd yr ymchwiliwyd iddi ar ôl hynny, yn fater gwahanol, ac yn un yr wyf yn ystyried y camau nesaf yn ei gylch," meddai.

"Rwy'n parhau'n gwbl ymroddedig i'r Senedd a'm gwaith yno ar ran fy etholwyr.

"Rwyf wedi gwneud newidiadau i'm ffordd o fyw sydd yn fy helpu i fod yn berson ac yn gynrychiolydd gwell."

Ychwanegodd ei fod yn diolch i'w deulu am eu cariad a'u cefnogaeth, ac nad oedd am wneud sylw pellach ar y mater ar hyn o bryd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Rhun ap Iorwerth fod Plaid Cymru yn gweithio'n galed i sicrhau ei bod yn blaid diogel a chroesawgar

Daeth Pwyllgor Safonau'r Senedd i'r casgliad fod prosesau Plaid Cymru yn "annigonol ac yn aneffeithiol".

Mae'r comisiynydd wedi cysylltu ag arweinwyr pob plaid yn gofyn iddyn nhw sicrhau bod mesurau addas yn eu lle.

Doedd Plaid Cymru ddim yn rhan o'r trafodaethau trawsbleidiol gan fod un o'u haelodau, Peredur Owen-Griffiths, yn cael ei enwi yn yr adroddiad a'r ffaith bod pob un o'u haelodau wedi cymryd rhan yn y broses o wahardd Mr ab Owen o grŵp y blaid.

'Difrifol iawn'

Wrth ymateb i gynnwys yr adroddiad, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth bod y casgliadau "yn ddifrifol iawn".

"Mae 'na ddisgwyliadau clir o ran ymddygiad gwleidyddion ac mae'r aelod ei hun wedi cyfaddef nad oedd ei ymddygiad o yn cyd-fynd â'r safonau hynny," meddai.

"Ry'n ni fel plaid wedi cymryd camau i'w wahardd fel aelod wrth i ni gynnal proses fewnol ynghylch y mater, ac wrth i'r Senedd baratoi am bleidlais ar gynnwys yr adroddiad.

"Mae'r adroddiad yn crybwyll y ffordd wnaethon ni fel plaid ymateb, a doedd yr ymateb hwnnw ddim fel y dylai wedi bod."

Ychwanegodd bod Plaid Cymru yn gweithio'n galed i sicrhau bod y blaid yn un diogel a chroesawgar.

Cod ymddygiad ASau

Mae disgwyl i Aelodau'r Senedd gadw at god ymddygiad Senedd Cymru yn y modd y maent yn ymddwyn yn eu bywydau personol a phroffesiynol.

Mae'n cynnwys rheolau sy'n dweud na ddylai aelodau weithredu mewn ffordd sy'n dwyn anfri ar y Senedd, rhaid iddynt beidio ag ymosod yn bersonol ar unrhyw un, rhaid iddynt gynnal y gyfraith droseddol a nodir na ddylent gamddefnyddio lwfansau neu adnoddau sydd ar gael iddynt.

Gall y cyhoedd ac eraill wneud cwynion am aelod i'r Comisiynydd Safonau, Douglas Bain.

Os ydy o'n penderfynu ymchwilio ac yn canfod cam, yna'r Pwyllgor Safonau - grŵp trawsbleidiol o Aelodau o'r Senedd - sy'n penderfynu os oes angen sancsiwn.

Gall hynny gynnwys gwaharddiad dros dro o'r Senedd, gyda'r aelod yn colli cyflog am y cyfnod hwnnw.

Yn San Steffan os yw AS yn cael eu gwahardd am 10 diwrnod neu fwy yna maen nhw'n wynebu deiseb adalw yn awtomatig, gan roi cyfle i bleidleiswyr yn yr etholaeth i gael gwared ar eu haelod. Nid oes proses o'r fath yn bodoli yn y Senedd.

Roedd y Pwyllgor Safonau wedi argymell bod cyn-aelod Plaid Cymru Neil McEvoy yn cael ei wahardd heb dâl am gyfanswm o 42 diwrnod am dorri nifer o reolau'r Senedd.

Ni chafodd yr argymhellion eu gweithredu, gan nad oedd yn Aelod o'r Senedd pan gafodd yr adroddiad ei gyhoeddi.