Traffig 'ofnadwy' Niwbwrch yn 'cael effaith mawr'
- Cyhoeddwyd
Mae rhai o drigolion Niwbwrch ar Ynys Môn wedi dweud pa mor bryderus ydyn nhw am broblemau traffig yn yr ardal wrth i bobl ymweld â'r goedwig ac Ynys Llanddwyn.
Mae miloedd o bobl yn ymweld â Choedwig Niwbwrch ac Ynys Llanddwyn bob blwyddyn - ond er yr holl ymwelwyr, dim ond un lôn gul sy'n mynd lawr i'r traeth o'r pentref.
Bydd digwyddiad cyhoeddus ddydd Iau i edrych ar welliannau posib i fynediad a thrafnidiaeth yn yr ardal, ond mae rhai yn pryderu nad oes modd datrys y broblem "dros nos".
Wrth drafod y cyfarfod cyhoeddus, dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru: "Mae'r math hwn o waith yn ein helpu i reoli perthynas y safle â'r gymuned gyfagos mewn ffordd gydweithredol."
Mae Glenys Owen yn byw yn yr ardal ac yn credu fod y sefyllfa yn "ofnadwy".
"Fedrith neb fynd i nunlle, mae rhai yn colli eu gwaith gan eu bod nhw methu dod allan o'u tai.
"Dwi'n meddwl fod angen arwyddion ymhellach, yn Llanfairpwll er enghraifft i ddweud fod y maes parcio yn llawn. Ar ôl i bobl gyrraedd Niwbwrch mae'n rhy hwyr.
"Mae 'na ddynes yma wedi cael pobl yn ffraeo, a chael roadrage tu allan i'w thŷ, dydi hi ddim isio clywed hynny pan mae hi'n eistedd yn ei gardd - un arall wedi dweud eu bod yn cymryd tua 20 munud i gael o'r sgwâr yn y pentref nôl i'w tŷ.
"Mae'n cael effaith mawr ar bobl."
'Does dim ateb dros nos i'r broblem'
Mae Gwyndaf Rowlands sy'n byw yn lleol, yn dweud fod y sefyllfa yn ystod cyfnod y gwyliau yn golygu "fedrith neb symud".
"Fedrwch chi fod yn sefyll yma am 10:00 y bore am tua hanner awr ddim yn gallu symud...mae'r traffig yn buildio fyny bob ffordd."
Ychwanegodd: "Mae hyn i gyd wedi'i greu oherwydd bod Cyfoeth Naturiol Cymru ddim yn rhedeg yr ardal yn iawn.
"Gwarchodfa natur ydi'r lle, ond mae Cyfoeth Naturiol Cymru isio ei droi yn theme park.
"Mae social media yn ddrwg mewn ffordd, mae gennych chi Netflix yn dod yma, ac mae hynny'n gwerthu'r lle dros y byd i gyd. Mae Lloyds Bank wedi bod yma'n ffilmio - mae hyn yn creu mwy o broblemau ac yn cynyddu faint sy'n dod yma."
'Annog lleoliadau tawelach'
Wrth ymateb, dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru: "Fel rhan o'n hymgyrch i hyrwyddo ymweliadau cyfrifol, rydym yn annog pobl i ystyried lleoliadau tawelach ac i ffwrdd o safleoedd prysur fel Niwbwrch ac i lunio cynllun wrth gefn rhag ofn bod y lleoliad yn rhy brysur ar y diwrnod.
"Rydym yn ymatal rhag defnyddio Gwarchodfa Natur Genedlaethol Niwbwrch, y Goedwig neu Ynys Llanddwyn i farchnata deunyddiau cymaint â phosibl ac rydym yn gweithio i annog eraill i wneud yr un peth.
"Pan fyddwn yn derbyn ceisiadau i ffilmio yno, rydym yn ystyried nifer o ffactorau gan gynnwys yr effaith ecolegol, mesurau lliniaru, budd economaidd i'r ardal leol a cheisio sicrhau buddion cymunedol o'r prosiect ei hun."
Bydd Cyngor Sir Ynys Môn yn cydweithio â Chyfoeth Naturiol Cymru a phartneriaid eraill i gynnal y digwyddiad cyhoeddus ac i geisio dod o hyd i ddatrysiad i'r broblem yn y pentref.
Yn ôl Arweinydd y Cyngor, Llinos Medi, mae'r sefyllfa bresennol yn y pentref yn "annerbyniol".
Dywedodd: "Mewn cyfnodau yn yr haf yn enwedig, mae'n amhosib i bobl symud o fewn eu pentrefi eu hunain a gwneud eu gwaith o ddydd i ddydd.
"Dyna pham mae digwyddiad wythnos yma, lle mae'r partneriaid i gyd yn dod at y bwrdd gyda'r gymuned er mwyn ceisio dod o hyd i ddatrysiad, oherwydd bod rhaid gwneud rhywbeth yn yr ardal yna."
Wrth ymateb i sylwadau gan rai yn lleol sy'n amheus gan fod ymgynghoriadau wedi eu cynnal yn y gorffennol a'r broblem yn parhau, dywedodd Llinos Medi: "Y tro yma, mae'n dod o dan arweiniad y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus - Gwynedd a Môn lle mae'r partneriaid yna'n statudol.
"Mi yda ni gyd yn cydweithio sy'n rhoi'r grym partneriaethol yna ac mae hynny'n ei wneud yn wahanol y tro hwn. Felly beth yda ni eisiau rwan ydi ein bod ni'n profi gwerth y bartneriaeth yna wrth greu datrysiad a'i gyflawni o."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Awst 2016