Roberts a Watkin i gymryd lle North a Tompkins i Gymru
- Cyhoeddwyd
Bydd Joe Roberts ac Owen Watkin yn cymryd lle George North a Nick Tompkins fel canolwyr wrth i Gymru groesawu Ffrainc i Gaerdydd yn y Chwe Gwlad ddydd Sul.
Dyma fydd ail gap Roberts, wedi iddo wneud ei unig ymddangosiad dros Gymru hyd yma yn erbyn Lloegr mewn gêm baratoi ar gyfer Cwpan y Byd y llynedd.
Dyw North - sydd wedi ennill 120 o gapiau rhyngwladol - na Tompkins wedi'u henwi ar y fainc 'chwaith.
Mae Warren Gatland hefyd wedi penderfynu symud y capten Dafydd Jenkins o'r ail reng i fod y flaenasgellwr - y tro cyntaf erioed iddo ddechrau yn y safle yma fel chwaraewr proffesiynol.
Will Rowlands fydd yn bartner i Adam Beard yn yr ail reng felly, gyda'r blaenasgellwr Alex Mann yn symud i'r fainc.
Bydd Ryan Elias yn dechrau fel bachwr, yn yr olaf o bum newid i'r tîm a gafodd eu trechu yn Nulyn.
Dywedodd Gatland fod "ambell newid yr wythnos hon gan bod rhai chwaraewyr yn haeddu cael cyfle a munudau ar y maes".
"Does dim amheuaeth y bydd y gêm yr arbennig o gorfforol - yn enwedig felly ymhlith y blaenwyr.
"Bydd Ffrainc yn bendant yn ceisio dechrau'r gêm ar garlam ac yn hynod galed hefyd.
"Bydd yn rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n gorfforol, yn gyflym ac yn ddisgybledig o'r chwiban gyntaf. Unwaith eto ry'n ni'n edrych am berfformiad 80 munud.
"Mae'r garfan yn gyffrous am y ffaith ein bod yn chwarae ein dwy gêm olaf yn Stadiwm Principality o flaen ein cefnogwyr angerddol."
Tîm Cymru i herio Ffrainc
Cameron Winnett; Josh Adams, Joe Roberts, Owen Watkin, Rio Dyer; Sam Costelow, Tomos Williams; Gareth Thomas, Ryan Elias, Keiron Assiratti, Will Rowlands, Adam Beard, Dafydd Jenkins (capt), Tommy Reffell, Aaron Wainwright.
Eilyddion: Elliot Dee, Corey Domachowski, Dillon Lewis, Mackenzie Martin, Alex Mann, Gareth Davies, Ioan Lloyd, Mason Grady.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2024