Dirwy i'r chwaraewr rygbi Mason Grady am yrru ar 115mya

  • Cyhoeddwyd
Mason GradyFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae'r chwaraewr rygbi rhyngwladol Mason Grady wedi cael dirwy o £915 ar ôl cyfaddef gyrru ar gyflymder o 115mya ar yr M4.

Fe wnaeth Grady, sy'n chwarae i Rygbi Caerdydd, bledio'n euog yn Llys Ynadon y ddinas ddydd Llun.

Cafodd ei ddal yn goryrru ger Pen-y-bont ar Ogwr ar 19 Hydref y llynedd - ychydig ddyddiau ar ôl dychwelyd o Ffrainc yn dilyn Cwpan y Byd.

Yn ogystal â'r ddirwy o £915, fe fydd rhaid i Grady, 21, dalu £366 ychwanegol a £110 o gostau.

Cafodd orchymyn i dalu'r cyfanswm o £1,391 erbyn diwedd mis Mawrth.

Mae Grady wedi ymddangos ym mhob un o gemau Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni.

Ddydd Mercher cafodd ei enwi yn y garfan i herio Ffrainc dros y penwythnos.