Pum munud gyda... y brodyr Bidder
- Cyhoeddwyd
Mae Rhys ac Aled Bidder yn frodyr sy'n cyd-gyflwyno'r rhaglen wyddonol BOOM! gyda'i gilydd ar Stwnsh, S4C.
Yn enedigol o'r Gŵyr ger Abertawe mae'r ddau'n byw yng Nghaerdydd erbyn hyn. Aeth Cymru Fyw draw i gael sgwrs gyda nhw ar set y rhaglen yn ystod toriad byr yn y saethu.
Pwy yw'r hynaf a sut berthynas oedd gyda chi pan oeddech chi'n blant?
"Dwi'n 38", meddai Rhys, "A dwi'n 32", meddai Aled.
Aled: "Ry'n ni'n deulu agos iawn ac mae pawb yn tynnu 'mlaen."
Rhys: "Mae gyda ni chwaer hŷn, Angharad, a brawd, Owain, sy'n byw allan yn America."
Aled: "Pan ro'n i'n blant bydden i'n rhedeg mewn i stafell gwely Rhys ac yn gweud "O, Rhys edrych ar hwn… dyma'r peth gore yn y byd!"
Rhys: "A bydden i'n gweud, "Aled, sdim diddordeb da fi." Ro'n i'n mynd trwy'r teenager phase bryd 'ny, ond na, ry'n yn dod mlaen yn dda nawr."
Aled: "Mae pob teulu'n cwympo mas weithiau ond nelon ni fyth neud yn ddifrifol."
Ydych chi'n deulu gwyddonol? O ble daeth y chwant i actio?
Rhys: "Ydyn. Mae Angharad yn consultant meddygol ac mae gan Owain PHD yn sŵoleg. Mae e'n wyddonydd data erbyn hyn. Nes i neud gradd mewn Bio Chemistry."
Aled: "Nes i astudio Cemeg am dair blynedd ond nes i ddim gorffen y gradd oherwydd ro'n i eisiau astudio actio. Es i i'r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd am dair blynedd i neud gradd perfformio."
Rhys: "Roedd wastad diddordeb wedi bod 'da fi mewn actio. Nes i gymryd rhan mewn sioau ysgol ond gwmpes i mewn i'r diwydiant os dwi'n onest. Es i am gyfweliad gyda Pobol Y Cwm a bues i yna am wyth mlynedd. Roedd rhaid i fi ddysgu'n gloi! Roedd cymaint o actorion da a phrofiadol o'm cwmpas i felly ro'n i'n gwybod bod rhaid i fi ddysgu'n leins a chanolbwyntio. Wedyn ges i waith gyda'r Theatr Genedlaethol ac roedd rhaid i fi ddysgu neud darnau theatr clasurol."
Aled: "Ro'n i'n neud 'bits a bobs' ar ol gadael y coleg wedyn ges i waith ar Pobol Y Cwm ond nid yr un pryd a Rhys."
Cyn i chi ddechrau ar BOOM, oeddech chi wedi gweithio ar unrhyw gynhyrchiadau eraill gyda'ch gilydd?
Aled: "Do. Fuon ni ar y rhaglen Gwaith Cartref fel dau ffrind o'r coleg. Roedd hynna'n lot o hwyl."
Rhys: "Fuon ni wedyn ar raglen o'r enw Mabinogi-ogi hefyd. Roedd e fel rhyw fath o 'Horrible Histories' ar y Mabinogion. Githon ni lot o sbort achos ro'n ni'n chwarae cymeriadau digri ac yn canu caneuon dwl."
Pa fath o raglen yw BOOM a sut gaethoch chi'r cyfle i gyd-gyflwyno gyda'ch gilydd?
Rhys: "Mae'n raglen wyddonol ar Stwnsh i bobl ifanc. Er bod ni'n trafod materion gwyddonol sy'n llawn ffeithiau mae e'n ysgafn iawn ac yn llawn sbort. Dyma'r drydedd gyfres erbyn hyn."
Aled: "Dwi'n cofio'n asiant ar y pryd yn son am y rhaglen felly nes i weud wrth Rhys dylen ni'n dau drial amdani. Naeth Aled Mills, y cynhyrchydd, ofyn i ni baratoi rhagbrawf wyddonol ar gyfer ein cyfweliad. Penderfynon ni ddangos sut i roi nodwydd mewn balwn heb iddo fe chwythu i fyny. Gaeth e'i ychwangeu fel arbrawf o fewn y rhaglen yn hwyrach mlaen!"
Rydych chi'n tynnu coesau'ch gilydd ar y rhaglen, ydych chi'n chwarae troeon trwstan go iawn ar eich gilydd wrth ffilmio?
Rhys: "Ddim felly. Pan ro'n i'n saethu'r gyfres gyntaf ro'n i'n ymwybodol iawn bod gyda ni cymaint o eitemau i'w cwblhau mewn diwrnod. Se'n ni'n chwarae o gwmpas yna byddai pethe'n troi'n shop shafins."
Aled: "Wedi gweud hynny, ry'n ni yn cael lot o sbort wrth weithio ar y rhaglen. Dwi'n credu hefyd ein bod ni'n gwerthfawrogi cael yr amser i dreulio gyda'n gilydd achos mae bywyd mor brysur. Dwi ar fin dod yn dad ac mae gan Rhys ferch sy'n ddwy erbyn hyn. Ni yn tynnu coesau'n gilydd rhwng saethu eitemau neu wrth ymarfer ond dim gormod!! Os oes rhywbeth digri'n digwydd yna mae'n digwydd yn naturiol."
Pa bethau eraill mae'r ddau ohonoch chi'n gwneud pan nad ydych chi'n gweithio ar BOOM?
Aled: "Rhyw dair mlynedd yn ôl nes i ail hyfforddi fel peiriannydd meddalwedd felly dwi'n gweithio pedair diwrnod yr wythnos yn gwneud y swydd yna. Mae hynny'n caniatai i fi neud rhannau llai ar gynhyrchiadau eraill. Mae'n neis cael gwaith dibynadwy achos mae'n anodd cynnal gyrfa fel actor yn enwedig wrth i ti fynd yn hîn a phan rwyt ti eisiau dechrau teulu. Pan fyddai'n gwneud gwaith actio mae'n teimlo mod i ar wyliau. Dwi'n aml yn meddwl byddai'n peth braf ymuno â chlwb actio amatr achos dwi'n caru actio a phan wyt ti'n gallu neud e heb orfod dibynnu arno fe yna ti'n ei fwynhau e'n fwy."
Rhys: "Dwi ddim yn gwneud cymaint a hynny o actio bellach. Erbyn hyn dwi'n gweithio fel rheolwr lleoliadau i gynhyrchiadau teledu a ffilm i gwmniau fel HBO, Bad Wolf, Sky a'r BBC. Dwi'n mwynhau datrys problemau pan maen nhw'n codi, dyna'r gwyddonydd yndda'i am wn i. Ti'n cael briff i ddod o hyd i lefydd ac ar ôl eu cyflwyno nhw i'r tim creadigol ti'n mynd ati i gael caniatad, sorto mas cytundebau, cytuno telerau gyda sefydliadau fel yr MOD neu'r Ymddiriedolaeth Cenedlaethol. Ti hefyd angen gwitho mas sut i gael adnoddau stiwdio, toiledau, dŵr ac yn y blaen allan ar leoliad."
Pe byddai chi'n gallu saethu rhaglen arall gyda'ch gilydd pa fath o raglen hoffech chi'i neud?
Rhys: "Licen i neud rhaglen teithio'r wlad neu hyd y byd ar gefn motorbeic achos dwi'n caru motorbeics!"
Aled: "Dwi ddim! Licen i neud rhywbeth am 'coding' neu 'information technology' achos mae e mor bwysig i bobol ifanc erbyn hyn. Y broblem yw ei wneud e'n ddiddorol i blant!! Os dwi'n onest dwi'n joio neud BOOM! gyda Rhys felly dwi'n hapus fy myd."