Pennaeth CBDC yn croesawu treialu pêl-droed dros yr haf
- Cyhoeddwyd
Mae pennaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi dweud y byddai'n croesawu unrhyw gynghreiriau llawr gwlad sydd eisiau treialu chwarae gemau yn yr haf.
Daw hynny yn dilyn gaeaf gwlyb arall ble mae 6,000 o gemau eisoes wedi cael eu gohirio oherwydd y tywydd a safon cyfleusterau, yn ôl CBDC.
Mae'r corff rheoli nawr wedi rhyddhau ymchwil sy'n awgrymu bod angen hyd at £500m i wella safon cyfleusterau pêl-droed Cymru i'r lefel sydd ei angen.
Dywedodd prif weithredwr CBDC Noel Mooney ei fod yn cydnabod fod "cyllidebau'n dynn", ond y dylai gwleidyddion ystyried manteision "hir dymor" ariannu pêl-droed llawr gwlad ar gyfer meysydd fel iechyd a throsedd.
Dywedodd Mooney, a ymunodd gyda CBDC yn 2021, ei fod wedi'i "synnu" gyda safon "gwael" cyfleusterau yng Nghymru.
"'Dyn ni'n cymryd camau i'r cyfeiriad iawn, ond mae ffordd bell i fynd," meddai wrth BBC Cymru.
'Peryg o beidio buddsoddi mewn pêl-droed'
Mae CBDC nawr wedi cyhoeddi Gweledigaeth Cyfleusterau a Buddsoddiad, sy'n amcangyfrif bod angen gwario £498m - gan gynnwys £159m ar gaeau glaswellt, £176m ar adeiladau, a £121m ar gaeau 3G artiffisial.
Mae'n swm sydd y tu hwnt i gyllidebau CBDC, sy'n gwneud elw llawer uwch mewn blynyddoedd pan mae'r timau cenedlaethol yn cyrraedd cystadlaethau rhyngwladol.
Dim ond "crafu'r wyneb" mae'r £10m sydd eisoes wedi'i fuddsoddi drwy'r Cymru Football Foundation, meddai Mooney, gan alw am fwy o fuddsoddiad "gan lywodraethau a rhanddeiliaid eraill".
"Rydyn ni'n deall bod argyfwng costau byw, bod cyllidebau'n dynn," meddai.
"Fy mhryder i yw'r peryg o beidio buddsoddi mewn pêl-droed."
'Meddwl yn hir dymor'
Ychwanegodd: "Os ydych chi'n llywodraeth neu awdurdod lleol clyfar, byddech chi'n meddwl yn hir dymor.
"Os ydw i'n buddsoddi mewn pêl-droed llawr gwlad, bydda i'n gwario llai yn y pendraw ar iechyd, ar gyfraith a threfn, a'r gwasanaethau sy'n delio gydag ochr dywyll bywyd.
"Mae pêl-droed yn dod â goleuni... mae pob punt sy'n mynd mewn i hwnna yn lluosi o ran y lles i gymdeithas yng Nghymru."
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod "wedi ymrwymo i gefnogi clybiau chwaraeon llawr gwlad ar draws Cymru, sy'n allweddol i iechyd a lles ein cenedl".
Ychwanegodd llefarydd fod corff Chwaraeon Cymru wedi buddsoddi tua £2.5m mewn cyfleusterau pêl-droed yn y flwyddyn ddiwethaf.
Ateb arall posib allai olygu llai o angen i fuddsoddi mewn caeau artiffisial yw newid y calendr pêl-droed, gan ddilyn esiampl gwledydd yng ngogledd Ewrop drwy chwarae gemau yn ystod yr haf.
Oherwydd yr angen i "addasu i newid hinsawdd" a thywydd mwy eithafol yn y gaeaf, mae Mooney yn dweud y byddai CBDC yn agored i'r syniad o wahanol gynghreiriau yng Nghymru - neu wahanol oedrannau - yn treialu'r syniad.
"Oes, mae angen gwell cyfleusterau, ond mae hefyd angen edrych ar amseru'r tymor," meddai.
"Byddai'n ffôl ac yn anghywir i ni beidio ag ystyried gwneud pethau'n wahanol.
"Falle bod cynghrair allan yna sydd eisiau trio'r peth, a gweld sut beth fyddai hi i chwarae ar adeg wahanol yn y flwyddyn.
"Os yw'n golygu symud i ffwrdd o hen draddodiadau weithiau... dylen ni feddwl am hynny."
'Allwn ni ddim rheoli'r tywydd'
Fe siaradodd BBC Cymru gyda nifer o glybiau a hyfforddwyr pêl-droed llawr gwlad am sut mae'r tywydd wedi effeithio ar eu gemau nhw y gaeaf hwn.
Roedd rhwystredigaeth ymhlith rhai nad oedd defnydd llawn yn cael ei ddefnyddio o gyfleusterau 3G presennol, am resymau ymarferol a chost, tra bod eraill yn dweud bod toriadau i gyllidebau cynghorau yn golygu llai o gynnal a chadw ar gaeau glaswellt.
Yn ôl Rhys Williams, sy'n rhedeg tîm merched dan-10 Nant-y-glo ym Mlaenau Gwent, mae twf pêl-droed merched hefyd yn golygu bod mwy o alw am nifer cyfyngedig o gaeau.
"Mae'r rhan fwyaf o dimau yn chwarae ar gaeau glaswellt, felly allwn ni ddim rheoli'r tywydd yng Nghymru," meddai.
Ond byddai symud gemau i'r haf, meddai, yn golygu llai o gyfleoedd i blant barhau i ymarfer corff dros fisoedd y gaeaf.
"[Yr ateb yw] mwy o argaeledd o gaeau pob tywydd," meddai.
Mae Kayla, 10, wedi bod yn chwarae ers pedair blynedd ac yn dweud mai "pêl-droed yw fy mywyd".
"Fi'n mynd yn flin ac yn drist [pan mae gemau'n cael eu gohirio]. Fi eisiau chwarae ym mhob tywydd," meddai.
Mae Elin, 10, hefyd yn siomedig pan nad ydyn nhw'n gallu chwarae.
"Fi'n hoffi chwarae pêl-droed, mae e mor hwyl," meddai. "Fi'n edrych ymlaen ato fe drwy'r wythnos."
Fe ymunodd Dafydd Herbert, 28, â chlwb Canton Rangers yng Nghaerdydd ym mis Ionawr, ond mae eto i chwarae dros ei dîm newydd oherwydd y diffyg gemau.
"Mae wastad wedi bod yn broblem, mae wastad wedi bod yn rhwystredig," meddai.
"Cyfleusterau fel 3G yw'r ateb. 'Sa i'n gallu gweld bod ni'n gallu cael caeau gwair i'r safon lle ni'n gallu chwarae'n gyson arnyn nhw."
Cytuno mae ei gyd-chwaraewr Eilir Huws, 27, sy'n dweud y byddai buddsoddi mewn caeau artiffisial yn lleihau'r baich ar y cyngor, sydd ar hyn o bryd yn gyfrifol am y caeau glaswellt.
Mae'n dweud bod edrych ar esiampl gwledydd fel Gwlad yr Iâ, sy'n chwarae pêl-droed dros yr haf, hefyd yn "opsiwn".
"Ond mae clybiau'n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr, a ni'n chwarae fel hobi... felly dros yr haf mae pobl gyda mwy o wyliau, a theuluoedd i edrych ar ôl," meddai.
"Felly mae argaeledd, o gael chwaraewyr i droi lan, yn well yn y gaeaf."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd16 Chwefror
- Cyhoeddwyd2 Ionawr