Beirniadu pris tocynnau ar gyfer gemau rygbi Cymru

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Cian Morgan Jones yn feirniadol o gost tocynnau gemau'r Chwe Gwlad

Mae cefnogwyr rygbi wedi beirniadu prisiau tocynnau ar gyfer gemau cartref Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Y gost am y seddi gorau yn Stadiwm Principality ydy £115, ond mae BBC Cymru wedi gweld bod diffyg galw wedi arwain rhai clybiau rygbi i gynnig gwerthu eu dyraniad o docynnau am lai na'r pris swyddogol.

Dywedodd y cefnogwr rygbi Cian Morgan Jones fod "rhywbeth wedi mynd o'i le" gyda'r prisiau.

Dywedodd Undeb Rygbi Cymru (URC) eu bod yn "hyderus fod ein prisiau yn gystadleuol gydag undebau eraill", a bod yr holl elw o gynnal gemau rhyngwladol yn cael ei "fwydo'n ôl i'r gêm yng Nghymru".

'Ddim yn realistig i lawer o bobl'

Bydd Cymru'n chwarae Ffrainc yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd ddydd Sul yn eu gêm olaf ond un y gystadleuaeth, gyda Chymru wedi colli pob un o'r tair gêm flaenorol.

Fel aelod o Glwb Rygbi Bangor mae Cian Morgan Jones yn cofio cael tocynnau am £50 yn eithaf hawdd yn y gorffennol, ond bod prisiau bellach dros £100 i'r mwyafrif.

"Mae rhywbeth wedi mynd o'i le," meddai.

"Pan ti'n meddwl am faint mae pobl yn delio gyda chostau byw dyddiau yma, dyw o ddim yn realistig i lawer iawn o bobl yng Nghymru."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd miloedd o gefnogwyr yng Nghaerdydd dydd Sul ar gyfer y gêm yn erbyn Ffrainc

Ychwanegodd: "Dwi yn meddwl bod o'n bwysig i'r WRU weithio yn agosach at bobl arferol, i sicrhau bod pobl sy'n caru rygbi yng Nghymru yn dod i'r gemau."

Mae pobl o'r gogledd a'r gorllewin "yn gorfod meddwl am drafnidiaeth, ac wedyn yn gorfod meddwl am le maen nhw'n aros am noson," meddai Mr Jones.

"Ar ben hynna, fyddwch chi'n lwcus iawn i ffeindio peint o gwmpas y stadiwm am lai na £5."

Dywedodd fod y costau hyn i gyd yn golygu "i lawer o bobl ar draws Cymru, dyw o ddim yn realistig o gwbl" i fynd i gemau rygbi rhyngwladol.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Anwen Jones (chwith) yn trefnu trip i 14 o fenywod i fynd i wylio'r gêm yn erbyn Yr Eidal eleni

Mae Anwen Jones o bentref Cynwyd yn Sir Ddinbych wedi bod yn trefnu tripiau i weld gemau'r Chwe Gwlad i fenywod yn ei hardal ers dros 15 mlynedd.

Roedd hi'n arfer trefnu bws mawr, gyda 30-35 eisiau gwneud y trip i Gaerdydd, ond dywedodd fod y tripiau bellach tipyn yn llai oherwydd y gost.

Mae 14 o fenywod o'r ardal yn mynd ar y trip i wylio gêm Yr Eidal eleni - gyda'r gêm honno wedi'i dewis gan fod y tocynnau a'r llety yn rhatach.

Dywedodd fod y trip yn costio tua £300 yr un - ar gyfer bws mini dwy ffordd, aros dwy noson yng Nghaerdydd a thocyn i'r gêm - a bod hynny'n bris gwell na'r disgwyl am fod ganddi berthynas dda gyda gwesty.

Yn y gorffennol mae tripiau wedi costio hyd at £500, meddai, ac mae'n cydnabod hefyd y bydd arian gwario ar ben hynny.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Anwen Jones fod llai yn mynychu'r tripiau bellach oherwydd eu bod yn cynyddu mewn pris

Dywedodd y byddai wrth ei bodd yn cael bod yn y stadiwm i wylio'r gêm yn erbyn Ffrainc ddydd Sul, ond fod y gost yn ormod.

Ychwanegodd fod trip i Gaerdydd yn aml yn ddrutach na Dulyn neu Gaeredin - neu hyd yn oed Paris neu Rufain - ble mae "gwestai yn rhatach" a gwell cynigion ar ddiodydd.

"Mae'r tocynnau £30-£40 yn llai nag ydyn nhw yng Nghymru, ac o ran trafeilio, mae'n rhatach i fynd ar long i Iwerddon nag ydi trên o Wrecsam i Gaerdydd," meddai.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymru wedi colli pob gêm ym mhencampwiraeth y Chwe Gwlad hyd yma

Mae URC wedi cadw prisiau tocynnau ar gyfer y Chwe Gwlad ar yr un lefel ers 2022, gyda thocynnau pris uchaf ar gyfer 2024 yn £115, a'r tocynnau rhataf i oedolion yn £40.

Dywedodd prif weithredwr URC, Abi Tierney fod yr holl elw o gynnal gemau rhyngwladol yn Stadiwm Principality yn cael ei "fwydo'n ôl i'r gêm yng Nghymru", a bod tua 65% o holl incwm yr undeb yn dod o gynnal gemau cartref.

"Ry'n ni'n gweithio'n galed i sicrhau bod ein gemau mor hygyrch â phosib, gydag amrediad mawr o brisiau ar gael i wylio Cymru trwy'r tymor.

Ychwanegodd fod pob tocyn wedi'i werthu ar gyfer y gêm yn erbyn Yr Alban yn gynharach yn y bencampwriaeth ac y bydd hi'n agos at fod yn llawn ar gyfer gêm Ffrainc ddydd Sul hefyd.

Dywedodd fod y tocynnau ar gyfer y gêm yn erbyn Yr Eidal y penwythnos nesaf ar gael am ostyngiad o 50% ym mhob categori.

"Gall teulu o bedwar - dau oedolyn a dau blentyn - fynychu gêm Yr Eidal am gyfanswm o £120, ac ry'n ni'n hyderus fod ein prisiau ni yn gystadleuol gydag undebau eraill," meddai Ms Tierney.

Disgrifiad o’r llun,

Mae 13,000 o bobl yn rhan o'r grŵp gwerthu tocynnau Cymru ar Facebook

Er bod y tocynnau rhad wedi gwerthu allan ar gyfer gweddill gemau cartref Cymru, mae rhai o'r categorïau drutach yn dal i fod ar gael ar safle ailwerthu swyddogol URC.

Ond mae yna hefyd fasnach mewn tocynnau ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda rhai clybiau rygbi yn cynnig gwerthu eu dyraniadau swyddogol o docynnau am ostyngiad mawr.

Mae'r rhain yn docynnau sydd heb eu prynu gan aelodau'r clwb rygbi, a fyddai wedi cael eu blaenoriaethu.

Mae grŵp Facebook sydd â miloedd o aelodau wedi bod yn brysur gyda negeseuon gan glybiau sy'n ymddangos fel pe baen nhw yn cael trafferth gwerthu eu tocynnau Chwe Gwlad.

Mae rhai wedi bod yn cynnig gwerthu seddi gyda gostyngiad pris o dros 25%.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r darlledwr Ioan Dyer o'r farn y byddai'r holl docynnau wedi eu gwerthu pe bai Cymru wedi perfformio'n well

"Ar hyn o bryd dyw Cymru ddim wedi ennill gêm, dyw Ffrainc ddim yn chwarae eu rygbi gorau ers Cwpan y Byd," meddai'r darlledwr rygbi Ioan Dyer.

"Mae pobl yn dilyn tîm sy'n gallu ennill.

"Os fyddai Cymru wedi ennill y tair gêm gyntaf, byddwn i wedi rhoi arian mawr i chi y byddai'r gêm [yn erbyn Ffrainc] wedi gwerthu mas wythnosau yn ôl."

'Effaith fawr' ar economi Cymru

Er gwaethaf argaeledd tocynnau sbâr, bydd degau o filoedd o bobl yn mynychu'r gemau sy'n weddill.

Dywedodd arbenigwr busnes fod y stadiwm wedi cael "effaith fawr" ar economi ehangach Caerdydd a Chymru.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dylan Jones Evans fod y stadiwm yn cael "effaith fawr" ar economi Caerdydd a Chymru

"Mae pob gêm Chwe Gwlad yn rhoi boost o £20m i economi Cymru," meddai'r Athro Dylan Jones-Evans.

"Ac os edrychwn ni nôl ar yr effaith mae Stadiwm Principality wedi'i gael, roedd ymchwil wedi'i wneud pedair neu bum mlynedd yn ôl bod o 'di dod â bron i £3bn o arian i mewn, dros gyfnod o bum mlynedd.

"Felly mae'r stadiwm yn cael effaith fawr pan mae'r gemau yn dod mewn."

Pynciau cysylltiedig