Rhwyfwr o Borthmadog wedi marw 'ar ôl anaf damweiniol'
- Cyhoeddwyd
Bu farw rhwyfwr o Gymru ar ôl dioddef anaf damweiniol wrth geisio rhwyfo 3,000 o filltiroedd ar draws Cefnfor yr Iwerydd, clywodd cwest.
Roedd Michael Holt o Borthmadog wedi cwblhau 700 milltir o'r her i godi arian i elusennau, pan gafodd ei gwch ei daro gan don.
Cafodd ei ddarganfod yn farw gan gwch pysgota bron i fis ar ôl cychwyn ei daith.
Clywodd y cwest yn Lerpwl bod Mr Holt, oedd â diabetes math 1, wedi "dioddef anaf i'w law" pan gafodd y cwch ei daro gan y don.
Roedd Michael Holt wedi hyfforddi am ddwy flynedd cyn ymgymryd â'r her o rwyfo o Gran Canaria i Barbados ar ei ben ei hun.
Fe ddechreuodd ei daith ar 27 Ionawr, ac mewn sgwrs gyda Cymru Fyw fe ddywedodd ei fod yn disgwyl i'r daith "gymryd rhwng 50-110 o ddyddiau".
Yn ystod cyfnod cynta'r daith roedd wedi gorfod ymdopi â gwyntoedd cryfion, colli offer a salwch.
Ond tua 700 milltir o fan cychwyn y daith, ar ôl iddo golli cyswllt â'i deulu a'i dîm cefnogi, cafodd ei ddarganfod yn farw.
Cafodd marwolaeth Mr Holt ei gofnodi yn ynysoedd Cape Verde oddi ar arfordir gorllewin Affrica, ac fe lansiwyd ymgyrch i godi £20,000 er mwyn ceisio cael ei gorff yn ôl adref.
Clywodd y cwest bod ei gorff wedi cael ei archwilio gan ddoctor wnaeth nodi mai achos y farwolaeth oedd "trawma o ganlyniad i anaf damweiniol".
'Marwolaeth drasig, ddamweiniol'
Dywedodd y crwner Andre Rebello: "Roedd hon yn farwolaeth drasig, ddamweiniol."
Dywedodd brawd Michael, David Holt ei fod yn ofnadwy o falch o'r hyn mae o wedi ei gyflawni.
"Er yr hyn ddigwyddodd, mae rhwyfo ar y môr agored am 24 diwrnod yn anhygoel," meddai.
"Mae'n siŵr bod 'na reswm nad oes unrhyw un gyda diabetes math 1 wedi rhwyfo ar draws Cefnfor yr Iwerydd o'r blaen, ond pan roedd Michael yn cael syniad yn ei ben, dyna ni wedyn!"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Chwefror