Casglu £20,000 i gael corff rhwyfwr yn ôl i Gymru

Michael HoltFfynhonnell y llun, Michael Holt
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Michael Holt wrth geisio codi arian i elusennau drwy rwyfo ar draws Cefnfor yr Iwerydd

  • Cyhoeddwyd

Mae brawd dyn o Borthmadog fu farw tra'n ceisio rhwyfo ar draws Cefnfor yr Iwerydd yn dweud ei bod yn "anhygoel" eu bod wedi llwyddo i godi £20,000 o fewn ychydig ddyddiau i gael ei gorff yn ôl i Gymru.

Bu farw Michael Holt o Borthmadog yr wythnos ddiwethaf tra'n ceisio rhwyfo ar draws Cefnfor yr Iwerydd i godi arian i elusennau.

Cafodd ei gludo i ynysoedd Cape Verde oddi ar arfordir gorllewin Affrica, ac fe lansiwyd ymgyrch i godi £20,000 er mwyn ceisio cael ei gorff yn ôl adref.

Dywedodd ei frawd, David Holt, ei fod "methu coelio'r peth".

Ffynhonnell y llun, Teulu Michael Holt
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cwch a chorf Michael Holt ei gludo i un o ynysoedd Cape Verde

Roedd Mr Holt, oedd â diabetes math 1, yn bwriadu rhwyfo o Gran Canaria yn Sbaen i Barbados er mwyn codi arian dros ddwy elusen.

Aeth cychod pysgota i chwilio amdano ar ôl iddo golli cyswllt â'i deulu a'i dîm cefnogi.

Cafodd ei ddarganfod yn farw 700 milltir o'i fan cychwyn, bron i fis ar ôl cychwyn ei daith.

Mae ei gwch a'i gorff wedi cael eu cludo i São Vicente, un o ynysoedd Cape Verde, erbyn hyn.

Mae rhoddion i'r elusennau yr oedd Mr Holt yn eu cefnogi - Mind ac LCVS - yn parhau i godi.

Yn siarad gyda BBC Cymru ar ôl llwyddo i daro'r targed o £20,000, dywedodd David Holt: "Do'n i byth yn meddwl y bysa' ni'n cyrraedd £10,000, heb sôn am £20,000.

"Mae hyn yn fwy na allen ni fod wedi gobeithio amdano - mae'n anhygoel.

"Dwi methu diolch digon i bobl am eu caredigrwydd."

Mae David Holt yn bwriadu rhoi unrhyw arian dros ben i'r elusennau yr oedd ei frawd yn eu cefnogi.

"Mi fyddai o wedi gwirioni efo hynny, felly mae hyd yn oed yn fwy anhygoel."

Pynciau cysylltiedig