Cymru v Yr Eidal: 'Nid ni yw'r ffefrynnau'

  • Cyhoeddwyd
cymru ffraincFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Maxime Lucu yn dathlu pumed cais y Ffrancwyr yn eiliadau ola'r gêm

Chwarae pedair, colli pedair. Dyna yw'r sefyllfa i Gymru ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad 2024 yn dilyn y golled 24-45 yn erbyn Ffrainc yng Nghaerdydd.

Wedi awr o chwarae roedd Cymru 24-23 ar y blaen, ond yn y chwarter olaf fe ddangosodd tîm Ffrainc ei bŵer gan groesi'r gwyngalch deirgwaith.

Yn siarad ar Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru fore Llun, rhannodd cyn-flaenwr Cymru, Derwyn Jones ei ymateb.

"Nes i fwynhau'r gêm, yn enwedig yr awr gyntaf, o'n i'n teimlo fod Cymru'n gystadleuol ym mhob agwedd o'r chwarae, ac o'n i'n gobeithio cael buddugoliaeth.

"Ond fe 'nath Warren Gatland a'r tîm hyfforddi ychydig o newidiadau a newidiodd y gêm.

"Newidiodd yr haneri pan oedd Tomos Williams yn cael gêm ardderchog ac roedd Sam Costelow'n cael gêm dda hefyd.

"Mae'n ddiddorol i Warren Gatland ddweud ar ôl y gêm bod Sam Costelow yn cael gêm dda, ond newidiodd e'r ddau chwaraewr yna a dwi jest yn teimlo bod y newidiadau yna wedi newid llif y gêm ac aeth Cymru 'mlaen i golli yn eitha' sylweddol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraeodd capten Cymru, Dafydd Jenkins, ei gêm gyntaf dros Gymru fel blaenasgellwr, gan gyflawni 26 tacl, heb fethu un

Yn ôl Derwyn Jones fe ddylai Gatland ysgwyddo rhywfaint o'r bai am y golled.

"Mae'n siomedig i fi ar ôl y gêm nad oedd Warren Gatland wedi cymryd cyfrifoldeb am hynny a jest yn beio'r chwaraewyr. Roedd Cymru 'di chwarae'n dda yn sicr am rhan fwya'r gêm, a jest yn yr 20 munud olaf oedden ni'n ei ffeindio fe'n anodd.

"Fe [Gatland] sydd 'di dewis y chwaraewyr yma ar gyfer y Chwe Gwlad - mae 'na chwaraewyr mas 'na sy'n hŷn ac sydd â dipyn bach mwy o brofiad.

"'Da ni wedi cael anafiadau mewn rhai safleoedd - pobl fel Christ Tshiunza ddim ar gael, a dydy Gareth Anscombe ddim ar gael wedi anaf yng Nghwpan y Byd."

Gatland dan bwysau?

Er gwaethaf yr anafiadau ac ymddeoliadau diweddar, mae Derwyn Jones yn credu nad yw Gatland wedi delio â'r pwysau diweddar yn effeithiol.

"Fe sy'n gwneud y newidiadau a ma' jest yn od bod o'n beio'r rhanbarthau cwpl wythnosau yn ôl, ac maen nhw'n ymateb yn y wasg, ac smo fe'n teimlo fod Warren Gatland yn delio gyda'r pwysau o fod yn hyfforddwr rhyngwladol fel mae wedi yn y gorffennol.

"Mae wedi gwneud jobyn ardderchog yn y blynyddoedd sydd 'di bod, ond nawr rwy'n credu fod o'n berson gwahanol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dwywaith mae tîm Cymru wedi ennill yn ei 15 gêm diwethaf ym Mhencapwriaeth y Chwe Gwlad

"Dwi'n dal yn teimlo os ydy e'n gwneud y dewisiadau cywir a bod Cymru'n chwarae ar eu gorau, yn ffyddiog bydd Cymru'n cael y fuddugoliaeth."

Mae sefyllfa'n bosib ble all Cymru ennill yn erbyn Yr Eidal ond dal orffen ar waelod y tabl.

Yn wir, petai Paulo Garbisi wedi llwyddo gyda chic gosb hwyr yn erbyn Ffrainc yn nhrydedd rownd y bencampwriaeth byddai Cymru wedi cael y llwy bren yn barod.

"Dy'n ni methu rheoli falle ble ni'n cwpla yn y tabl, ond dwi'n credu bod pawb moen i Gymru ennill y gêm.

"Mae'r chwaraewyr ifanc wedi datblygu a chael lot fawr o brofiad, ac am 60 munud ddoe oedden ni yn y gêm yn erbyn tîm mawr Ffrainc oedd yn gystadleuol yng Nghwpan y Byd.

"Ond mae'r Eidal nawr wedi maeddu Yr Alban, cael gêm gyfartal yn erbyn Ffrainc, felly mae hon yn gêm enfawr a falle nid ni yw'r ffefrynnau yn mynd mewn i'r gêm - sydd yn od i'w ddweud cyn gêm yn erbyn Yr Eidal."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Michele Lamaro yn codi Cwpan Cuttitta yn dilyn buddugoliaeth Yr Eidal yn erbyn Yr Alban yn y Stadio Olimpico

'Pŵer Ffrainc yn ormod i Gymru'

Mae cyn-gapten Cymru, Sam Warburton, yn dweud fod y gêm olaf o'r bencampwriaeth yn erbyn Yr Eidal yn un ble mai'r canlyniad sy'n bwysig, yn hytrach na'r perfformiad.

"Mae'n rhaid i Gymru ennill. Dwi'n gwybod bod ni'n siarad am ddatblygu, ond bydde fe'n wael iawn i golli pob un o'r gemau."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Tommy Reffell oedd un o brif perfformwyr Cymru ar y penwythnos, ond mae amheuon am ei ffitrwydd ar gyfer y gêm olaf

Roedd gagendor yn gorfforol rhwng y ddau dîm yng Nghaerdydd, yn ôl Warburton: "Roedd amddiffyn Cymru'n edrych yn dda yn yr wythnosau cyntaf ac fe wnaethon nhw allu cadw o fewn cyrraedd i'r timau eraill, ond roedd y gwahaniaeth mewn pŵer corfforol yn amlwg i'w weld yn erbyn Ffrainc.

"Mae sgiliau'n bwysig, mae cicio'n bwysig, ond os dydych chi ddim yn ennill y gwrthdrawiadau ac ardal y dacl ry'ch chi mewn trafferth.

"Roedd y tîm ifanc Cymreig yma'n arwrol ond roedd pŵer y Ffrancwyr, yn enwedig oddi ar y fainc, yn anhygoel ac roedd e'n ormod i Gymru."

Mae 21 mlynedd wedi bod ers i Gymru orffen ar waelod tabl y Chwe Gwlad, ac ymysg y garfan hynny oedd Iestyn Harries, Ceri Sweeney, Colin Charvis a Mark Taylor.

Cawn weld ar 16 Mawrth os fydd carfan 2024 yn gallu hawlio buddugoliaeth ac osgoi'r un dynged.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Diego Dominguez ac Alessandro Troncon yn dathlu'r fuddugoliaeth yn erbyn Cymru yn 2003 (30-22) - y tro diwethaf i Gymru orffen ar waelod y tabl