Pencampwriaeth y Chwe Gwlad: Cymru 24-45 Ffrainc

  • Cyhoeddwyd
Rio DyerFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe fanteisiodd Rio Dyer ar ansicrwydd yn amddiffyn Ffrainc i sgorio cais cynta'r gêm

Mae Cymru wedi colli eu pedwaredd gêm yn olynol yn y Chwe Gwlad eleni, ar ôl i dîm Warren Gatland gael eu trechu gan Ffrainc yng Nghaerdydd ddydd Sul.

Gyda naw munud ar y cloc fe fanteisiodd Rio Dyer ar foment o ansicrwydd yn amddiffyn Ffrainc i dorri trwy eu canol a sgorio dan y pyst ar gyfer cais cynta'r gêm.

Aeth yr ymwelwyr ar y blaen am y tro cyntaf 10 munud yn ddiweddarach, gyda'r canolwr Gaël Fickou yn croesi yn y gornel am eu cais cyntaf nhw.

Ond o fewn munudau daeth ail gais i Gymru, gydag Owen Watkin yn torri trwy'r amddiffyn a dadlwytho i'r mewnwr Tomos Williams i groesi am gais.

Unwaith eto, roedd gan Ffrainc ateb, gyda'u mewnwr nhw Nolann Le Garrec yn sgorio i roi'r ymwelwyr ar y blaen o 17-20 ar yr egwyl.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Tomos Williams gais hawdd yn dilyn gwaith da gan Owen Watkin

Ar ddechrau'r ail hanner aeth Cymru yn ôl ar y blaen, gyda'r canolwr Joe Roberts yn croesi am gais ar ei ymddangosiad cyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

10 munud yn ddiweddarach roedd Ffrainc yn credu eu bod wedi llwyddo i daro nôl unwaith eto, ac er i'r dyfarnwr Luke Pearce roi'r cais i Thibaud Flament i ddechrau, fe wnaeth y dyfarnwr teledu sylweddoli fod y clo wedi gollwng y bêl ar y llinell gais.

Bu'n rhaid i Ffrainc fodloni ar gôl gosb gan Thomas Ramos, gan olygu mai un pwynt oedd ynddi - 24-23 i Gymru - gyda chwarter y gêm yn weddill.

Ond o fewn pum munud aeth yr ymwelwyr ar y blaen eto, gyda'r prop Georges-Henri Colombe yn sgorio ar ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dyma oedd ail gap yn unig Joe Roberts i Gymru

Gydag ychydig dros 10 munud yn weddill fe gymrodd Ffrainc reolaeth o'r gêm, a sicrhau pwynt bonws hefyd.

Fe lwyddodd Sébastien Taofifénua i rwystro cic gan yr eilydd Gareth Davies, a'r Ffrancwr enillodd y ras am y lein i sgorio eu pedwerydd cais.

Gyda symudiad ola'r gêm fe wnaeth Maxime Lucu groesi am gais arall i'r ymwelwyr, a selio buddugoliaeth gyfforddus i Ffrainc yn y pen draw.

Roedd Cymru eisoes wedi colli eu tair gêm gyntaf yn y bencampwriaeth eleni, gartref yn erbyn Yr Alban ac oddi cartref yn Lloegr ac Iwerddon.

Bydd Cymru'n croesawu'r Eidal - a drechodd Yr Alban ddydd Sadwrn - i Gaerdydd y penwythnos nesaf ar gyfer gêm ola'r bencampwriaeth eleni.

Dyw Cymru ddim wedi colli pob gêm yn y Chwe Gwlad ers 2003.