'Bwysig bod ni'n siarad yn agored am ryw'

  • Cyhoeddwyd
Ffraid GwenllianFfynhonnell y llun, Ffraid Gwenllian
Disgrifiad o’r llun,

Ffraid Gwenllian

Ydy rhyw yn bwnc tabŵ o hyd neu ydy chi'n gallu siarad yn agored amdano gyda'ch ffrindiau a'ch teulu?

Un sy'n credu'n gryf fod angen trafodaeth mwy gonest am faterion rhyw yw Ffraid Gwenllian sy' wedi cychwyn cyfrif newydd o'r enw SECS ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae Ffraid ar ei blwyddyn olaf yn astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Bangor ac yn gobeithio fydd y cyfrif yn lwyfan i rannu gwybodaeth am faterion iechyd rhyw drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bu'n trafod ei menter newydd ar Dros Ginio ar Radio Cymru gyda Catrin Haf Jones.

Dwi wastad wedi bod efo diddordeb ym maes addysg rhyw. Dwi wedi bod isho cychwyn y cyfrif yma ers blynyddoedd ar ôl gweld fod 'na ddiffyg allan yna a gweld fod bwlch ar gyfer rhywbeth fel 'ma.

Dwi'n meddwl bod o'n eithriadol o bwysig bod ni'n siarad yn agored am rhyw - 'dan ni bellach yn 2024 a 'dan ni dal efo issues masif pan mae'n dod i drafod secs. O'n i rili isho creu y safe space 'ma lle mae gwybodaeth yn cael ei rannu'n hollol agored er mwyn normaleiddio'r sgyrsiau yna a gwneud pobl yn gyfforddus i gael y sgyrsiau yna efo teuluoedd a ffrindiau.

'Addysg rhyw ddim yn ddigonol'

'Nes i dyfu fyny ar aelwyd lle o'n i'n gallu gofyn unrhyw beth wrth Mam a Dad ond unwaith nes i fynd i'r ysgol uwchradd a'r brifysgol nes i sylwi bod hynna ddim o reidrwydd yn wir am bawb. Mae lot o bethau mae pobl wedi dysgu am secs wedi dod trwy word of mouth a ffynonellau dodgy weithiau neu addysg rhyw yn yr ysgol a 'dan ni'n gwybod bod hynny ddim yn ddigonol.

Felly o'n i'n meddwl bod o'n bwysig cael rhywbeth llafar oedd yn agor y sgwrs 'na i fyny a neud o mewn ffordd hwyl, ysgafn.

Ffynhonnell y llun, Ffraid Gwenllian
Disgrifiad o’r llun,

Graffeg o gyfrif SECS

Pwnc tabŵ

Mae o'n bwnc eitha tabŵ o hyd ac mae 'na gymaint o bethau sy'n dod dan ymbarél addysg rhyw ac maen nhw'n bethau mae pobl yn aml yn ofn siarad amdani nhw - ac falle ddim yn gallu siarad efo ffrindiau na teuluoedd amdanyn nhw.

'Dan ni gyd wedi tyfu fyny, pawb wedi bod trwy puberty a meddwl 'ai fi yw'r unig un?' Dwi'n meddwl fod o'n werth cael rhywbeth fel hyn er mwyn gwneud i bobl ddeall bod nhw ddim ar ben eu hunain, bod o'n normal a bod ni'n addysgu ein gilydd am ein gwahaniaethau a'r pethau syn ein clymu ni hefyd.

Ffynhonnell y llun, Ffraid Gwenllian

'Trafod pob dim'

Mae'n ymbarél eang ofnadwy ond dwi'n gobeithio dechrau gyda'r basics - dulliau atalgenhedlu, rhywioldeb, cydsyniad (consent) sy'n rili bwysig a dwi ddim yn meddwl fod digon o hynna wedi cael ei drafod yn yr ysgol.

Ond dwi hefyd isho neud o yn lle saff i bobl ofyn cwestiynau ac os ydy pobl isho gofyn am ddeunydd penodol, mae hynny'n bosib. Fasa fo'n gallu mynd i unrhyw le a dwi isho trafod pob dim yn ymwneud efo secs drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ffynhonnell y llun, Ffraid Gwenllian

Ymateb

Mae pobl wedi bod mor gefnogol. Oedd dilynwyr instagram i fyny dros 400 o fewn 24 awr sy'n anhygoel a dwi'n meddwl hwnna ydy'r cyfrwng mwyaf addas iddo fo achos ti'n gallu cyfleu neges a gwybodaeth ochr yn ochr efo lluniau celf.

Pam galw o'n SECS?

Dwi'n meddwl jest i atgyfnerthu'r elfen llafar yna - mae 'na deimlad allan yna mai Saesneg ydy iaith secs a fod Cymraeg yn methu bod yn iaith secs a dwi'n meddwl fod hynny yn ran o'r inferiority complex sy' gynno ni fel Cymry a Chymry Cymraeg yn benodol fod pethau sy' yn Gymraeg ddim yn cŵl.

Dwi'n meddwl fod addysg rhyw mewn ysgolion yn draddodiadol, yn archaic a'n ffurfiol a ddim yn cydfynd efo sut ti'n siarad efo ffrindiau so dyna pam o'n i isho neud yn siŵr fod hwn yn llafar ac yn siarad yn blaen.