Tystiolaeth Covid yn 'gywilyddus', medd tad a gollodd ferch
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n "gywilyddus" nad oedd Boris Johnson yn mynychu cyfarfodydd rheolaidd gyda Phrif Weinidog Cymru yn ystod y pandemig, yn ôl tad a gollodd ei ferch i'r haint.
Bu farw Christine Davies, 53, o ardal Rhuthun o Covid-19 ym mis Tachwedd 2021.
Yn ôl ei thad Esmor Davies o ardal Bwcle yn Sir y Fflint, dyw tair wythnos o gynnal Ymchwiliad Covid yng Nghymru ddim yn ddigon, gan ddweud fod ganddo gwestiynau o hyd.
Fe glywodd yr ymchwiliad, sydd wedi bod yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd am dair wythnos, fod Mark Drakeford a gwleidyddion eraill o Lywodraeth Cymru wedi trafod gyda gweinidogion eraill o Lywodraeth y DU yn absenoldeb Mr Johnson.
Mae Mr Davies wedi dilyn cryn dipyn o'r ymchwiliad wrth iddo graffu ar y penderfyniadau a wnaed yma yng Nghymru, ac yn dweud fod y dystiolaeth yn rhoi argraff glir o "flerwch".
"Roedd y ddau - Drakeford a Gething - wedi cyfaddef eu bod nhw wedi gwneud mistakes yn y cychwyn, a dwi'n teimlo fod hynny yn flêr ofnadwy," meddai.
"Ma'n gywilyddus dwi'n meddwl... pan maen nhw'n dod efo'r atebion neu y statements, does dim allwch chi goelio.
"A Gething wedi colli ei Whatsapps. Sut allwch chi reoli'r wlad 'ma ac eto colli Whatsapps? Lle mae ei back up o?"
Wrth roi tystiolaeth yn yr ymchwiliad dywedodd Mr Gething i'w negeseuon gael eu dileu wrth i'w ffôn gael ei ddiweddaru.
'Rhyfeddol'
Yn ei dystiolaeth fe ddywedodd Mr Drakeford ei bod hi'n "rhyfeddol" bod Boris Johnson wedi gwrthod cyfarfod â'r gwledydd datganoledig.
"Roeddan ni wedi colli merch ac mi oedd o [Boris Johnson] fel pennaeth y wlad, y Prime Minister, yn cael y partis mawr 'ma, a nes i ei golli fo efo hynny," meddai Esmor Davies.
"Ond i beidio dod i'r meetings 'ma... mae'n gywilyddus.
"Cymru ydan ni. 'Da ni'n cael ein llywodraethu gan y llywodraeth hynny a dylse fo 'di attendio'r meetings yma a rhoi back up i Drakeford.
"Gaeth Drakeford ddim backing gan Johnson, a'r ddau yn erbyn ei gilydd, a hynny'n gywilyddus i feddwl bod nhw'n rheoli'r wlad 'ma."
Ychwanegodd nad oedd yn teimlo fod tair wythnos o graffu yn ddigon i ddeall goblygiadau'r penderfyniadau a wnaed gan wleidyddion.
Gyda'r ymchwiliad yn tynnu tua'r terfyn mae'r tair wythnos ddiwethaf wedi bod yn gyfnod o gofio i Mr Davies.
"Mi oedd Christine yn llawn o hwyl," meddai.
"Yn ffrind i mi, yn ferch i mi ac yn ffrind i'w theulu i gyd.
"Ddaru Christine fynd mewn i'r ysbyty amser cinio ar y dydd Sul, ac o fewn saith i wyth awr mi aeth hi mewn i coma a 'naeth hi ddim dod allan.
"Oedd hi'n berson arbennig i bawb. Gwên trwy'r afiechyd oedd ganddi - rheumatoid arthritis - ac yn gwenu hyd y diwrnod ola'.
"Ond ges i ddim mo'i gweld hi, a mae hynny yn torri fy nghalon."
Wrth gofio am ei ferch mae'r tractor cyntaf i Mr Davies fod yn berchen arno erioed o flaen ei dŷ, a hwnnw bellach â llun a chofeb am ei ferch arno, gan ddweud ei fod yn atgof hapus o'r diddordeb yr oedd y ddau yn ei rannu.
Bydd cyfnod yr Ymchwiliad Covid yng Nghymru yn dod i ben ddydd Iau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mawrth
- Cyhoeddwyd11 Mawrth
- Cyhoeddwyd21 Medi 2022