'Cyflwyno cyfnod clo cynt wedi gallu achub bywydau'
- Cyhoeddwyd
Mae'n destun "embaras" bod negeseuon WhatsApp o gyfnod y pandemig wedi cael eu dileu, yn ôl y cyn-weinidog iechyd, Vaughan Gething.
Dywedodd Mr Gething wrth Ymchwiliad Covid-19 y Deyrnas Unedig bod y negeseuon wedi diflannu yn dilyn gwaith ar y ffôn gan dîm technoleg gwybodaeth Senedd Cymru ym Mehefin 2022.
Roedd cyfrwng cymdeithasol WhatsApp wedi cymryd lle'r sgyrsiau a fyddai fel arall wedi digwydd "yn y coridor", meddai.
Gwadodd bod dulliau cyfathrebu anffurfiol wedi cael eu defnyddio i wneud penderfyniadau swyddogol.
Mae Mr Gething hefyd wedi dweud bod cyfarfodydd gyda phrif weinidog y DU ar y pryd, Boris Johnson, yn "aneglur" a bod diffyg ffocws.
Dywedodd ei fod dal yn credu bod hi'n iawn cau ysgolion pan wnaethpwyd hynny cyn y Pasg yn 2020 ond o edrych yn ôl dywedodd ei fod yn 'difaru cau ysgolion mor gynnar.
Doedd dim modd osgoi'r cyfnod clo gafodd ei gyhoeddi ar draws y Deyrnas Unedig ar 23 Mawrth 2020, ychwanegodd, ond mae'n bosib y byddai dechrau'r cyfnod ychydig ddyddiau ynghynt wedi achub mwy o fywydau.
"Rwyf wedi meddwl llawer am hyn, nid yn unig wrth baratoi ar gyfer yr ymchwiliad ond a dweud y gwir oherwydd gorfod byw gyda'r holl ddewisiadau rydych chi wedi'u gwneud a gweld eu canlyniadau nhw," meddai.
"Gallai'r amseru fod wedi bod yn wahanol o bosib - gallai ychydig ddyddiau fod wedi achub mwy o fywydau," ychwanegodd.
'Testun embaras'
Clywodd yr ymchwiliad yng Nghaerdydd nad oedd gan Mr Gething - sydd bellach yn weinidog yr economi - WhatsApp ar ei ffôn gweinidogol, ond roedd yn ei ddefnyddio ar ffôn a gafodd gan y Senedd.
Dywedodd bod y cyfrwng yn cael ei ddefnyddio i "rhyddhau stêm ac i fod yn gefnogol".
Dywedodd nad oedd o'r farn bod rheolau Llywodraeth Cymru'n golygu na allai busnes y llywodraeth gael ei grybwyll o gwbl, ond doedd penderfyniadau ddim yn cael eu gwneud ar y cyfrwng.
Roedd Mr Gething wedi rhoi ei ffôn i beiriannwyr Senedd Cymru ym Mehefin 2022 ar gyfer newidiadau diogelwch, ac yn dilyn hynny diflannodd ei holl negeseuon WhatsApp, meddai.
Dywedodd ei fod wedi ceisio adfer y negeseuon ond bod hynny wedi methu.
"Yn sicr rwy'n difaru'r ffaith nad yw'r holl negeseuon hynny ar gael i chi oherwydd fe allech chi eu gweld nhw a bodloni eich hun bod yr holl wybodaeth sydd yno yn gyson â'r holl wybodaeth sydd gennych chi o'ch blaen," meddai.
"Mae'n destun embaras", ychwanegodd.
Dywedodd y byddai hynny wedi osgoi'r pryder sydd wedi codi am y defnydd o ddulliau cyfathrebu anffurfiol o fewn Llywodraeth Cymru.
Er ei fod wedi gosod trefn ar ei ffôn i ddileu negeseuon mewn sgwrs yn 2023, dywedodd na oedd wedi gwneud hynny yng nghyfnod y pandemig.
Clywodd yr ymchwiliad bod sgyrsiau o fewn Llywodraeth Cymru am Covid yn Ionawr 2020 ond nad oedd yn brif flaenoriaeth.
Dywedodd Mr Gething bod yr ymateb o fewn Llywodraeth Cymru wedi newid ganol mis Chwefror 2020 pan roedd hi'n edrych fel pe bai'n "debygol" yn hytrach nag yn bosib y byddai Covid yn taro Cymru.
Er nad oedd Covid wedi cael ei drafod yn ffurfiol yn y Cabinet tan 25 Chwefror, dywedodd ei fod yn cyhoeddi datganiadau wythnosol am y sefyllfa o ddiwedd mis Ionawr.
Cyfarfodydd Johnson yn 'aneglur'
Clywodd yr ymchwiliad nad oedd Llywodraeth Cymru wedi bod yn rhan o bump cyfarfod cyntaf SAGE - y corff oedd yn rhoi cyngor gwyddonol i Lywodraeth y DU.
Dywedodd Mr Gething y byddai wedi bod o fudd "pe bai Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol yn yr ystafell".
Roedd cyfarfodydd COBRA oedd wedi eu cadeirio gan y Prif Weinidog Boris Johnson yn "aneglur" a heb ffocws, meddai
Ond roedd 'na fantais gwybod bod y penderfyniadau o'r cyfarfodydd yna gyda phwysau Mr Johnson tu ôl iddyn nhw.
Dywedodd nad oedd Cymru na'r Deyrnas Unedig mor barod "ag oedden ni'n meddwl yr oedden ni" ar ddechrau'r pandemig.
Roedd y cynlluniau ar gyfer pandemig ffliw, gyda thair ton, pob un yn 15 wythnos.
Gan fod Covid yn feirws gwahanol dywedodd eu bod wedi defnyddio nwyddau diogelwch (PPE) yn gynt na'r disgwyl - er enghraifft doedd y sbectol diogelwch oedd ar gael ddim yn addas.
Roedd Mr Gething wedi rhoi tystiolaeth i'r ymchwiliad yn Llundain yn haf 2023 pan wnaeth gydnabod nad oedd wedi darllen adroddiad am baratoadau ar gyfer pandemig posib.
Pan gafodd ei holi am hynny gan y bargyfreithiwr ar ran yr ymchwiliad Tom Poole KC, dywedodd nad oedd yr adroddiad yna wedi cael ei rannu.
Dywedodd Mr Gething y byddai wedi gohirio gêm rygbi Cymru yn erbyn Yr Alban ym Mawrth 2020 wrth edrych yn ôl.
Cyn y gêm, fe ofynnodd Undeb Rygbi Cymru i weinidogion beth y dylen nhw wneud ac yn y pen draw fe wnaeth yr undeb ohirio gêm y Chwe Gwlad ei hun, ond roedd hyn ar ôl i 20,000 o gefnogwyr gyrraedd Caerdydd o'r Alban.
Dywedodd Mr Gething fod gweinidogion yn dilyn cyngor gwyddonol trwy beidio gohirio digwyddiadau mawr, er bod yna wybodaeth yn awgrymu y gallai cyfyngu digwyddiadau torfol leihau marwolaethau o 2%.
Wrth edrych yn ôl, dywedodd bod penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio cynghori yn erbyn y gêm yn "anghyfforddus".
Camgymeriad mewn cofnodion
Fe wnaeth Mr Gething hefyd drafod cofnodion cyfarfod cabinet ar 25 Chwefror, oedd yn dweud nad oedd achosion Covid yn y DU.
Dywedodd bod hynny'n "amlwg yn gamgymeriad" - roedd sawl achos wedi dod i'r amlwg, er nad oedd achos cyntaf Cymru wedi ei gadarnhau eto.
Clywodd yr ymchwiliad bod yr un camgymeriad wedi ymddangos yn natganiad Mr Gething i'r ymchwiliad.
Er i gofnodion y cyfarfod gael eu rhannu ar ôl y cyfarfod, doedd neb wedi herio eu cywirdeb.
Gwelodd yr ymchwiliad ebyst yn dangos bod y camgymeriad wedi dod i'r amlwg yn Ebrill 2020, a'r linell ddim felly wedi ei gynnwys yn y cofnodion gafodd eu cyhoeddi.
'Cadw ysgolion ar agor am hwy'
Brynhawn Llun cafodd Mr Gething ei holi am y cyhoeddiad ar 18 Mawrth 2020 bod ysgolion yn cau yn gynnar ar gyfer y Pasg.
Dywedodd hyd at 17 Mawrth mai'r teimlad oedd y byddai'n well cadw ysgolion ar agor ond dechreuodd rhai ysgolion ac awdurdodau lleol wneud penderfyniadau i gau achos bod staff yn ynysu a phryder ymhlilth rhieni.
Yn sgil hynny, cafodd y cyhoeddiad i gau ysgolion ei wneud mewn ffordd "drefnus".
Dywedodd bod e dal yn meddwl mai cau ysgolion bryd hynny oedd y penderfyniad iawn i wneud yn yr amgylchiadau.
"Ond mae'n un o'r pethau rwy'n difaru - na allen ni wedi cadw ysgolion ar agor am hirach," ychwanegodd.
Yn hydref 2020 roedd ffigyrau Covid yn cynyddu eto, a gofynnodd Tom Poole KC pam nad oedd Llywodraeth Cymru wedi gweithredu'n gynt i gloi eto.
Dywedodd Mr Gething y byddai gofyn i'r cyhoedd wneud mwy ar yr adeg yna wedi bod "yn heriol".
"Dim ond newydd ddychwelyd i'r ysgol oedd ein plant," meddai.
Yn y diwedd roedd yna glo byr o bythefnos yng Nghymru ar ddiwedd mis Hydref.
Dywedodd nad oedd hynny wedi cael yr effaith roedden nhw'n gobeithio ei weld a bod y sefyllfa wedi gwaethygu eto erbyn dechrau Rhagfyr.
Ar 10 Rhagfyr, clywodd yr ymchwiliad ei fod wedi dweud wrth y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, ei fod yn credu y byddai angen symud ysgolion i ddysgu o bell unwaith eto.
"Yn syml, ysgolion yw'r cynnig mawr olaf cyn mynd mewn i gyfnod clo," meddai.
Clywodd yr ymchwiliad am gyfarfod Cabinet ar 15 Rhagfyr - achos prin meddai Mr Gething ble roedd yna wahaniaeth yn ei safiad e â'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, gyda Mr Gething a Dr Frank Atherton, y prif swyddog meddygol, am fynd yn bellach o ran y cyfyngiadau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth
- Cyhoeddwyd6 Mawrth
- Cyhoeddwyd5 Mawrth