Drakeford: Cymru nid Llundain ddylai benderfynu mewn pandemig
- Cyhoeddwyd
Nid Llywodraeth y DU a ddylai wneud penderfyniadau ar gyfer y DU gyfan pe bai pandemig arall yn y dyfodol, yn ôl Prif Weinidog Cymru.
Wrth roi tystiolaeth fel rhan o Ymchwiliad Covid-19 y Deyrnas Unedig yng Nghaerdydd ddydd Mercher, dywedodd Mark Drakeford nad oedd wedi gweld unrhyw dystiolaeth i awgrymu fel arall.
Roedd yn ymateb i farn cyn-Brif Weinidog y DU, Boris Johnson a chyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart y byddai'n well petai Llywodraeth y DU yn gwneud penderfyniadau yn y dyfodol.
Yn ystod ei dystiolaeth roedd Mr Drakeford yn feirniadol o nifer o weinidogion San Steffan gan gynnwys y Prif Weinidog ar y pryd, Mr Johnson.
Dywedodd Mr Drakeford: "Yn bendant dydw i ddim yn meddwl bod y dystiolaeth yn awgrymu i mi y byddai penderfyniadau a wneir yn Llundain wedi bod yn benderfyniadau gwell cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn.
"Rydym yn anochel yn agosach at lawr gwlad, yn fwy ymwybodol o strwythurau gweinyddol, yn effro i batrymau gwahanol y clefyd, yn yr achos Cymreig yn gallu cyfathrebu'n well yn ddwyieithog.
"Nid wyf yn bendant yn cytuno y byddai gwell penderfyniadau wedi'u gwneud o Whitehall."
Ond ychwanegodd y byddai "gallu cryfach" i gydlynu penderfyniadau rhwng pedair gwlad y DU wedi bod yn well.
Mae'r ymchwiliad eisioes wedi cael gwybod na wnaeth Mr Johnson gyfarfod ag arweinwyr y gwledydd datganoledig ar ddechrau'r pandemig yn fwriadol rhag ofn iddo roi "yr argraff ffug bod y DU yn wladwriaeth ffederal".
Dywedodd Mr Drakeford bod hyn yn "rhyfeddol", gan ychwanegu: "Ysgrifennais yn rheolaidd iawn at y prif weinidog, yn gofyn am gyfres ragweladwy o gyfarfodydd rhwng penaethiaid y pedair gwlad.
"Doedd hi erioed wedi fy nharo fod y prif weinidog wedi gwrthod y ceisiadau hyn, nid am resymau ymarferol… ond fel mater o bolisi."
Dywed Mr Drakeford y byddai wedi bod yn "well" cael y cyfarfodydd hyn, gan y byddai wedi caniatáu i benderfyniadau "ar y cyd", os nad yn union yr un fath, gael eu gwneud.
'Y rheolwr yn absennol'
Ychwanegodd fod ei ymwneud â Michael Gove, y canghellor ar y pryd, wedi gweithio'n dda.
Ond yn ei ddatganiad i'r ymchwiliad, fe'i disgrifiodd fel "blaenwr medrus yn y canol heb dîm wedi'i drefnu y tu ôl iddo ac roedd y rheolwr yn absennol i raddau helaeth", meddai.
Cyfeiriodd at "foment digalon" yn y cydweithio rhwng llywodraethau gwledydd y DU pan wnaeth Mr Johnson gyhoeddi newid y neges i'r cyhoedd o "aros adref" i "aros yn effro".
Doedd Cymru ddim yn cytuno gyda'r newid ac yn ôl Drakeford roedd Johnson wedi sicrhau y byddai'n "gwneud ei orau glas" yn y gynhadledd i'r wasg i wneud yn glir mai dim ond siarad am newid canllawiau yn Lloegr oedd o.
Ond ychwanegodd Drakeford mai "dim ond cyfeirio at y gwledydd datganoledig yn y cyd-destun y mae'n siarad fel prif weinidog y pedair gwlad a wnaeth o".
"Mae'n arwydd clir bod yr hyn y mae ar fin ei ddweud yn berthnasol i'r DU gyfan ac nid yw byth yn dweud nad yw," meddai.
Fe daflodd oleuni ar ddylanwad yr ymgynghorydd Dominic Cummings wrth gofio nôl i gyfarfod COBRA ar 12 Mawrth i drafod gohirio cynulliadau torfol.
Dywedodd Mr Drakeford iddo ddadlau yn erbyn cynnal digwyddiadau ond ar ôl cael barn pawb o amgylch y bwrdd, fe wnaeth y Prif Weinidog Johnson grynhoi yn erbyn y camau hynny trwy ddweud "'mae Dom yn dweud na.'... doeddwn i ddim yn gwybod pwy oedd Dom [Dominic Cummings] bryd hynny," meddai Mr Drakeford.
Yn ogystal â'r berthynas rhwng y llywodraethau fe gafodd y Prif Weinidog ei gwestiynu am y penderfyniad i beidio profi pob claf oedd yn cael ei ryddhau i gartrefi gofal yn gynharach na 29 Ebrill 2020.
Mater o flaenoriaethu staff rheng flaen ysbytai oedd hyn meddai, gan ychwanegu: "Nid oedd digon o brofion i wneud popeth yr hoffem fod wedi'i wneud gyda nhw."
'Oedi cyn cyfnod clo byr'
Daeth i'r amlwg yn yr ymchwiliad hefyd bod Mr Drakeford yn credu, o edrych yn ôl, y dylai Cymru fod wedi cymryd "camau llymach yn gynt".
Fe gafodd ei holi hefyd am y penderfyniad i oedi cyn cyflwyno cyfnod clo byr fis Hydref 2020, pan oedd ail don o'r feirws yn lledu ar draws Cymru.
Dywedodd Mr Drakeford eu bod yn ceisio cael cydbwysedd rhwng effaith feddygol uniongyrchol Covid ac effeithiau ehangach cyfnod clo ar blant, ac felly penderfynwyd amseru'r cyfnod clo gyda hanner tymor ysgolion.
'Canslo'r Nadolig'
Ond Nadolig 2020 oedd y cyfnod anoddaf i wneud penderfyniadau gyda gwahaniaeth barn o fewn y Cabinet am dynhau'r cyfyngiadau.
Eglurodd mai dim ond yn yr ysgol mae nifer o blant bregus yn gallu dathlu'r ŵyl.
Meddai: "Rydyn ni ar fin dweud wrthyn nhw, mae'r Nadolig wedi'i ganslo'n llwyr.
"Rwy'n ffodus nad wyf yn cael llawer o nosweithiau di-gwsg, hyd yn oed yn y dyddiau anodd hyn, ond yn y foment honno roeddwn i'n bryderus iawn."
Yn ystod y pandemig, Mr Drakeford oedd yn gyfrifol am gyflwyno rheolau Covid yng Nghymru - gyda'i lywodraeth yn gyfrifol am y gwasanaeth iechyd, addysg a chynghorau.
Dyma'r eildro i'r Prif Weinidog roi tystiolaeth i'r ymchwiliad, ar ôl iddo wneud hynny ym mis Gorffennaf 2023 yn Llundain.
Roedd y rhan yna o'r ymchwiliad yn canolbwyntio'n benodol ar gynllunio ar gyfer y pandemig.
Dros y pythefnos diwethaf mae'r ymchwiliad wedi clywed gan sawl unigolyn a chwaraeodd ran yn yr ymateb i'r pandemig yng Nghymru - gan gynnwys gweinidogion a swyddogion blaenllaw.
Mae'r ymchwiliad, sy'n cael ei gadeirio gan y Fonesig Hallett, hefyd wedi clywed gan deuluoedd a gafodd eu heffeithio gan Covid-19.
Mae Mr Drakeford wedi cael ei feirniadu gan rai am beidio â chomisiynu ymchwiliad penodol i Gymru.
Ond mae'r Prif Weinidog wedi dadlau y byddai cydweithio gydag ymchwiliad y DU yn sicrhau gwell dealltwriaeth o sut yn union yr oedd penderfyniadau yn cael eu gwneud yn y pedair gwlad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mawrth
- Cyhoeddwyd11 Mawrth
- Cyhoeddwyd7 Mawrth