Graffiti'n anfarwoli mam-gu a aeth ben i waered yn Nhon-teg
- Cyhoeddwyd
Mae murlun wedi'i baentio ar len siop yn Nhon-teg a gododd fam-gu, 72, ac achosi iddi fynd ben i waered.
Fe ddenodd y digwyddiad a oedd wedi'i ffilmio sylw mawr ar-lein - gyda miliynau wedi edrych arno.
Aeth Anne Hughes i drafferthion wrth aros y tu allan i siop best-one yn Nhon-teg, Rhondda Cynon Taf cyn iddi ddechrau ei shifft ben bore.
Pan gafodd y llen ei godi wrth i'r siop agor, aeth ei chôt yn sownd ynddo, ac fe gafodd ei chodi o'r ddaear.
Er hynny, fe lwyddodd i ddal gafael yn ei throli siopa nes i'r perchennog ddod i'w hachub ar ôl sylweddoli beth oedd wedi digwydd.
Mae miliynau o bobl wedi gweld lluniau CCTV o'r digwyddiad wedi iddyn nhw gael eu cyhoeddi ar wefan TikTok.
Dywed Mrs Hughes, sydd o Don-teg, na allai gredu faint o bobl sydd wedi gwylio'r fideo a'i fod "yn falch" bod bron i hanner poblogaeth y DU wedi gweld beth ddigwyddodd iddi.
"Dyw e ddim fel petai fy mod wedi gwneud unrhyw beth arwrol na dim byd felly, bod gymaint o ffys dros wneud rhywbeth twp," meddai.
"Mae fy wyrion wrth eu boddau... maen nhw'n perthyn i'r genhedlaeth yna, cenhedlaeth TikTok ac ati.
"Ro'n i jyst yn pwyso ar y llen fel dwi'n arfer gwneud...ro'n i'n teimlo 'nghot yn codi a wnes i geisio rhyddhau fy hun ond do'n i methu a fyny â fi.
"Ro'n i'n meddwl fy mod am farw, yn ofni fy mod am daro fy mhen eto achos ro'n i newydd gwympo a tharo fy mhen yr wythnos gynt.
"Rwy' mor ddiolchgar bod fy mòs wedi dod allan i f'achub."
Cyfle 'rhy dda i'w golli'
Mae'r siop nawr wedi anfarwoli'r digwyddiad trwy gael murlun ohoni.
Artist graffiti o Donyrefail, Tee2Sugars, a gafodd ei gomisiynu i'w baentio.
Dywedodd ei fod yn gyfle "rhy dda i'w golli" a'i fod wedi cytuno i'w wneud "yn syth".
"Pan welais i'r clip o Anne wnes i chwerthin yn uchel, fel pawb arall a'i welodd," meddai.
"Fe gymrodd yr holl beth rhyw ddwy awr... ges i fy nghamgymryd am Banksy ddwywaith gan bobl oedd yn cerdded heibio.
"Bydd Anne nawr yna am byth, yn styc ben i waered... mae jyst yn biti na fydd neb yn gallu ei weld nes i'r siop gau gyda'r nos pan ddaw'r caead i lawr."
Dywedodd Mrs Hughes bod y murlun "yn hardd", gan longyfarch yr artist.
"Rwy'n ceisio peidio gadael iddi fynd i'm mhen," meddai, "ond rwy'n meddwl bod y gwaith celf yn wych."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mawrth