Ymateb i bolisi 20mya yn syndod meddai Drakeford

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd Mark Drakeford ei fod yn gobeithio bydd ei gyfnod wrth y llyw yn cael ei gofio fel un "radical"

Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford, yn ei ddyddiau olaf yn y swydd, wedi dweud nad oedd "wedi disgwyl" yr ymateb cryf i gyflwyno y terfyn cyflymder 20 milltir yr awr.

Roedd yn siarad â rhaglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru fel rhan o gyfres o gyfweliadau yn myfyrio ar ei bum mlynedd yn arwain Llywodraeth Cymru.

Wrth gyfeirio at y gwrthwynebiad i'r terfyn cyflymder newydd mewn ardaloedd adeiledig, dywedodd wrth y rhaglen, "na, doeddwn i ddim wedi disgwyl, ac wrth edrych yn ôl, allwn ni fod wedi gwneud mwy i baratoi'r tir" i gyfathrebu'r newid, meddai.

"Ond rhaid inni fod o ddifrif" am fynd i'r afael â newid hinsawdd, meddai.

Ddydd Sadwrn fe fydd naill ai Jeremy Miles neu Vaughan Gething yn cael eu cyhoeddi fel olynydd i Mr Drakeford.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Drakeford wedi gwneud cyfres o gyfweliadau yn myfyrio ar ei bum mlynedd yn arwain Llywodraeth Cymru

"Mae newid yn anodd" meddai, gan gyfeirio at ei atgofion o'r ddadl danllyd yn y 1960au pan wnaeth y gweinidog Llafur, Barbara Castle, newidiadau i ddeddfau yfed a gyrru.

Dywedodd ei fod yn "hollol siŵr" bod y polisi 20mya yn "bwysig" o ran achub bywydau a'r polisi "gorau".

"Mae Cymru yn arwain y ffordd, a dwi'n siŵr pan mae pobol yn edrych yn ôl bydd pobol yn gallu gweld hynny.

"Mae newid yn anodd i bobol, dwi'n gwybod hynny, ond yn y cyfnod dwi wedi bod yn brif weinidog dwi wedi trio defnyddio'r amser prin... i wneud y penderfyniadau anodd."

Wrth gael ei holi am y protestiadau mawr, gan gynnwys y tu allan i'r Senedd, yn gwrthwynebu newidiadau sylweddol i gymorthdaliadau amaeth, dywedodd bod Llywodraeth Cymru wedi ceisio dangos "ein bod ni yn gwrando, ni'n addasu'r cynllun ar ôl clywed beth mae pobol yn ddweud".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Heddlu De Cymru fod "tua 3,000" o bobl yn rhan o'r dorf y tu allan i'r Senedd

Roedd asesiad effaith economaidd a gafodd ei gyhoeddi gyda'r ymgynghoriad diweddaraf yn awgrymu y gallai cynlluniau'r llywodraeth arwain at 10.8% yn llai yn niferoedd da byw, ac y byddai angen 11% o doriad yn niferoedd gweithwyr ar ffermydd Cymru.

Dywedodd bod ymateb mawr wedi bod i'r ymgynghoriad ffurfiol ddaeth i ben yr wythnos ddiwethaf - "byddwn ni'n darllen pob un o'r cyfraniadau... ni gyd yn siŵr y bydd newidiadau i'r cynllun".

Ychwanegodd mai'r rheswm pam fod angen cynllun newydd o gwbl yw bod y Deyrnas Unedig wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Cyn y refferendwm, meddai, "dw i'n cofio teithio o un ochr o Bowys i'r llall a gweld posteri ym mhob man yn perswadio pobol i bleidleisio i adael".

"Roedd lot o bobl yng nghefn gwlad wedi pleidleisio i ddod mas o'r Undeb Ewropeaidd."

Tlodi plant

Pan holwyd ef a oedd lefelau tlodi plant yng Nghymru yn "siom enfawr" iddo, atebodd "wrth gwrs" gan ychwanegu bod rhoi cyfleoedd i blant wedi bod yn ganolbwynt ei yrfa ers degawdau.

"Yn negawd cyntaf datganoli roedd tlodi plant yn mynd lawr blwyddyn ar ôl blwyddyn. Dyna sydd wedi newid.

"Ar ôl 2010, cyfnod cyni, penderfyniadau i dorri lawr ar fudd-daliadau ac ar wasanaethau... mae 'r cyfeiriad wedi mynd i'r ochr arall."

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, mae 28% o blant Cymru yn byw mewn tlodi cymharol.

Mae aelwyd yn cael ei hystyried fel un sy'n byw mewn tlodi cymharol os yw'n byw ar lai na 60% o incwm canolrifol (median) y Deyrnas Unedig.

Mae hynny'n incwm o lai na £300 yr wythnos, ar ôl talu am gostau tai.

Yn 2016, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyfaddef nad oedden nhw'n mynd i gyrraedd y targed o ddileu tlodi plant yng Nghymru erbyn 2020.

Y dyfodol

Yn fwy ehangach, dywedodd bod "annibyniaeth yn opsiwn" i Gymru, ond y byddai'n golygu "llwybr hir a chymhleth".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Drakeford, meddai, yn edrych ymlaen at gael "mwy o amser gyda'r teulu" ac yn ei randir

"Dw i dal i feddwl bod dyfodol Cymru yn well y tu fewn i'r Deyrnas Unedig, ond Teyrnas Unedig sy'n deg gyda rheoliadau sy'n gwarchod Cymru, ac sy'n rhoi i Gymru yr arian i ymateb i'n hanghenion."

Ar sut y gallai dreulio ei ddyddiau fel cyn-brif weinidog, meddai Mr Drakeford, "dwi'n Aelod o'r Senedd am y ddwy flynedd nesaf, a dw i'n edrych ymlaen at gyfrannu".

Mae'n edrych ymlaen hefyd, meddai, at gael "mwy o amser gyda'r teulu" ac yn ei randir.

"Pethau cyffredinol, ond pethau dw i ddim wedi cael digon o amser i wneud dros y ddegawd ddiwethaf."