Prif Weinidog Cymru: Arweinydd Llafur i'w gyhoeddi
- Cyhoeddwyd
Bydd enillydd etholiad arweinyddiaeth Llafur Cymru - a'r dyn sydd ar fin dod yn brif weinidog newydd Cymru - yn cael ei gyhoeddi ddydd Sadwrn.
Mae Vaughan Gething a Jeremy Miles wedi bod yn cystadlu i olynu Mark Drakeford, sy'n rhoi'r gorau iddi yn swyddogol yr wythnos nesaf.
Bydd swyddogion y Blaid Lafur yn datgan canlyniad yr etholiad yng Nghaerdydd.
Roedd unrhyw aelod o'r blaid yng Nghymru neu sefydliadau sy'n gysylltiedig â Llafur, megis undebau llafur, yn gallu pleidleisio.
Nid yw'r blaid yn datgelu faint o bobl sy'n aelodau o Lafur Cymru, ond yn ôl ffynonellau mae tua 16,000.
Credir bod tua 100,000 o bobl â phleidlais gyswllt, er mai dim ond cyfran fach o'r rheini y disgwylid i gymryd rhan.
Roedd yr aelodau yn medru pleidleisio drwy'r post neu ar-lein rhwng 16 Chwefror a 14 Mawrth.
Yr ymgeiswyr
Cafodd Vaughan Gething, Gweinidog Economi Cymru a chyn gyfreithiwr, ei eni yn Zambia.
Cyfarfu ei dad, milfeddyg o Aberogwr ym Mro Morgannwg, â'i fam, ffermwr ieir, tra'n gweithio yn ne Affrica.
Aeth Mr Gething i'r ysgol yn Dorset ac yna i brifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd.
Petai'n ennill fe fyddai arweinydd du cyntaf Cymru.
Daeth yn ail i Mr Drakeford yn etholiad blaenorol arweinyddiaeth Llafur Cymru yn 2018.
Cafodd Gweinidog Addysg Cymru Jeremy Miles, oedd hefyd yn arfer bod yn gyfreithiwr, ei eni a'i fagu yn nhref lofaol Pontarddulais fel siaradwr Cymraeg iaith gyntaf.
Addysgwyd ef yn Ysgol Gyfun Ystalyfera yng nghwm Tawe yn ystod yr 80au, ochr yn ochr â llawer o blant yr oedd eu tadau yn rhan o streic y glowyr.
Petai Mr Miles yn fuddugol fe fyddai arweinydd hoyw cyntaf Cymru.
Mae disgwyl i'r drefn ar gyfer olynu Mark Drakeford fel prif weinidog Cymru gael ei chynnal yr wythnos nesaf.
Mae disgwyl i Mr Drakeford wynebu ei Gwestiynau i'r Prif Weinidog olaf brynhawn Mawrth a hysbysu Palas Buckingham yn ddiweddarach am ei ymddiswyddiad.
Mae disgwyl i Mr Gething neu Mr Miles gael eu henwebu yn y Senedd i fod yn brif weinidog newydd Cymru y diwrnod canlynol, gyda'r posibilrwydd o bleidlais yn y Senedd os bydd y gwrthbleidiau'n penderfynu enwebu eu harweinwyr eu hunain ar gyfer y swydd.
Mae Llafur yn dal 30 o'r 60 sedd ym Mae Caerdydd, felly mae'n annhebygol o gael trafferth sicrhau mai eu harweinydd newydd fydd y prif weinidog nesaf.
Nhw fydd pumed arweinydd llywodraeth ddatganoledig Cymru ers i bwerau dros faterion fel addysg, iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a llywodraeth leol gael eu trosglwyddo yn 1999.
Bydd Mr Miles neu Mr Gething yn dilyn yn ôl traed Alun Michael, Rhodri Morgan, Carwyn Jones a Mark Drakeford.
Byddant hefyd yn chwarae rhan bwysig yn ymgyrch Llafur yng Nghymru ar gyfer Etholiad Cyffredinol y DU.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Mawrth
- Cyhoeddwyd16 Mawrth