Rhwystrau iaith yn achosi 'problemau meddygol difrifol'
- Cyhoeddwyd
Gall rhwystrau ieithyddol ym maes gofal iechyd achosi problemau meddygol difrifol, yn ôl un o bwyllgorau'r Senedd.
Mae camgymeriadau'n cael eu gwneud a phobl yn cael diagnosis anghywir pan fod aelodau o'r teulu yn cael eu defnyddio fel cyfieithwyr, yn hytrach na phobl sydd wedi cael yr hyfforddiant cywir, yn ôl adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.
Noda'r pwyllgor hefyd fod methu a sicrhau bod pobl cymwys ar gael i gyfieithu mewn sefyllfaoedd meddygol, "o bosib yn mynd yn groes i'w hawliau dynol".
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn croesawu adroddiad y pwyllgor ac yn ystyried eu hargymhellion yn ofalus.
Clywodd y pwyllgor fod un fenyw wedi colli'r cyfle i gael diagnosis canser cynnar am ei bod yn dibynnu ar ei mab i gyfieithu ar ei rhan, er nad oedd ganddo gefndir meddygol.
Yn ôl Dr Shanti Karupiah, Is-Gadeirydd Polisi a Materion Cyhoeddus Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu, mae pobl yn dewis peidio rhannu eu symptomau gyda'u perthnasau gan eu bod yn teimlo gormod o gywilydd, a bod hynny'n gallu arwain at gam-ddiagnosis.
"Mae 'na rai achosion ble mae'r mab yn dweud un peth, am fod y fam yn teimlo gormod o embaras i ddweud yr hyn mae hi eisiau ei ddweud, ac mae e'n ceisio cyfieithu gorau y gall e, ond ry' ni'n gallu colli cyfle wedyn i roi diagnosis cywir," meddai.
"Os nad ydych chi'n gallu siarad yr un iaith, mae'n anodd cael y gofal perthnasol. Os yw rhywun yn cael cam-ddiagnosis, mae'n gallu golygu'r gwahaniaeth rhwng byw a marw."
Gwelodd Dr Karupiah un fenyw ganol oed oedd wedi bod yn dod i'r feddygfa gyda heintiau cyson ar y bledren.
Roedd hi'n ymweld â'r practis gydag aelod o'i theulu oedd yn awyddus i gyfieithu drosti.
"Ro'n i'n amau nad oedd rhywbeth yn cael ei gyfleu'n iawn, felly awgrymais fod archwiliad perineal pellach yn cael ei gynnal. Datgelodd hynny fod canser ceg y groth arni. Canser cam 4," meddai Dr Karupiah.
"Dyna un enghraifft o rywbeth y gallem ni fod wedi sylwi arno ynghynt petai gwell cymorth cyfieithu wedi bod ar gael. Cafodd cyfle ei golli oherwydd y broblem gyfathrebu."
Mae'r pwyllgor yn galw am weithredu brys i sicrhau nad yw pobl yn gorfod dibynnu ar aelodau'r teulu i gyfieithu ar eu rhan.
Dywedodd Jenny Rathbone AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, fod hyn yn dangos bod mwy i'w wneud eto cyn y gall Cymru ddod yn genedl wrth-hiliol.
"Roedd yn peri pryder mawr i mi, i glywed tystiolaeth fod camgymeriadau a cham-ddiagnosis yn gallu digwydd o ganlyniad i gyfieithu annigonol.
"Gall hyn ddigwydd pan fod aelodau'r teulu'n ymddwyn fel cyfieithwyr mewn lleoliadau meddygol, yn hytrach na gweithwyr proffesiynol sydd wedi eu hyfforddi."
Fe ychwanegodd: "Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod y gallai methu â darparu gwasanaeth cyfieithu digonol i unigolion mewn sefyllfaoedd meddygol, pan nad ydynt yn gwbl rhugl yn y Gymraeg neu'r Saesneg fynd yn groes i'w hawliau dynol."
'Gofyn i ni fod yn weithgar'
Mae'r adroddiad yn dangos nad dim ond ym maes gofal iechyd mae pobl o gefndiroedd lleiafrifol ethnig yn cael gwasanaethau annigonol.
Mae galwadau hefyd i fynd i'r afael â phroblemau yn y byd addysg a'r maes cyfiawnder troseddol.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod y nod o geisio sicrhau bod Cymru yn genedl wrth-hiliol erbyn 2030, ymhen dim ond chwe blynedd. Mae hynny'n gofyn i ni fod yn weithgar," meddai Ms Rathbone.
"Gwrthsefyll, yn hytrach na derbyn y bydd gwahaniaethu hiliol yn digwydd. A chydnabod ei bod hi'n amser ar gyfer gweithredu, nid geiriau."
Mae'r adroddiad 'Gweithredu, nid geiriau: creu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030' yn gwneud 10 argymhelliad i Lywodraeth Cymru wella'r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
Mae hynny'n cynnwys cryfhau ymdrechion i roi'r gorau i'r arfer o ddefnyddio aelodau teulu fel cyfieithwyr mewn lleoliadau meddygol.
Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r sector iechyd a gofal cymdeithasol i gynnig ffordd ddiogel o adrodd am ymddygiad hiliol; a chymryd camau i wella ymwybyddiaeth o'r agenda Cymru wrth-hiliol mewn ysgolion ar draws y wlad.
Wrth ymateb, fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn croesawu adroddiad y pwyllgor a byddwn yn ystyried eu hargymhellion yn ofalus.
"Rydym wedi ymrwymo i yrru ein Cynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol yn ei flaen a gweithio tuag at sicrhau Cymru wrth-hiliol erbyn 2030. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd lleihau achosion lle mae aelodau'r teulu yn gweithredu fel cyfieithwyr.
"Mae Gwasanaeth Dehongli a Chyfieithu Cymru eisoes yn darparu dehonglwyr a chyfieithwyr proffesiynol ar gyfer y sector cyhoeddus ac rydym yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i archwilio dichonoldeb cyfeiriadur o gyfieithwyr."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mawrth
- Cyhoeddwyd24 Chwefror
- Cyhoeddwyd15 Chwefror