Gordon Brown: 'Dylai datganoli fynd gam ymhellach'
- Cyhoeddwyd
Fe ddylai datganoli i Gymru "fynd gam ymhellach" ond mae "rhai materion" y mae'n rhaid eu datrys, yn ôl Gordon Brown.
Amddiffynnodd y cyn-Brif Weinidog ei adroddiad ar sut y gallai'r Deyrnas Unedig edrych o dan lywodraeth Lafur yn San Steffan.
Ond nid oedd wedi cefnogi galwadau gan aelodau Llafur Senedd Cymru i system gyfiawnder Cymru gael ei rhedeg o Gaerdydd.
Mae Plaid Cymru wedi beirniadu adroddiad Mr Brown yn y gorffennol, tra bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud nad oedd awydd cyhoeddus am ddatganoli pellach.
Roedd Gordon Brown yn siarad â BBC Radio Wales ar gyfer rhaglen ddogfen sy'n edrych ar waddol Mark Drakeford, sydd ar fin camu lawr fel Prif Weinidog.
Dywedodd fod ganddo "barch enfawr" at Mr Drakeford fel un o'r "bobl fwyaf ymroddedig i gyfiawnder cymdeithasol rwy'n eu hadnabod".
Mae Mark Drakeford, sy'n ymddiswyddo fel Prif Weinidog ddydd Mawrth ar ôl mwy na phum mlynedd yn y swydd, wedi cefnogi'r syniad o "ffederaliaeth radical" ar draws y Deyrnas Unedig ers tro ac am weld datganoli plismona a chyfiawnder i Gymru.
Mae datganoli plismona a chyfiawnder hefyd yn cael ei gefnogi gan ei olynydd fel Prif Weinidog, Vaughan Gething, a etholwyd yn arweinydd Llafur Cymru ddydd Sadwrn.
Ond argymell y dylai llywodraeth Lafur yn San Steffan symud pwerau dros gyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf o San Steffan i Gaerdydd wnaeth adroddiad Gordon Brown yn 2022 - gan fethu â chefnogi datganoli plismona, carchardai a llysoedd ar gyfer oedolion i Gymru.
Dywedodd Mr Brown ei fod yn credu bod adroddiad ei gomisiwn "wedi cyrraedd sefyllfa sy'n hyrwyddo datganoli Cymreig, ac y dylai allu mynd gam ymhellach".
Ychwanegodd: "Yn amlwg, mae yna rai materion sy'n rhaid eu datrys, ac mae rhai ohonyn nhw'n faterion manwl, ond, mewn egwyddor, fe ddylen nhw allu mynd ymhellach."
Cafodd adroddiad Gordon Brown ei gyhoeddi cyn casgliadau terfynol Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, a gyd-gadeiriwyd gan yr Athro Laura McAllister a chyn Archesgob Caergaint Dr Rowan Williams.
Galwodd adroddiad McAllister-Williams, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr, am ddatganoli pwerau dros gyfiawnder, plismona a seilwaith rheilffyrdd i'r Senedd.
Dywedodd Mr Brown ei bod "nawr drosodd" i arweinydd Llafur y DU, Syr Keir Starmer i benderfynu ar beth fydd yn cael ei gynnwys ym maniffesto ei blaid ar gyfer yr etholiad cyffredinol nesaf.
Ond yn ddiweddar mae Jo Stevens, Ysgrifennydd Cymru yr wrthblaid yn nhîm Syr Keir, wedi gwrthod datganoli plismona a chyfiawnder troseddol ar gyfer oedolion i Gymru.
Mae Aelodau Llafur o'r Senedd hefyd wedi galw am newid y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn cael ei hariannu drwy fformiwla Barnett.
O dan fformiwla Barnett, bob tro y bydd Llywodraeth y DU yn penderfynu gwario arian ar rywbeth yn Lloegr sydd wedi'i ddatganoli i Gymru, yr Alban neu Ogledd Iwerddon mae'n defnyddio'r fformiwla i gyfrifo swm i'w roi i'r cenhedloedd hynny.
'Fe ddylai Cymru wneud yn well'
Ar y mater ariannu, dywedodd Mr Brown, a fu'n gyfrifol am gyllid cyhoeddus y DU fel Canghellor am ddegawd: "Fe ddylai Cymru wneud yn well yn ôl angen oherwydd llawer o'r problemau cymdeithasol sy'n codi, er enghraifft, o ddirywiad y diwydiannau mwyngloddio a dur.
"Roeddwn i yn y Trysorlys am ddeng mlynedd. Fe wnaethom edrych ar newidiadau y gallem eu gwneud, er enghraifft, a ydych chi'n dyrannu adnoddau ar sail incwm cenedlaethol y pen?
"Neu, fel y gwnaethom ni, dweud, 'edrychwch, mae fformiwla Barnett yn un ffordd o ddelio â hyn ond fe ddylai Cymru gael mwy.'
"Pe baen ni wedi cael gwared ar Barnett yn gyfan gwbl, dydw i ddim yn meddwl y byddai gennym ni gonsensws ledled y Deyrnas Unedig.
"Ond trwy roi mwy na Barnett i Gymru, dwi'n meddwl mai dyna'r peth iawn i'w wneud," ychwanegodd.
Bydd mwy am y stori yma ar Politics Wales ar BBC One Wales am 10:00 ddydd Sul.
Mae modd gwrando ar raglen Mark Drakeford: Legacy of a Leader? ar BBC Radio Wales am 18:00 nos Fawrth ac ar BBC Sounds wedi hynny.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2021
- Cyhoeddwyd21 Ionawr