Cymru v Y Ffindir: 'Opsiynau ymosodol yn achosi cur pen'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Yr her sy'n wynebu Cymru i gyrraedd Euro 2024

"Mae'n bosib mai dyma'r sefyllfa orau i ni fod ynddi o ran chwaraewyr sy'n chwarae yn gyson i'w clybiau, ac yn chwarae yn dda", meddai rheolwr Cymru.

Daeth sylwadau Robert Page wedi iddo enwi ei garfan o 28 o chwaraewyr ar gyfer gemau ail gyfle Euro 2024.

Bydd Cymru yn wynebu'r Ffindir yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Iau yn y rownd gynderfynol, gyda'r enillwyr yn chwarae gartref yn erbyn Gwlad Pwyl neu Estonia yn y rownd derfynol ar nos Fawrth, 27 Mawrth.

Gyda Page yn dweud bod yr opsiynau ymosodol sydd ar gael iddo yn achosi "cur pen", dyma olwg ar garfanau Cymru a'r Ffindir cyn y gêm fawr.

Cymru - Y capten yn ôl, carreg filltir i Ampadu a Dan ar dân

Yn yr wythnosau yn arwain at y gemau ail gyfle, un peth mae Robert Page wedi bod yn diolch amdano yw'r ffaith bod cymaint o'r garfan bellach yn chwarae yn gyson i'w clybiau.

Pwnc sy'n codi yn aml wrth drafod y tîm yw bod chwaraewyr ddim yn chwarae digon o funudau y tu allan i'r cyfnodau rhyngwladol, ac roedd Page ei hun wedi galw yn gyhoeddus ar rai aelodau o'i garfan i symud clybiau.

Bellach, mae sawl chwaraewr - Kieffer Moore, David Brooks a Joe Rodon i enwi rhai - wedi symud ar fenthyg neu yn barhaol i glybiau yn y Bencampwriaeth, ac yn amlwg wedi elwa o chwarae yn wythnosol.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Daniel James - un o'r pedwar Cymro sy'n chwarae'n gyson i Leeds y tymor hwn - wedi sgorio 12 gôl i'w glwb eleni

Un sydd wedi bod ar dân dros yr wythnosau diwethaf yw Daniel James, sydd wedi sgorio 12 a chreu chwe gôl i Leeds United.

Roedd yr asgellwr wedi colli ei le yn nhîm Cymru ar gyfer y gemau rhagbrofol yn erbyn Croatia a Thwrci, ond mi fydd o'n gobeithio ei fod wedi gwneud digon i ddechrau yn erbyn Y Ffindir.

Dim James yw'r unig ymosodwr sy'n achosi "problemau da", yng ngeiriau'r rheolwr, mae Kieffer Moore, Nathan Broadhead, Brennan Johnson a Harry Wilson i gyd wedi creu argraff i'w clybiau yn ddiweddar.

Disgrifiad,

Coridor Ansicrwydd: Pwy fydd ymosodwyr Cymru i herio'r Ffindir?

O ran anafiadau, chafodd Niall Huggins, Joe Morrell na Tom Bradshaw eu cynnwys yn y garfan wreiddiol, tra bod Wes Burns, Joe Low a Ben Cabango wedi gorfod tynnu allan ar ôl dioddef anafiadau dros y dyddiau diwethaf.

Un hwb annisgwyl oedd y ffaith bod y capten, Aaron Ramsey, wedi ei gynnwys yn y garfan, wedi iddo wella yn gynt na'r disgwyl ar ôl dioddef anaf i'w goes ym mis Medi.

Fe all nos Iau fod yn noson arbennig i Ethan Ampadu a James - gyda'r ddau yn ennill cap rhif 50 os ydyn nhw'n chwarae yn y gêm.

Yn ôl Page, mae Ampadu - sydd eisoes yn gapten ar Leeds United - "100% am fod yn gapten ar ei wlad yn y dyfodol".

Y Ffindir - Pukki, profiad a dim pwysau

Fe wnaeth Y Ffindir gyrraedd y gemau ail gyfle drwy orffen yn drydydd mewn grŵp rhagbrofol oedd yn cynnwys Denmarc, Slofenia, Kazakstan, Gogledd Iwerddon a San Marino.

Er y siom o fethu allan ar y ddau safle uchaf, fe wnaeth Y Ffindir lwyddo i ennill 18 o bwyntiau allan o 30 posib yn y grŵp - chwech yn fwy na Chymru.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Pukki, sydd bellach yn chwarae i Minnesota United yn yr Unol Dalaethiau, wedi sgorio 39 o weithiau i'r Ffindir

Efallai nad oes unrhyw sêr mawr yng ngharfan yr ymwelwyr bellach - fel Jari Litmanen a Sami Hyypiä gynt - ond mae 'na sawl chwaraewr profiadol sy'n chwarae ar y lefel uchaf yn Ewrop.

Yr enw mwyaf cyfarwydd i nifer fydd Teemu Pukki, ymosodwr a dreuliodd sawl tymor llwyddiannus gyda Norwich City yn Uwch Gynghrair Lloegr a'r Bencampwriaeth.

Mae Pukki wedi chwarae 118 o weithiau i'w wlad, ac wedi sgorio 39 o goliau.

Mae hi'n werth cadw llygad hefyd ar chwaraewr canol cae Leeds United, Glen Kamara a Lukas Hradecky - capten y Ffindir, a'i glwb Bayer Leverkusen yn yr Almaen.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cymru yw'r ffefrynnau, yn ôl rheolwr Y Ffindir, Markku Kanerva

Ers ennill ddwywaith yn erbyn Cymru yng nghyfnod John Toshack yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2010, dyw'r Ffindir heb lwyddo i ennill yr un o'r pedair gêm y maen nhw wedi eu chwarae yn erbyn Cymru.

Dywedodd y rheolwr, Markku Karneva, ei fod o'n disgwyl gêm agos nos Iau, ond taw Cymru oedd y ffefrynnau clir.

"Ry'n ni wedi chwarae yn erbyn Cymru yn weddol ddiweddar, mewn gêm gyfeillgar ac mewn gemau eraill, felly ry'n ni'n gyfarwydd iawn â nhw," meddai.

Disgrifiad,

A fydd profiad o'r gemau ail gyfle yn help i Gymru yn erbyn y Ffindir?

Euro 2020 - gafodd ei oedi am flwyddyn oherwydd y pandemig - oedd y tro cyntaf i'r Ffindir gyrraedd rowndiau terfynol y gystadleuaeth, ac fe lwyddon nhw i ennill un gêm yn erbyn Denmarc.

Mae'r Ffindir yn wynebu problemau gydag anafiadau - wedi cadarnhad y bydd chwaraewr canol cae Inter Miami, Robert Taylor yn methu'r gêm.

Mae 'na amheuaeth hefyd am ffitrwydd ymosodwr Middlesbrough, Marcus Forss, wedi iddo ddioddef anaf i'w goes dros y penwythnos.

Bydd modd dilyn y cyfan nos Iau yn fyw ar BBC Radio Cymru ac ar BBC Sounds, gyda'r gic gyntaf am 19:45.