Suddo'r Sir Galahad: 'Dal am i'r gwir ddod allan'

  • Cyhoeddwyd
Y Sir Galahad ar dânFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw 48 o filwyr yn yr ymosodiad ar y Sir Galahad

Gallai dogfennau cyfrinachol yn ymwneud â suddo llong y Sir Galahad yn ystod rhyfel y Falklands gael eu rhyddhau'n fuan.

Fe gafodd y llong ei suddo gan awyrlu Ariannin ar 8 Mehefin 1982 ynghyd â'i chwaer-long y Sir Tristram.

Bu farw 48 o'r criw, gan gynnwys 32 aelod o'r Gwarchodlu Cymreig.

Cafodd rhai dogfennau eu rhyddhau y llynedd, ac roedden nhw'n datgelu dryswch, oedi a cholli cyfleoedd i symud y milwyr i le mwy diogel.

Yn wreiddiol fe gafodd y Gwarchodlu Cymreig eu beio am beidio gadael y llong yn gynt, gan eu gadael yn agored i ymosodiad.

Roedd Maldwyn Jones, ysgrifennydd asiantaeth y Gwarchodlu Cymreig, ar fwrdd y Sir Galahad y diwrnod hwnnw, ac mae wedi ymgyrchu ers hynny i'r gwir ddod i'r amlwg.

Mae'n dweud nad oedd hi'n gywir o gwbl i roi'r bai ar y Gwarchodlu Cymreig.

Disgrifiad o’r llun,

Maldwyn Jones: "Mae'n dal yn galed, a 'da ni'n dal ar ôl y gwir i ddod allan"

Wrth siarad ar Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru fore Mawrth dywedodd: "O'n i ar y llong fy hun ac yn gwybod beth oedd yn digwydd o funud i funud.

"Mae be ddaeth allan dros y blynyddoedd wedi newid i siwtio rhai, ac roedd o'n cover-up mawr.

"Roedd bwrdd ymchwilio wedi cael ei gynnal yn 1983 i edrych yn benodol ar y Sir Galahad. Roedd saith dogfen o'u blaenau nhw, ac mae tri wedi cael eu rhyddhau, felly mae pedwar ar ôl.

"Roedden ni fod i ddod oddi ar y llong am 06:30 y bore, ond 'naeth neb droi fyny [i'w cludo o'r llong].

"'Naeth 32 gael eu lladd i gyd, ond ddylsa nhw heb fod wedi cael eu lladd.

"Mae'u teuluoedd nhw yn haeddu i'r gwir ddod allan, fel ydan ni i gyd hefyd."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Goroeswyr y Sir Galahad yn dod i'r lan

Yn San Steffan ddydd Llun, dywedodd y Gweinidog Amddiffyn Andrew Murrison bod Llywodraeth y DU yn ystyried rhyddhau'r dogfennau sy'n weddill o fewn misoedd os fydd gwiriadau cyfreithiol yn cael eu gwneud.

Ymhlith y rhai sydd wedi ymgyrchu am hyn mae'r cyn-weinidog Iain Duncan Smith.

Dywedodd yntau bod "dim cwestiwn fod rhyw fath o cover-up wedi digwydd," a gofynnodd a fyddai rhyddhau'r dogfennau yn golygu bod "y rhai a gafodd eu henw da wedi'i sathru yn gallu dweud yn falch nad arnyn nhw oedd y bai?".

Atebodd Andrew Murrison: "Mae'r bwrdd ymchwilio yn gwbl glir am osod y bai, a bod y Gwarchodlu Cymreig yn gwbl rydd o unrhyw fai. Dyna yw safbwynt y llywodraeth."

'Mae'n dal yn galed'

Dywedodd y Cyrnol James Phillips, Comisiynydd Cyn-filwyr Cymru: "Gallwch chi ddeall pam fod rhai dogfennau'n cael eu cadw'n gyfrinachol ar y pryd... rwy'n credu bod teuluoedd angen gwybod os cafodd penderfyniadau gwael eu gwneud ac os na wnaeth y fyddin gynllunio'n effeithiol.

"Mae hyn yn ymwneud ag enw da'r Gwarchodlu Cymreig ac eraill a ddioddefodd, ac fe ddylen nhw gael eu hanrhydeddu a'u cydnabod.

"Y ffordd orau i ddelio gyda hyn yw agor y dogfennau a gadael i bobl weld a deall cymhlethdod rhyfel ar y pryd.

"Mae teuluoedd am gael gwybod pam fod y llong wedi gadael heb amddiffyniad, yn y lle anghywir ar yr amser anghywir, a does dim rheswm pam y dylai'r dogfennau yma gael eu cadw'n gyfrinachol bellach."

Ychwanegodd Maldwyn Jones: "Dros y blynyddoedd mae 'di dod yn haws siarad am y digwyddiad. Ond mae'n dal yn galed, a 'da ni'n dal ar ôl y gwir i ddod allan."

Pynciau cysylltiedig