Dim sail i atal staff deintydd rhag siarad Cymraeg - Comisiynydd

  • Cyhoeddwyd
Deintydd

Mae cwmni gofal iechyd preifat Bupa wedi ei feirniadu am wahardd gweithiwr deintyddfa rhag cyfathrebu yn y Gymraeg gyda'i gyd-weithwyr.

Fe gysylltodd y gweithiwr gyda Chomisiynydd y Gymraeg ar ôl derbyn e-bost, a llythyr dilynol yn dweud na ddylai gyfathrebu yn y Gymraeg gyda staff eraill.

Mae swyddfa'r comisiynydd wedi dyfarnu bod Bupa Dental Care wedi ymyrryd â rhyddid y gweithiwr i ddefnyddio'r Gymraeg.

Yn ôl y cwmni y rhesymau oedd bod angen osgoi gwallau gweinyddol a bod defnyddio'r Gymraeg yn yr achos dan sylw gyfystyr â thorri cytundeb swydd.

Ond mae Bupa Dental Care bellach wedi ymddiheuro am "unrhyw dramgwydd a achoswyd".

Defnyddio'r Gymraeg yn 'torri cytundeb swydd'

Bu swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn ymchwilio i'r achos honedig yn dilyn cais gan yr unigolyn, sy'n gweithio i un o ddeintyddfeydd Bupa Dental Care.

Roedd yn dweud fod y cwmni wedi cysylltu i ddweud na ddylai ddefnyddio'r Gymraeg i gyfathrebu gyda staff eraill yno.

Dywedodd Bupa Dental Care bod angen osgoi gwallau gweinyddol a bod defnyddio'r Gymraeg gyfystyr â thorri cytundeb swydd.

Ond daeth y comisiynydd i'r casgliad nad oedd unrhyw sail i hynny, ac nad oedd cyfiawnhad i ymyrryd gyda rhyddid yr unigolyn i gyfathrebu yn Gymraeg gyda'i gyd-weithwyr.

"Ni ddarganfûm unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod unrhyw wallau wedi digwydd o ganlyniad i ddefnydd yr unigolyn nac unrhyw aelod staff arall o'r Gymraeg", meddai mewn datganiad.

"Ni ddeuthum o hyd i unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod defnydd yr unigolyn o'r Gymraeg gyda staff yn cyfateb ag unrhyw doriad yn ei gytundeb gwaith."

Angen dangos parch

Pwysleisiodd fod Mesur y Gymraeg yn rhoi statws swyddogol i'r Gymraeg yng Nghymru, a rhyddid i bobl ddefnyddio'r Gymraeg yn ddi-rwystr yn eu bywyd personol ac yn y gweithle.

Dywedodd swyddfa'r comisiynydd y dylai Bupa ddangos mwy o barch i bobl sydd am gyfathrebu gyda'i gilydd drwy gyfrwng yr iaith.

"Mae Cymru yn wlad ddwyieithog, sy'n golygu y dylai cyflogwyr a staff barchu a chydnabod y ffaith y gall rhai unigolion o fewn y gweithle ddewis cyfathrebu yn y Gymraeg gydag eraill wrth eu gwaith.

"Yn naturiol, mae cyfathrebu rhwng pobl yn y Gymraeg yn rhan gynhenid o fywyd yng Nghymru. Ni ddylai pobl felly deimlo bod defnyddio'r Gymraeg yn achosi rhwystr afresymol na theimlo dan bwysau i droi at y Saesneg.

"Dylai Bupa fod yn effro i'r cysyniad o orfod cynnal ei fusnes yng Nghymru mewn modd sydd yn golygu parchu dewis staff i ddefnyddio'r Gymraeg gyda chyd-weithwyr. At y diben hwn, awgrymaf y dylai'r cwmni fabwysiadu polisi ar ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithleoedd a gynhelir yng Nghymru."

'Ymddiheuro am unrhyw dramgwydd'

Dywedodd llefarydd ar ran Bupa Dental Care bod y cwmni'n ymddiheuro am "unrhyw dramgwydd a achoswyd".

"Mae'n hawl i bawb ddefnyddio iaith eu magwraeth yn y gweithle, yn ogystal â sicrhau nad yw cydweithwyr yn teimlo dan fygythiad a'u bod wedi eu cynnwys, ac yn gallu ymuno yn y sgyrsiau hefyd fel y gallan nhw deimlo'n ddiogel ac yn rhan o'r tîm yn y gwaith."

"Rydyn ni wedi gweithredu cyngor i sicrhau bod pob cydweithiwr yn ymwybodol bod gan bawb yr hawl i gyfathrebu yn iaith eu hunain yn y gweithle."