Awtistiaeth: 'Amser caled am bod plant ni'n wahanol'

  • Cyhoeddwyd
LlionFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llion yn 15 oed, ac wrth ei fodd gyda byd natur

Mae Oswyn Williams a'i fab Llion sy'n 15 oed wrth eu boddau'n mynd allan bob dydd i edrych ar fyd natur.

Mae gan Llion awtistiaeth. ac mae ei frawd mawr Owain sy'n 22 a'i chwaer fach Seren sy'n 12, yn awtistig hefyd.

Yn ôl tad Llion, Oswyn, sy'n byw yng Ngwalchmai, Ynys Môn: "Byd natur ydi dihangfa fo... os ydi o'n cael mynd allan o'r tŷ ben bora, tan beth dwytha' yn nos, mae o'n hapus."

Ond mae hefyd yn dweud bod y teulu "'di bod drwy amser caled iawn efo pobl eraill, am bo plant ni'n wahanol".

"Da ni 'di mynd i gaffi a ma' pobl yn dechra sbïo achos ma'r hogia yn tueddu i fedru 'neud synau ac yn hymian a ballu... da ni di cael pobl yn cerdded allan o caffis ddim isho 'ista wrth eu hochrau nhw."

A hithau'n wythnos codi ymwybyddiaeth o awtistiaeth, mae Oswyn a theuluoedd eraill eisiau dathlu fod pawb yn wahanol.

Dywedodd wrth Cymru Fyw: "Ma nhw'n sbeshal, 'swn i ddim yn newid nhw am y byd."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu

Byd natur a gwaith adeiladu ydy prif ddiddordebau Llion, ac mae'r tad a'r mab yn rhannu'r un cariad.

Eglura Oswyn: "Fyddai'n dod adra o ngwaith 17:00 o Fae Colwyn a ma' Llion ar binau mân... mae o'n disgwyl amdana i wrth drws, dwi ddim hyd yn oed yn cael mynd mewn am banad.

"Mae o'n neidio efo fi yn y fan a 'da ni allan tan tua 19:30 - bob awr o ola' dydd gawn ni.

"Mae o 'di bod yn blesar mawr i mi. Dwi 'di bod yn naturiaethwr ers dwi'n ddim o beth a Llion 'run fath ers o'dd o tua dwy oed."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Oswyn dros 50,000 o luniau natur mae o wedi eu tynnu hefo Llion

"Bob dim sy'n byw ar lawr, mae o'n gwbod be ydi o. Dydi o ddim yn ddyn adar mawr... ma' rheiny'n mynd rhy sydyn iddo fo, mae o'n licio petha allith o afael ynddyn nhw i stydio nhw."

Dywedodd Llion wrth raglen Aled Hughes: "Y pethau dwi'n licio weld ydi wiberod a slow worms a llyffantod. Mae 'na blodau a japanese knotweed yma sy'n dod o Japan, China, Thailand a South Korea... bobman."

Adeiladwr ydy Oswyn ac mae Llion yn gweithio hefo'i dad. "Mae o'n hoffi mynd ar y cango a malu petha, tynnu adeiladau i lawr.

"A wedyn fydd rhaid i fi ddeud wrtho fo am bump i ddarfod 'wan neu 'sa fo yna tan naw y nos!"

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Llion yn mwynhau helpu ei dad yn ei waith fel adeiladwr

Mae gan Oswyn bump o blant ac mae gan dri ohonyn nhw awtistiaeth.

Mae mab hynaf Oswyn, Owain, yn 22 oed ac mae o newydd gael ei swydd gyntaf yn Ysbyty Gwynedd.

"Ma' bob un ohonyn nhw'n hollol wahanol, ma'n unigryw i bob un."

Tra bod ei ferch 12 oed, Seren, yn mwynhau darllen a dysgu am y gofod, "pêl-droed a James Bond ydi petha' Owain... sa fo'n gallu ateb unrhyw gwestiwn am James Bond".

"'Da ni wedi bod trwy lot... i ddechra, doeddan ni ddim yn gwbod dim byd pan o'dd y plant yn ifanc a pan nathon nhw ddechrau tyfu, nathon ni weld bod rhywbeth o'i le ond da ni wedi dysgu i fyw efo fo a dysgu i addasu iddo fo."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Oswyn yn dweud bod ei blant yn "sbeshal... 'swn i ddim yn newid nhw am y byd"

Ychwanegodd Oswyn: "Mae'n bwysig mwynhau'r plant bach 'ma a dallt mwy ohonyn nhw. Da ni 'di bod drwy amser caled iawn 'efo pobl eraill... bo' plant ni'n wahanol.

"Da ni 'di mynd i gaffi a ma' pobl yn dechra sbïo achos ma'r hogia yn tueddu i fedru neud synau ac yn hymian a ballu... da ni di cael pobl yn cerdded allan o caffis ddim isho ista wrth eu hochrau nhw.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Ers yn blentyn, mae Llion wedi mwynhau gweithio a threulio amser yn edrych ar fyd natur

"Dwi 'di gorfod gofyn i fwy nag un cyn heddiw os oeddan nhw angen cymeryd llun o'r plant am eu bod yn syllu cyn gymaint... dwi di dysgu sut ma' anwybyddu pobl, a hefyd ei weld yn hawsach pan dwi'n esbonio i bobl beth sydd o'i le.

"Mae'r rhan fwyaf yn gefnogol wedyn ac yn ymddiheuro am eu camddealltwriaeth, ond ar y cyfan mae y tri yn hogia da iawn i ni, ag yn ffrindia mawr â'i gilydd.

"A fyswn i ddim yn newid dim amdanynt, y fi pia nhw a dwi'n eu caru nhw yn ddi-ben."

'Un o'r pethau anodda' ydi ymateb pobl eraill'

Mae Elin Llwyd Morgan yn fam i Joel, sy'n awtistig. Yn 27 oed, mae Joel yn byw mewn cartre preswyl ym Mryniau Clwyd.

Ffynhonnell y llun, Elin Llwyd Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Joel yn ei seremoni gadael Ysgol Plas Brondyffryn yn 2015 gyda'i fam Elin a'i dad Peris

Dywedodd Elin wrth Cymru Fyw: "Un o'r pethau anodda' am fod yn rhiant i blentyn awtistig oedd ymateb pobl eraill a'u diffyg dealltwriaeth a goddefgarwch.

"Am fod Joel yn edrych yn 'normal', roedd pobl yn dueddol o feddwl ei fod yn hogyn drwg neu ddrygionus a bod ganddon ni fel rhieni ddiffyg disgyblaeth.

"Dwi'n cofio dweud wrth rywun un tro bod Joel yn awtistig ac ymateb sarcastig y dyn oedd, 'There's always one isn't there', fel petawn i'n gwneud esgus drosto.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Un o hoff bethau Joel ydy mynd i barc trampolîn

"Dro arall roedd dwy ferch yn yr ysgol Sul yn piffian chwerthin am ben Joel oherwydd ei fod yn gwneud synau a stimio, sef fflapio neu wneud stumiau ailadroddus...

"Mi rythais arnyn nhw'n flin a gofyn be' oedd y broblem. Cochodd y ddwy gan ysgwyd eu pennau ac edrych wedi dychryn!

"Dwi'n difaru na faswn i wedi gwneud mwy o hynny yn lle gadael i ymateb pobl eraill fy mhoeni i, ond mae'n medru bod yn anodd, a tydi rhywun ddim isio tosturi pobl chwaith, jyst iddyn nhw dderbyn plant a phobl awtistig fel y maen nhw."

'Mae angen addysgu rhieni'

Mae mab Brenda Jones, Dewi, yn awtistig ac mae'n dweud eu bod nhw hefyd wedi cael pobl yn syllu arnyn nhw.

Yn 28 oed, mae Dewi'n byw mewn tŷ cymunedol ers rhyw dair blynedd.

Dywedodd Brenda, sy'n byw yn Rhuthun: "Gall Dewi fod yn swnllyd yn gyhoeddus. Tynnu ei sylw fo sydd angen - rhoi rwbath iddo fo i wneud.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Brenda a Dewi ym Mhorthdinllaen

"Fel arfer mae hyn yn ddigon, ond gall popeth fynd ar chwâl os oes plant bach o gwmpas.

"Dwi'n dalld pam eu bod nhw'n syllu ar Dewi, ond y mwya' maen nhw'n syllu, y mwyaf swnllyd fydd Dewi. Mae o'n mynd i'w gilydd."

"Dwi'n cofio chwaer i ffrind - cyflwr Downs oedd arni hi - oedd wrth ei bodd yn mynd allan am fwyd. Ond yn anffodus, roedd hi'n teimlo bod pawb yn syllu arni, felly mi wrthododd fynd. Dyna un o'r unig bleserau oedd ganddi.

"Mae angen addysgu rhieni sydd ddim yn ymwybodol o'r effaith gall eu plentyn gael ar unrhyw un sydd yn 'wahanol'. A does dim ots gen i gymryd rôl yr 'addysgwr'."

Pynciau cysylltiedig