Gohirio gwerthu Eglwys y Blygain Fawr am flwyddyn
- Cyhoeddwyd
Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi gohirio gwerthu eglwys blwyf Llanfihangel-yng-Ngwynfa am flwyddyn.
Yn ystod yr oriau diwethaf mae cannoedd o bobl wedi arwyddo deiseb yn galw am ddiogelu'r eglwys - lle cafodd yr emynydd Ann Griffiths ei bedyddio a'i chladdu.
Roedd Esgobaeth Llanelwy yn bwriadu gwerthu Eglwys Mihangel Sant - eglwys blwyf Llanfihangel-yng-Ngwynfa - mewn arwerthiant ar 11 Ebrill.
Roedd hi ar werth am £30,000.
Cynnal 'trafodaethau pellach'
Ond brynhawn Gwener dywedodd llefarydd ar ran Corff Cynrychioladol yr Eglwys yng Nghymru: "Y mae Eglwys Mihangel Sant, sy'n dyddio o'r 1860au, wedi bod ar gau ers mis Ionawr 2020, ar ôl i'w chostau atgyweirio strwythurol gynyddu y tu hwnt i gyrraedd adnoddau'r gymuned addoli leol.
"Yn ôl y cynllun gwerthiant, fe fyddai mynediad cyhoeddus i'r fynwent, gan gynnwys cofeb Ann Griffiths (1776-1805), yn cael ei ddiogelu.
"Gan fod diddordeb yn nyfodol yr adeilad wedi cael ei fynegi o'r newydd, bydd Corff Cynrychioladol yr Eglwys yng Nghymru yn gohirio'r ocsiwn am flwyddyn fel y gall trafodaethau pellach ddigwydd.
"Croesewir cynigion a fydd yn rhoi opsiynau ar gyfer yr eglwys hon, ac fe ddylai'r sawl sydd â diddordeb gysylltu â'r Corff Cynrychioladol."
Cyn y cyhoeddiad ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru, dywedodd y Cynghorydd Elwyn Vaughan o Ddyffryn Dyfi: "Mae'r eglwys ar werth ar ocsiwn a hynny yn fyr-rybudd, a felly bod 'na ddim cyfle wedi bod i bobl wyntyllu cyfleon be' gellid gwneud efo'r safle arbennig yma."
Mae'r eglwys wedi bod ynghau ers blynyddoedd oherwydd cyflwr yr adeilad, ac mae'r Cynghorydd Vaughan yn cydnabod y byddai angen gwario arian i adnewyddu'r safle.
"'Da ni'n gweld bod brwdfrydedd ar y cyfryngau cymdeithasol a phobl eisiau achub a chadw'r adeilad arbennig yma.
"Ond y realiti ydy bod gan yr eglwys yma - fel sawl eglwys a chapel - gostau sylweddol ac felly mae angen amser i bwyso a mesur i weld be ydy'r cyfleon - lle mae'r adnoddau ar gael i wneud unrhyw beth a pha gynlluniau cynaliadwy fyddai ar gael ar gyfer y dyfodol."
'Angen prynu amser'
Ychwanegodd: "Un peth ydy achub y lle, ond wrth gwrs, be' maen nhw'n gwneud efo'r gofod yna wedyn ydy'r cwestiwn mawr.
"Be' dwi wedi awgrymu, gan fod amser yn fyr, fyddai gofyn i'r Eglwys yng Nghymru a fydden nhw'n fodlon oedi efo'r gwerthiant ocsiwn yma i drafod efo grwpiau posib ynghylch gweld defnydd newydd i'r adeilad arbennig yma?
"Gan fod Eisteddfod yr Urdd o fewn 50 diwrnod ac o fewn tafliad carreg i Lanfihangel, fyddai hynny'n gyfle da iawn i drafod syniadau.
"Os nad oes 'na rywbeth cynaliadwy yn dod yn amlwg, mi fyddai dal yn opsiwn rhoi o ar werth.
"Prynu amser i weld be' 'di'r cyfleon - dyna sy' angen."
Ann Griffiths o Ddolwar Fach ydy un o emynwyr mwyaf adnabyddus Cymru, gan ysgrifennu emynau fel 'Wele'n sefyll rhwng y Myrtwydd'.
Roedd hi'n rhan o'r diwygiad Methodistaidd ar ddiwedd y 18fed ganrif.
Cafodd hi ei bedyddio yn Eglwys Llanfihangel-yng-Ngwynfa, cyn priodi yno, ac fe gafodd ei chladdu ar dir yr eglwys yn 1805.
Yr hyn mae'r ddeiseb yn galw amdano ydy "atal gwerthiant Eglwys Mihangel Sant, eglwys blwyf Llanfihangel-yng-Ngwynfa, Powys".
Dywed y ddeiseb: "Yn ein tyb ni, mae gan yr Eglwys hon le arbennig yn hanes Cymru... yma y bu'r emynydd Ann Griffiths yn addoli. Ystyrir hi ymhlith y mwyaf o feirdd crefyddol Ewrop.
"Rydym yn grediniol, bod gan un o sefydliadau crefyddol mwyaf ein gwlad, y modd ariannol i atal y gwerthiant hwn.
"Gan fod yr arwerthiant yn digwydd mewn cwta wythnos (Ebrill 11 2024), credwn nad oes digon o amser i gychwyn ymgyrch genedlaethol i arbed yr adeilad i'r genedl.
"Rydym felly'n datgan bod rhaid atal y gwerthiant, a hynny er mwyn darganfod ffurf a ffynonellau gwahanol i achub yr adeilad pwysig hwn."
Un arall oedd yn anfodlon oedd y cerddor Lleuwen Steffan.
Dywedodd ar ei chyfrif X: "Eglwys Ann Griffiths, mae ei chofeb yn y fynwent.
"Does dim sôn amdani yn hysbyseb y gwerthwyr tai, er iddi gael ei bedyddio, priodi a chladdu yno, fel petai dim gwerth ar gyfoeth hanes Cymru.
"Does dim sôn am le'r eglwys hon yn nhraddodiad y plygain - lle cynhelid 'y Blygien Fawr' ar ddiwedd tymor y plygeiniau.
"Bu'n cynnal gwasanaethau plygain ers y drydedd ganrif ar ddeg. Dim gair am hyn wrth iddyn drio gwerthu'r lle. Mae'n siarad cyfrolau am gyflwr Cymru.
"Mi wn i bod trigolion yr ardal wedi gofalu am yr eglwys a bod yna waith atgyweirio dibendraw a phwy sy'n medru fforddio rhoi amser a phres i brosiect mor fawr â hwn.
"Does gen i ddim atebion."
'Symptom o ddiboblogi a dirywiad cefn gwlad'
Yn ôl y Cynghorydd Elwyn Vaughan, mae'r sefyllfa yn arwydd o broblem ehangach.
"Be' 'da ni'n weld fan hyn ydy symptom o ddiboblogi a dirywiad cefn gwlad, fel sy'n wir mewn sawl ardal arall.
"Y cwestiwn ydy sut ydan ni'n wynebu'r her arbennig hynny, ac mae'n ddigon posib bod angen cymorth a manteisio ar y brwdfrydedd sy'n dod o bob cwr o Gymru a thu hwnt i gefnogi ymdrechion lleol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2020