Ateb y Galw: Molly Palmer

  • Cyhoeddwyd
mollyFfynhonnell y llun, Molly Palmer

Y cyflwynydd Molly Palmer sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma.

Mae gan Molly ei rhaglen ei hun ar BBC Radio Wales ac mae hi hefyd i'w gweld ar Hansh ac S4C.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Mynd i Dan-yr-Ogof pan o'n i'n bum mlwydd oed. O'n i'n sgrechian fy mhen bant achos odd "gwaed" ar ddannedd y deinosoriaid.

'Nath Dad ddringo lan ar y deinosor i ddangos i fi odd e'n ffug a dweud taw saws coch a jam odd ar ddannedd y deinasor. Heb fwyta saws coch neu jam ers 'ny!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Adre - Cwmaman! Caru'r cymoedd.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Byse fi byth yn gallu dewis! Wedi cael sawl noson eithaf unhinged ac eiconig yn fy mywyd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae rhaglen Molly i'w chlywed ar Radio Wales bob nos Fawrth

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Angerddol, anhrefnus a chymdeithasol.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Es lawr i'r Mwmbwls gyda'r teulu ar ein beics un dydd yn ystod yr haf pan o'n i yn fy arddegau. Odd llys-tad fi 'di bod yn ceisio gwthio fi bant o fy meic trwy'r dydd. Ar ôl i ni gyrraedd hanner ffordd i'r man diwedd, 'nath e bumpo mewn i fi a nes i rili wobblo.

Yn y cyfamser, odd e'n edrych yn ôl arna i a chwerthin, ond o'dd e ddim yn ymwybodol bod e'n gyrru tuag at lampost. Erbyn iddo fe droi rownd odd e'n rhy hwyr, ac aeth e syth mewn i'r lampost a dros y handlebars o flaen pawb odd yn aros mewn traffig. KARMA.

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Ges i houseparty masif pan o'n i'n 16. O'dd Mam ar wyliau ac mi wnes i wahodd hanner Aberdâr i'r tŷ. Odd e'n carnage a nath Mam ffeindio mas yn y diwedd, hyd yn oed ar ôl clean-up operation y ganrif. O'dd rhaid i fi fynd o gwmpas y stryd yn cnocio drws pawb i ymddiheuro yn ogystal â bod yn grounded am sawl wythnos. Y siom.

Ffynhonnell y llun, Molly Palmer
Disgrifiad o’r llun,

Mae Molly hefyd yn aml yn cael ei gweld yn DJio'n fyw o flaen cynulleidfaoedd

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Wythnos diwethaf! Dwi'n crïo'n aml iawn!

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dechrau llyfr ac wedyn dechrau llyfr arall cyn gorffen yr un blaenorol. Mae gen i 10+ llyfr dwi angen gorffen!

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Dwi'n gwrando ar/gwylio lot o gynnwys true crime. Hoff bodlediad fi yw Casefile True Crime.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?

MARILYN MONROE! Cwîn! Dwi'n hollol obssesed gyda hi ac wedi bod ers o'n i'n blentyn.

Ffynhonnell y llun, Molly Palmer
Disgrifiad o’r llun,

Mae Molly'n gyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Rhydywaun yng Nghwm Cynon

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Dwi'n hyfforddwr nofio cymwysedig, ond heb ddysgu am sawl blwyddyn nawr.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Mynd am farbeciw ar y traeth gyda theulu a ffrindiau, nofio yn y môr a gwrando ar fy hoff ganeuon i full blast.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Llun yma o fy Nhad ar ei feic modur. 'Nath e farw pan o'n i'n 11, ond mae'r llun yma ohono fe yn 'neud un o'i hoff bethau yn y byd yn codi gwên pob tro.

Ffynhonnell y llun, Molly Palmer
Disgrifiad o’r llun,

Llun pwysig i Molly; ei thad ar gefn beic modur

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Lady Gaga. Mae hi'n absoliwt EICON.

Hefyd o ddiddordeb: