Cofnod y Senedd: 'Opsiwn uniaith diangen a diffyg cyfieithu'
- Cyhoeddwyd
Mae cynnig opsiwn uniaith Saesneg o gofnod ysgrifenedig cyfarfodydd llawn y Senedd yn "gamarweiniol ac yn artiffisial" meddai arbenigwr ar ddwyieithrwydd.
Ac ar wahân, mae Cymdeithas yr Iaith yn beirniadu'r ffaith bod cofnod y pwyllgorau yn cynnwys cyfieithu Cymraeg i Saesneg yn unig.
Dywedodd Comisiwn y Senedd - sy'n rhedeg y sefydliad o ddydd i ddydd - bod eu polisi cyfieithu yn "sicrhau gwasanaeth gwych a gwerth am arian i'r cyhoedd".
Mae Cofnod y Trafodion yn drawsgrifiad gair am air o gyfarfodydd llawn y Senedd pan mae'r 60 AS yn cwrdd yn y Siambr, ac o gyfarfodydd pwyllgorau, fel Hansard yn San Steffan.
Ers 2016 mae'r Senedd yn cynnig yr opsiwn o ddarllen cofnod cyfarfodydd llawn yn Saesneg yn unig neu yn Gymraeg yn unig, yn ogystal â'r fformat dwyieithog.
Rhwng 1999 a 2016 bu'r Cynulliad, fel yr oedd yn cael ei alw bryd hynny, yn darparu'r cofnod o gyfarfodydd llawn yn y fformat dwyieithog yn unig, sef yr ieithoedd mewn colofnau cyfochrog, gyda'r iaith a gafodd ei llefaru ar y chwith a'r cyfieithiad ar y dde.
Os yw Aelod o'r Senedd yn siarad Cymraeg mewn cyfarfod llawn mae cyfieithiad Saesneg yn y cofnod ar unwaith, ond ar gyfer cyfraniadau Saesneg rhaid aros hyd at dri diwrnod gwaith ar gyfer y fersiwn derfynol gwbl ddwyieithog.
Dywedodd Dr Peredur Webb-Davies, uwch ddarlithydd mewn ieithyddiaeth ym mhrifysgol Bangor, y byddai'n "gwneud mwy o synnwyr i gael y fersiwn dwyieithog yn unig, am ei fod yn cyfleu amgylchedd ieithyddol y Senedd a Chymru, ac yn fwy defnyddiol".
'Diffyg'
Dywedodd Siân Howys ar ran Cymdeithas yr Iaith, "does dim posib i'r Senedd allu weithio'n gwbl ddwyieithog heb gofnod dwyieithog llawn o'i holl waith, gan gynnwys cyfarfodydd y pwyllgorau.
"Mae'r diffyg yma'n llesteirio mynediad y cyhoedd at waith y Senedd ac yn llesteirio gwaith Aelodau o'r Senedd ac unrhyw gyrff neu unigolion eraill sy'n cymryd rhan ynddyn nhw".
Mae 18 o bwyllgorau, sy'n craffu ar wariant a pholisïau Llywodraeth Cymru, dwyn y gweinidogion i gyfrif, a chraffu ar ddeddfwriaeth arfaethedig.
Ychwanegodd Siân Howys bod cofnod y pwyllgorau yn "cymryd yn ganiataol pob pawb yn gallu ac eisiau gweithio trwy gyfrwng y Saesneg, sy'n anghywir, ac yn mynd yn erbyn cynlluniau'r llywodraeth i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg erbyn 2050".
'Pwysig bod y Gymraeg yn cael ei gweld'
O ran y cyfarfod llawn, esboniodd Dr Webb-Davies mai "mantais cofnod dwyieithog yw ei fod yn gorfodi darllenwyr i wynebu'r Gymraeg ac yn sicrhau eu bod yn deall bod y Gymraeg yn iaith sy'n cael ei defnyddio yn y Senedd".
"Mae Cymru yn ymfalchïo mewn bod yn wlad ddwyieithog. Ac fel iaith leiafrifol, mae presenoldeb y Gymraeg ac amlygiad yr iaith yn bwysig.
"Mae'n bwysig bod y Gymraeg yn cael ei gweld, gan gynnwys y tu allan i Gymru.
"Prin yw'r bobl sy'n gwbl uniaith Saesneg, achos maen nhw'n gweld arwyddion dwyieithog ac yn clywed y Gymraeg.
"Mae cofnod dwyieithog yn cyfleu amgylchedd ieithyddol y Senedd a Chymru, ac yn fwy defnyddiol".
Ychwanegodd Dr Webb-Davies ei fod yn "broblem" nad yw'r fersiynau uniaith o gofnod y cyfarfodydd llawn yn nodi a ydych yn darllen yr iaith a lefarwyd neu gyfieithiad.
"Mae gwahaniaeth rhwng iaith a lefarwyd a chyfieithiad, mae'n bwysig gwybod pa un ydyw.
"Hefyd, mae gwybod pa iaith a lefarwyd yn sicrhau dealltwriaeth o'r dewis ieithyddol a wnaed gan Aelodau o'r Senedd," meddai Dr Webb-Davies.
Ymatebodd llefarydd ar ran y Senedd, "mae Comisiwn y Senedd yn darparu gwasanaeth cyfieithu cynhwysfawr sydd yn cyhoeddi holl drafodaethau'r siambr ar ein gwefan yn y Gymraeg a'r Saesneg.
"Mae ein polisi cyfieithu yn un hir-sefydlog sydd yn sicrhau gwasanaeth gwych a gwerth am arian i'r cyhoedd."
Dim ond 8% o'r cyfraniadau mewn cyfarfodydd pwyllgorau'r Senedd oedd yn Gymraeg yn 2022-23, tra bod canran y cyfraniadau Cymraeg mewn cyfarfodydd llawn yn 30%.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ebrill
- Cyhoeddwyd31 Ionawr
- Cyhoeddwyd26 Awst 2020