Pum munud gyda... Scott Quinnell

Scott Quinnell
  • Cyhoeddwyd

Mae Scott Quinell yn wyneb cyfarwydd i gefnogwyr rygbi.

Mae wedi cynrhychioli Cymru, Y Llewod, Y Scarlets, Llanelli a Richmond ar feysydd gêm yr undeb, ynghyd â Widnes a Chymru yn rygbi’r gynghrair. Ers ymddeol o’r meysydd chwarae mae wedi mynd ati i ddysgu Cymraeg.

Cymru Fyw fu’n siarad gyda’r cawr o wlad y sosban i weld sut mae’n ymdopi ar ei daith gyda’r iaith.

Beth wnaeth dy ysgogi di i ddechrau dysgu Cymraeg?

Roedd e’n rhywbeth ro’n i wastad wedi eisiau ei wneud. Daeth y cyfle cyntaf pan 'nes i ymddangos ar y rhaglen Iaith Ar Daith. Roedd angen i mi 'neud cwpwl o sesiynau gydag Aron Jones o'r wefan Say Something In Welsh, yna ges i fy mharu gyda Sarra Elgan cyn cael fy nhaflu mewn i’r deep end.

Fe fuon ni’n gwneud pob math o bethau fel cerdded gyda fferets a darllen i gathod. Mae darllen i gathod fel darllen i gŵn heblaw am y ffaith eu bod nhw ddim yn becso cymaint a mae cathod yn fwy beirniadol! Ro’n i’n canolbwyntio cymaint 'sai’n credu wnaeth fy ffrindiau blewog ddeall un gair nes i 'weud!

Ges i sbort yn 'neud y rhaglen.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Scott gyda Sarra Elgan ar y rhaglen Iaith ar Daith

Sut effeithiodd Covid ar dy ymdrechion cynnar gyda’r iaith?

Fe gollon ni’r diwrnod olaf yn recordio Iaith Ar Daith ac os dwi’n onest fe wnaeth y cyfnod clo arafu pethau eitha’ tipyn. Dwi y math o berson sy’n lico siarad gyda pobl ac roedd hi’n anoddach bryd hynny.

Mae’r 13 mis diwethaf wedi bod yn grêt achos dwi wedi ail-gydio gyda’r dysgu. Dwi’n gwrando ar Radio Cymru ac yn gwylio S4C er mwyn clywed a trial deall mwy o’r iaith. Dwi’n dwlu pan mae pobol yn dod lan i siarad Cymraeg gyda fi ar y stryd neu mewn siopau. Mae’n rhoi hyder i fi ac iddyn nhw os maen nhw hefyd yn dysgu.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Scott yn cynrychioli Cymru

Sut brofiad yw gwneud rhaglen Cais Quinell? Ydy e’n waith caled?

Mae e’n un o’r pethau anodda’ dwi erioed wedi ‘neud! Ond dwi wedi joio cymaint hefyd. Maen nhw’n rhoi tasgau i fi a dwi’n trial 'neud nhw tra’n trial dysgu mwy o Gymraeg. Yn y gyfres olaf fe nes i gerdded lan mynydd wedi gwisgo fel nun gyda Maggi Noggi mewn ffrog llawn secwins. Ro’n i wedi blino pan es i nol i’r gwesty’r noson honno!

Dwi wrthi’n gwneud yr ail gyfres ar hyn o bryd a mae e ‘di bod yn brilliant. Dwi wedi bod yn dawnsio ballroom, neud graffiti, canu a dwi wedi trial land yachting pan ti’n eistedd mewn go-kart tair olwyn gyda wind surfer uwch dy ben di! Roedd hwnna’n anhygoel!

Dwi’n dysgu sgiliau newydd tra’n cwrdd â phobl sydd mor passionate am beth maen nhw’n 'neud.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Scott wedi gwisgo fel lleian ar gyfer ei raglen Cais Quinnell

Pan oeddet ti yn 36 oed mi wnes di ddarganfod fod gen ti dylecsia a dyspraxia. Faint o sioc oedd hyn?

Roedd Nicola fy ngwraig yn helpu ffrind i deipio’i thraethawd hir ar gyfer ei gradd am dyslecsia a 'naeth hi ddweud dylen i fynd am sgwrs gyda rhywun yn y maes. Do’n i ddim yn gallu darllen na sgwennu’n iawn wrth dyfu lan a phan ges i’r diagnosis wnaeth e dawelu’r meddwl. O leia' ro’n i’n gwybod beth oedd yn achosi’r trafferthion a beth gallen i 'neud am y peth.

Mae dyspraxia’n effeithio dy allu i gydsymud. Byddet ti’n meddwl byddai hynny wedi effeithio fy ngyrfa rygbi ond yn ffodus i fi ro’n i’n cwmpo dros ben pobl ar y cae felly 'naeth e ddim cael effaith negyddol ar fy ngêm i! Pan mae gen ti dyspraxia mae’n cymryd mwy o amser i ti neud pethau, bron i dair gwaith yn hirach fel arfer.

Wyt ti wedi meddwl am gyfuno rygbi a’r Gymraeg ar gyfer prosiect arbennig?

Do. Mi nes i neud rhaglen ar gyfer S4C o’r enw Stryd I’r Sgrym ble ro’n i’n dod â phob math o bobl o gefndiroedd a gallu rygbi gwahanol at ei gilydd. Y nod oedd creu tîm i chwarae rygbi T1, neu touch rugby. Mae pobl yn wynebu pob math o sialensiau yn eu bywydau ac ry’n ni eisiau iddyn nhw i weithio fel tîm, ymarfer yn galed ac i chwarae’n erbyn tîm o Loegr ar faes Old Dear Park, Y Cymry’n Llundain.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Aelodau tîm T1 Scott

Beth yw dy gynlluniau di ar gyfer y dyfodol?

Dwi’n gwneud lot o siarad cyhoeddus ar gyfer ciniawa ac i ysgogi pobl i 'neud pethau newydd gyda’u bywydau neu ar gyfer eu gwaith. Byddai’n hyfryd gallu 'neud araith yn y Gymraeg rhywbryd.

Dwi ar fin mynd i Gaerfyrddin er mwyn saethu eitem cwryglau ar gyfer ail gyfres Cais Quinell. Sink or swim fydd hi!

Beth yw dy gyngor ar gyfer unrhywun sydd eisiau dysgu Cymraeg?

Ewch amdani! Peidiwch poeni am wneud camgymeriadau, mae’n rhan o’r broses dysgu. Siaradwch gyda chymaint o bobl â phosib. Dwi’n dal i ddysgu pethau newydd. Mae pobl yn dysgu Cymraeg ar draws y byd ac ry’n ni angen helpu nhw a’n gilydd i gael mwy o siaradwyr. Dwi’n dal i siarad gydag Aron Jones a dwi’n teimlo mod i wedi dod yn rhan o gymdeithas newydd. Mae e lan i ni annog a chefnogi dysgwyr newydd.