Artist eisiau dangos bod 'mwy i Ynys Môn na thirwedd hyfryd'

"Mae pobl yn gallu dod i'r ynys ar eu gwyliau am flynyddoedd a byth siarad â'r bobl leol," meddai Celia
- Cyhoeddwyd
Mae artist sy'n byw yn Ynys Môn wedi creu portreadau o rai o drigolion yr ynys er mwyn "dathlu cymaint o bobl ddiddorol".
Mae Celia Hume yn gobeithio y bydd pobl yn mwynhau gweld portreadau o'u hunain neu o bobl y maen nhw'n eu hadnabod.
I gyd-fynd â phob portread, mae yna gyfweliadau gyda'r bobl sy'n rhannu ychydig o'u hanes personol.
"Mae mwy i'r ynys na thirwedd hyfryd, mae'r bobl yn wych ac yn ei gwneud hi'n lle hyfryd i fyw hefyd," meddai Celia.

Gwynfor Griffiths: "Mam yn talu ffêr trên i mi fynd lawr i Gaerdydd [i neud arholiad celf i ddod yn athro] a dyma fi'n gneud llun blodau a rhoi gloyon byw ar ben y blodau... Pythefnos wedyn 'Duw da chi di pasio'r arholiad, dewch yma am bum mlynedd fel athro celf' ond doedd dim grant i gael felly dyna ddiwedd ar y stori yno. Mynd i'r army wedyn"
Yn wreiddiol o Sir Amwythig, mae Celia yn artist batic cyfoes sydd wedi byw ym Marian-glas ar yr ynys ers 2021.
"Chi'n gweld gymaint o luniau o'r dirwedd ar-lein yn dydych chi? Ac ar y funud mae pobl yn teimlo bod gormod o luniau o Ynys Llanddwyn gyda nifer yr ymwelwyr yn broblem i rai," meddai.
"Ar ôl byw yma a chwrdd â chymaint o bobl hyfryd a diddorol – meddylais y byddai'n hyfryd os oedd portreadau o'r bobl."

Margaret Wood: "Rwy'n ddaearegwr ac ro'n i'n arfer dod â grwpiau o ddisgyblion neu fyfyrwyr yma bob blwyddyn ac yn y diwedd penderfynais mai dyma le ro'n isio byw oherwydd y creigiau. Flynyddoedd lawer yn ôl des i o hyd i'r ffosilau hynaf yn y Deyrnas Unedig yn Ynys Môn"
Cafodd Celia gymorth gan drigolion yr ynys i wireddu ei syniad.
Mewn grŵp a sefydlwyd gan Celia er mwyn ymarfer ei Chymraeg gyda phobl leol ym Menllech, y daeth hi i adnabod Ieuan Williams.
"Roedd o'n hoffi'r syniad ac mae o wrth ei fodd â hanes yr ynys, a gan ei fod yn 'nabod llawer yn yr ardal, roedd o'n gallu fy helpu i ffeindio pobl ar gyfer y prosiect" meddai.
"Beth sy'n sbesial yw 'nath o gyfweld â phob un o'r bobl yn y portreadau ac mae'r cyfweliadau'n rhannu eu hanes nhw."

Phil Blake: "Hogyn pentra' go iawn 'lly. Yn blentyn o'dda ni'n mynd i Hermon lot, lôn-goed o' nhw'n galw o a mynd i chwarae i'r coed. O'n i'n gorfod mynd â ci fy ewythr... a ro'dd 'na geirw yna weithia, a odda ni'n mynd i guddiad ac roedda' ni'n gallu gweld y ceirw'n pasio"
Mae Celia yn disgrifio ei hun ei fel artist batic cyfoes sy'n defnyddio tecstilau a lliwiau amrywiol yn ei gwaith.
Dechreuodd arbrofi gyda chelf batic yn ystod y cyfnod clo ac ers hynny "roeddwn i wedi fy ngwirioni gyda'r posibiliadau diddiwedd".
"Rwy'n gyffrous i'r bobl weld y portreadau, roedd e'n emosiynol iawn cerdded mewn a gweld nhw i gyd yno".
Mae Celia'n gobeithio y bydd yn brofiad "cyffrous a hwyl i bobl" ac yn awyddus iawn i barhau i bortreadu pobl yr ynys ac ychwanegu at y casgliad.
Mae'r arddangosfa i'w gweld yn Oriel Môn rhwng dydd Sadwrn 3 Mai ac 15 Mehefin.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd18 Ebrill