Dicw'r Ddraig gan Gruffudd - stori fuddugol Radio Cymru
- Cyhoeddwyd
Gruffudd o Ysgol Bro Preseli yw un o enillwyr Cystadleuaeth Sgwennu Stori Aled Hughes ar BBC Radio Cymru eleni.
Daeth Gruffudd yn fuddugol yn adran Cyfnod Allweddol 2A. Yr awdures Casia Wiliam oedd y beirniad mewn cystadleuaeth gref. Y gofynion oedd ysgrifennu stori dan y thema hud a lledrith.
Fel gwobr, fe luniodd yr artist Joshua Morgan (Sketchy Welsh) lun clawr i stori Gruffudd.
Mwynhewch stori Gruffudd, Dicw'r Ddraig.
Dicw'r Ddraig
“Dere Trystan,” gwaeddodd Tudur.
Dau fachgen anturus oedd wrth eu bodd yn chwarae yn y goedwig ger pentref Sychpant oedd Trystan a Tudur. Un diwrnod, daethant ar draws y goleuni mwyaf llachar a welwyd erioed, yn disgleirio fel pelydrau’r haul yn tasgu ymhobman. Yn y pellter roedd sŵn rhaeadr a sibrwd y coed yn yr awel ysgafn.
“Beth oedd y sŵn yna Tuds?” cwestiynodd Trystan.
“Pa sŵn? Glywais i ddim!” atebodd Tudur.
Wrth agosau at sŵn y rhaeadr gwelwyd draig ifanc yn gorwedd wrth ymyl pwll crisial-glir.
Draig yn wahanol i unrhyw un roedden nhw erioed wedi’i gweld, roedd ganddo raddfeydd amryliw fel yr enfys, ond doedd ganddo ddim breichiau na choesau.
“Helo,” meddai Trystan gan gamu yn araf. “Paid â bod ofn.”
Agorod y ddraig ei llygaid, a dechreuodd siarad mewn llais addfwyn.
“Dicw ydw i. Rwy’n byw yma ar fy mhen fy hun, dwi methu symud yn bell,” dywedodd yn ddigalon.
Chwaraeodd y ddau gyda Dicw, gan ddarganfod ei allu i wneud triciau hud.
Mewn cyffro addawodd y bechgyn ddychwelyd gyda chymorth o’u pentref.
Yn ôl yn y pentref, bu Trystan a Tudur yn dweud wrth bawb am eu hantur. Fodd bynnag, roedd y pentrefwyr yn amheugar ac yn ofnus. Roedden nhw wastad wedi cael eu dysgu bod dreigiau yn greaduriaid peryglus.
“Rhaid i chi gadw draw o’r ddraig,” rhybuddiodd tad-cu Trystan. “Fe allai ddod â risg mawr i ni i gyd.”
Yn ddigalon, dychwelodd y ddau i weld Dicw. Wrth iddynt gerdded drwy’r goedwig hudolus, eu llwybr wedi’i oleuo gan olau’r haul, clywsant larwm perygl y pentref yn sydyn, yn atseinio drwy’r coed.
“Mae rhywbeth o’i le,” meddai Tudur, wrth gyflymu ei gyflymder.
Pan gyrhaeddon nhw gyrion y pentref, gwelon nhw ddraig ddu enfawr, ei raddfeydd mor dywyll â’r nos, yn ymosod ar eu cartref. Roedd fflamau’n llenwi’r awyr, a rhedodd y pentrefwyr mewn ofn.
“Mae’n rhaid i ni helpu,” anogodd Trystan gan droi at Dicw. “Wyt ti’n gallu helpu?”
Gyda sglein yn ei lygaid, gwenodd a nodiodd. Helpodd y bechgyn ef yn ôl i’r pentref. Pan gyrhaeddon nhw, fe ddaeth Dicw wyneb yn wyneb â’r ddraig ddu.
Yna, gyda rhuad nerthol, byrstiodd golau euraidd o’i gorff, gan greu tarian enfawr i gysgodi’r pentref.
Roedd y ddraig ddu, wedi’i dychryn gan gryfder a hud Dicw. Gan ddefnyddio ei holl ddewrder, lledodd golau llachar ar draws y pentref a hel ofn ar y ddraig gas, sgrechiodd mewn poen a hedfan i ffwrdd.
Rhyfeddodd y pentrefwyr. Achubwyd eu cartrefi, diolch i ddewrder y ddraig yr oeddent wedi’u hofni.
“Mae Dicw yn arwr!” bloeddiodd Tad-cu.
Yn ddiolchgar, penderfynodd y pentrefwyr i helpu Dicw ymhob ffordd y gallent. Gyda sgiliau gof y pentref a saer coed, fe wnaethant grefftio coes a breichiau newydd Dicw.
Pan roddodd gynnig arnyn nhw, symudodd gyda rhyddid, yn wên o glust i glust. O’r diwrnod hwnnw ymlaen, daeth Dicw yn warcheidwad annwyl y pentref.
Roedd Trystan a Tudur yn falch o alw Dicw yn ffrind. Roedd y ddraig oedd unwaith yn unig wedi dod o hyd i’w le, ac ynghyd â Trystan a Tudur, roedd yn byw’n hapus, gan wybod fod pawb yn ei garu.