Croeso cynnes i dro pedol Starmer ar daliadau tanwydd y gaeaf

tanwyddFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r taliad tanwydd gaeaf yn £200 y flwyddyn i bensiynwyr o dan 80 oed

  • Cyhoeddwyd

Mae Prif Weinidog Cymru wedi croesawu'r newyddion bod Prif Weinidog y DU yn ystyried gwneud newidiadau i'r polisi lwfans tanwydd y gaeaf, gan gynnwys y trothwy ar gyfer taliadau.

Yn sesiwn gwestiynau'r Prif Weinidog yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Mercher fe gyhoeddodd Syr Keir Starmer dro pedol ar y taliadau tanwydd i bensiynwyr.

Daw yn dilyn penderfyniad dadleuol y llynedd i dorri'r taliadau i filiynau o bensiynwyr.

Dywedodd Syr Keir ei fod eisiau i fwy o bobl hŷn fod yn gymwys i'w derbyn ac felly bod Llywodraeth y DU yn edrych ar wneud newidiadau i'r polisi.

'Wrth fy modd'

Wythnos diwethaf fe wnaeth Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan annog llywodraeth Lafur y DU i ailystyried y toriadau i daliadau tanwydd gaeaf.

Dywedodd bod "llawer o bobl yn rhwystredig iawn" am y polisi, ac nad oes gan weinidogion Llafur Cymru yr arian i "lenwi bylchau" i bensiynwyr yng Nghymru.

Yn ymateb i'r cyhoeddiad ddydd Mercher, dywedodd: "Rwyf wrth fy modd bod y Prif Weinidog wedi gwrando ar y pryderon a fynegais iddo ac y bydd yn ailystyried y cymhwysedd ar gyfer taliadau tanwydd gaeaf.

"Mae hyn yn unol â gwerthoedd ein Ffordd Goch Gymreig.

"Achosodd y toriadau arfaethedig i'r taliad tanwydd bryder gwirioneddol i bobl ledled Cymru.

"Nid ydym wedi clywed manylion y cyhoeddiad eto, ond rwy'n obeithiol y bydd llawer mwy o bobl bellach yn elwa o'r taliad."

Syr Keir StarmerFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Cyhoeddodd Syr Keir Starmer dro pedol ar y taliadau tanwydd i bensiynwyr ddydd Mercher

Mae'r taliad tanwydd gaeaf yn £200 y flwyddyn i bensiynwyr o dan 80 oed, gan gynyddu i £300 i bobl dros 80 oed, ac yn cael ei dalu ym mis Tachwedd neu fis Rhagfyr.

Fydd y newidiadau ddim yn cael eu cyhoeddi tan yr Hydref pan fydd llywodraeth y DU yn datgelu eu cyllideb nesaf ar gyfer gwariant cyhoeddus.

Dywedodd Chris Bryant, AS Llafur Rhondda, fod cannoedd o etholwyr wedi codi'r mater wedi i daliadau tanwydd y gaeaf gael eu torri y llynedd.

"Rwy'n falch iawn bod Keir wedi cyhoeddi'r hyn y mae wedi'i wneud heddiw," meddai'r gweinidog diwylliant wrth raglen Politics Live y BBC.

Roedd Syr Keir Starmer wedi diystyru unrhyw newid i'r polisi yn flaenorol.