Morgan yn galw eto am ailystyried torri taliadau tanwydd

Eluned Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Eluned Morgan yn siarad ar BBC Breakfast fore Iau

  • Cyhoeddwyd

Mae Prif Weinidog Cymru wedi annog llywodraeth Lafur y DU eto i ailystyried y toriadau i daliadau tanwydd gaeaf.

Dywedodd Eluned Morgan bod "llawer o bobl yn rhwystredig iawn" am y polisi, ac nad oes gan weinidogion Llafur Cymru yr arian i "lenwi bylchau" i bensiynwyr yng Nghymru.

Mae galwadau o fewn Llafur i roi'r gorau i'r toriadau wedi cynyddu yn sgil colledion yn yr etholiadau lleol diweddar yn Lloegr.

Mae Prif Weinidog y DU Syr Keir Starmer wedi dweud yn flaenorol na fydd newid i bolisi Llywodraeth y DU.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno ei thaliad tanwydd gaeaf ei hun i bensiynwyr.

gwresogyddFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r taliad tanwydd gaeaf yn £200 y flwyddyn i bensiynwyr o dan 80 oed

Wrth siarad ar BBC Breakfast, dywedodd Ms Morgan fod y toriad i daliadau tanwydd gaeaf yn "her" i'w phlaid, ond nad oes gan ei llywodraeth yr arian i wneud i fyny am y toriad.

"Mae hynny'n her i ni," meddai.

"Rwy'n amharod i lenwi bylchau os caiff ei dynnu'n ôl gan Lywodraeth y DU a bod rhaid i ni gamu i mewn.

"Mae llawer o bobl yn rhwystredig iawn am hynny, a dyma'r prif fater sy'n codi ar garreg y drws."

Dywedodd y byddai'n "anodd iawn" cymryd yr arian o rywle arall yng nghyllideb Llywodraeth Cymru, gan ddweud: "Dydw i ddim eisiau cymryd arian o'r GIG."

Mae'r taliad tanwydd gaeaf yn £200 y flwyddyn i bensiynwyr o dan 80 oed, gan gynyddu i £300 i bobl dros 80 oed, ac yn cael ei dalu ym mis Tachwedd neu fis Rhagfyr.

Y llynedd fe wnaeth y llywodraeth gyfyngu'r taliadau i bobl sy'n gymwys ar gyfer credyd pensiwn a budd-daliadau eraill sy'n gysylltiedig ag incwm, mewn ymgais i arbed £1.4bn.

Mae'r penderfyniad, nad oedd ym maniffesto Llafur ar gyfer yr etholiad cyffredinol, yn golygu na fydd tua naw miliwn o bensiynwyr yng Nghymru a Lloegr yn gymwys.

Mae wedi cael ei ystyried yn fater allweddol yn yr etholiadau lleol diweddar yn Lloegr, lle collodd Llafur 187 o seddi cyngor a rheolaeth dros yr unig gyngor yr oedd yn ei amddiffyn.

Mae hefyd yn un o nifer o heriau y mae Llywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur yn eu hwynebu, gydag etholiadau'r Senedd fis Mai nesaf ar y gorwel.

'Amddiffyn ei theyrngarwch i Starmer'

Yn ymateb i'r cyfweliad, dywedodd aelod o'r Senedd Plaid Cymru, Llŷr Gruffydd, bod Eluned Morgan wedi "methu dro ar ôl tro â chondemnio rhethreg raniadol Keir Starmer neu fynnu bod y toriadau taliadau tanwydd gaeaf creulon yn cael eu dileu".

"Bydd y ddau bolisi yn cael effaith andwyol ar Gymru ond mae'r prif weinidog yn amddiffyn ei theyrngarwch i Keir Starmer yn hytrach na sefyll dros gymunedau Cymru," meddai.