Mwy o bensiynwyr yn marw heb daliad tanwydd y gaeaf

Rhian Bowen Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Comisiynydd Pobl Hŷn yn dweud bod angen i weinidogion wyrdroi'r penderfyniad i gael gwared ar daliad tanwydd y gaeaf

  • Cyhoeddwyd

Mae’r Comisiynydd Pobl Hŷn yn dweud y bydd mwy o bensiynwyr yng Nghymru yn marw oherwydd y penderfyniad i waredu taliad tanwydd y gaeaf.

Bydd 90% o bensiynwyr rhwng 66 a 79 oed yn colli’r taliad, ynghyd â 71% o bensiynwyr ag anableddau.

Mae'r comisiynydd, Rhian Bowen Davies, yn dweud bod angen i weinidogion wyrdroi'r penderfyniad.

Mae Llywodraeth y DU yn dweud bod y toriad yn angenrheidiol er mwyn mynd i’r afael â’r hyn y maen nhw'n ei alw’n "dwll du" ariannol a adawyd ar ôl gan y Ceidwadwyr.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sheila yn un o ferched WASPI ac yn teimlo ei bod hi wedi cael ei tharo ddwywaith

Dechreuodd Shelia Burgess o Fagwyr ger Casnewydd weithio yn 15 oed.

Roedd hi’n meddwl y byddai'n gallu hawlio pensiwn y wladwriaeth yn 60 oed, ond wedyn cafodd ei dal allan gan newidiadau’r llywodraeth i’r rheolau.

Mae Sheila yn un o ferched WASPI - merched a anwyd yn y 1950au ac sydd wedi eu heffeithio gan newidiadau Llywodraethy DU i bensiynau.

Mae hi bellach yn colli taliad tanwydd y gaeaf hefyd ac yn dweud ei bod wedi cael ei tharo ddwywaith.

"Roedd y lwfans tanwydd y gaeaf yn golygu bo'n i ddim yn gorfod poeni os oedd y tywydd yn mynd yn oer iawn ac yn mo'yn rhoi'r gwres ymlaen am fwy o amser yn y dydd.

"Nawr mae'n rhaid i ni feddwl ddwywaith am hynny. Rwy’n gwybod nad yw'n swm enfawr o arian ond mae’r £300 yn ystod misoedd y gaeaf wedi bod yn help mawr."

Mae ffigyrau Llywodraeth y DU ei hun a ddatgelwyd ar ôl cais Rhyddid Gwybodaeth, yn dangos y bydd 83% o bobl dros 80 oed yn colli taliad tanwydd y gaeaf, tra bod hynny’n codi i 90% i’r rhai rhwng 66 a 79 oed.

Yn ôl y Comisiynydd Pobl Hŷn, Rhian Bowen Davies, bydd mwy o bobl yn marw o ganlyniad.

"Mae peidio cael taliad tanwydd y gaeaf yn golled o £200 neu £300 i unigolion ar unwaith - gan ein bod yn mynd i mewn i'r gaeaf, pan fydd y cap ar bris ynni wedi cynyddu hefyd.

"Felly bydd pobl yn teimlo effaith hyn nawr. Ni’n gwbod y gall hyn arwain at 4,000 o farwolaethau ychwanegol y gaeaf hwn."

'Gwarthus'

Bydd grwpiau eraill ar eu colled hefyd wrth i’r taliad gael ei dynnu oddi ar 71% o bensiynwyr anabl.

Mae Prif Weithredwr Anabledd Cymru, Rhian Davies, yn dweud bod hynny’n warthus ac mae angen pob ceiniog arnyn nhw.

Dywedodd: "Mae llawer o bobl anabl, o bob oed, yn aml â chostau tanwydd uwch ac angen mwy o ddefnydd o drydan, gwres, sy’n ymwneud yn uniongyrchol â'u anabledd.

"Mae angen iddynt gael cartrefi cynnes - efallai oherwydd nam ar eu golwg mae angen iddynt gael golau da."

Cafodd y mater ei godi gan AS Plaid Cymru dros Gaerfyrddin, Ann Davies, yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog, yr wythnos hon.

Dywedodd Ann Davies: "Mae fy etholwr Janette Crawford yn dioddef o ME a phoen cronig. Mae amodau oer, llaith gaeaf Cymreig yn mynd i olygu llawer mwy o ddolur cyhyr a blinder iddi.

"Mae hi wedi colli ei thaliadau tanwydd y gaeaf oherwydd bod ganddi bot bach o gynilon," ychwanegodd.

"Gydag 86% o bensiynwyr mewn tlodi, neu ychydig uwchlaw’r linell honno, i golli allan yng Nghymru, a wnaiff y Prif Weinidog sefydlu tariff ynni cymdeithasol i helpu pobl fel Janette?"

Wrth ateb, dywedodd y Prif Weinidog Syr Keir Starmer: “Rydym wedi etifeddu twll du o £22 biliwn.

"Ry’n ni wedi ymrwymo i'r clo triphlyg. Mae'r pwynt am bensiynau yn wirioneddol bwysig, ac mae’r clo triphlyg yn golygu y bydd y pensiwn yn cynyddu eto £460 y flwyddyn nesaf.

"Mae hynny’n golygu y bydd pensiynwyr o dan Lafur yn well eu byd, oherwydd ry’n ni’n mynd i sefydlogi’r economi."

Cymorth arall ar gael?

Mae'r arbenigwr pensiynau Helen Morrissey, Pennaeth Dadansoddi Ymddeoliad yn Hargreaves Lansdown, yn dweud bod gan bobl sydd wedi colli’r taliad opsiynau.

Fe allai pobl wneud cais am gredyd pensiwn ac mae cymorth arall ar gael hefyd, meddai.

Awgrymodd bod modd edrych i weld "os ydych chi’n gymwys ar gyfer y gostyngiad cartref cynnes, sef ad-daliad o £150 oddi ar eich biliau tanwydd".

Ond nid yw Helen yn meddwl y bydd y Canghellor yn newid trywydd.

"Un peth a allai ddigwydd efallai yw ei bod yn meddalu rywfaint. Rwy'n meddwl bod cryn dipyn o achosion wedi bod o bobl nad ydynt yn hollol gymwys i gael credyd pensiwn.

"Efallai y byddwn ni'n ei gweld hi’n ceisio dod â rhyw fath o system i mewn lle mae’r bobl hynny yn gallu derbyn ychydig mwy o gefnogaeth oherwydd nhw sy'n colli fwya' oherwydd hyn."

Dywedodd Joel James AS, Gweinidog Cysgodol dros Gyfiawnder Cymdeithasol y Ceidwadwyr Cymreig: "Rhaid i Lafur wrando ar y rhybudd llym gan y Comisiynydd Pobl Hŷn. Bydd pensiynwyr yn marw oherwydd yr hyn maen nhw'n ei wneud.

“Mae degau o filoedd o bobl o Gymru’n unig wedi arwyddo deisebau yn galw ar Lafur i wrthdroi’r penderfyniad nonsensaidd hwn.

"Mae amser o hyd i newid cwrs cyn y gaeaf a rhoi'r arian y maent yn ei haeddu i bensiynwyr, cyn ei bod hi'n rhy hwyr."