Pilsen newydd ar gyfer canser y fron 'am newid y gêm'

"Dyma ydy'r dyfodol - ma'r gwaith caled wedi dechra' ers 20 mlynedd, a rŵan 'da ni'n gweld gwerth y gwaith," meddai Elen Hughes
- Cyhoeddwyd
Mae dynes o Sir Fôn sydd wedi bod yn brwydro canser yn dweud y bydd cyffur newydd ar gyfer canser y fron yn "newid y gêm."
Gallai miloedd o fenywod y flwyddyn elwa o bilsen capivasertib, sydd wedi cael ei gymeradwyo yng Nghymru a Lloegr.
Daw ar ôl i dreial clinigol ddangos ei fod yn gallu arafu datblygiad y clefyd, a lleihau tiwmorau mewn chwarter o bobl.
Mae'n un o sawl opsiwn triniaeth sydd ar gael i bobl os ydy eu canser wedi lledaenu.
Ond dywedodd elusen ganser y dylai cyffuriau canser y fron gael eu cymeradwyo'n gyflymach.
Bydd y cyffur, sydd wedi'i gymeradwyo gan Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE), ar gael yng Nghymru o fewn y 60 diwrnod nesaf, yn ôl Llywodraeth Cymru. Mae eisoes ar gael yn Lloegr.

Daeth canser Elen Hughes, sy'n fam i dri ac yn berchennog ar gartrefi gofal Plas Garnedd ar Ynys Môn, yn ei ôl yn 2016.
Mae hi wedi bod yn cymryd capivasertib, a dywedodd wrth raglen Post Prynhawn mai "hwn ydy'r hawsa', a hwn ydy'r un sy'n llenwi fi hefo gobaith mawr".
Esboniodd bod y cyffur wedi "galluogi fi i feddwl bod bywyd yn mynd i fod yn normal", ac nad ydy hi'n teimlo'n sâl o'i achos - yn wahanol i driniaethau eraill.
"Dwi'n teimlo fatha pob un dynes arall 54 oed, a ma' hynny mor special - yn feddyliol ac yn gorfforol.
"Yn feddyliol o bosib yn fwy, achos os 'sa bobl yn darllen mewn i'r driniaeth yma - mae o'n groundbreaking, mae o'n gamechanger."
'Dyma ydy'r dyfodol'
Dywedodd Ms Hughes ei bod yn dal i deimlo'n flinedig ar rai dyddiau, ond ei bod hi'n gallu derbyn hynny: "Dwi'n 54. Tydw i ddim yn ifanc ddim mwy.
"Mae o 'di bod yn wych, does 'na ddim math o symptoma' lle faswn i ddim yn gallu mynd allan ac enjoio fy niwrnod.
"Dyma ydy'r dyfodol - ma'r gwaith caled wedi dechra' ers 20 mlynedd, a rŵan 'da ni'n gweld gwerth y gwaith."
Ychwanegodd ei bod "mor falch" ei bod yn fyw i gael cyfle i drio'r cyffur, a chael bod yn "guinea pig er mwyn g'neud bywyd pobl eraill yn well".
"Ma'r cyffur yma yn mynd i newid y gêm i ni.
"'Dwn i ddim am faint, ond mae o'n golygu bo' ni'n gallu, gobeithio, edrych ar ddwy, dair, pedair, ella' pum mlynedd o heddwch."
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
Canser y fron yw'r canser mwyaf cyffredin yn y DU, gydag un o bob saith o fenywod yn cael eu heffeithio yn eu hoes a 75% yn goroesi am 10 mlynedd neu fwy ar ôl diagnosis.
Os bydd y canser yn dychwelyd ac yn lledaenu i rannau eraill o'r corff, nod triniaethau yw ei reoli, lleihau'r symptomau a gwella ansawdd bywyd.
Mae triniaethau posib yn cynnwys cemotherapi, radiotherapi a chyffuriau sy'n helpu i atal y canser rhag tyfu - naill ai drwy rwystro hormonau, rhoi hwb i system imiwnedd y corff neu dargedu'r hyn sy'n gwneud i gelloedd canser dyfu.
Mae'r cyffur capivasertib yn therapi wedi'i dargedu. Mae'n gweithio mewn ffordd newydd, gan rwystro gweithgaredd moleciwl protein o'r enw AKT sy'n gyrru twf canser.
'Opsiwn effeithiol iawn'
Dechreuodd gwyddonwyr ddatblygu'r cyffur 20 mlynedd yn ôl ac maen nhw'n dweud mai dyma'r cyffur canser mwyaf effeithiol maen nhw wedi'i weld ar gyfer canser datblygedig.
"Mae'n cyflwyno opsiwn effeithiol iawn a all weithio am amser hir - misoedd lawer, ac am flynyddoedd i rai pobl," meddai'r Athro Nick Turner, ymchwilydd arweiniol ac athro oncoleg feddygol yn y Sefydliad Ymchwil Canser a'r Royal Marsden.
Wedi'i gyfuno â therapi hormonau mewn treialon â 708 o fenywod, dyblodd y cyffur yr amser a gymerodd y canser i dyfu, o 3.6 mis i 7.3 mis. Ciliodd tiwmorau hefyd mewn 23% o gleifion.
"Mae'n gallu oedi cemotherapi - sy'n codi ofn ar lawer o fenywod oherwydd y sgil-effeithiau - yn sylweddol," ychwanegodd yr Athro Turner.
"Mae canser y fron sydd wedi datblygu yn hawdd ei drin ac rydym eisiau triniaethau mwy caredig a gwell."